Tenantiaethau ag ôl-ddyledion ar 31 Mawrth yn ôl blwyddyn, darparwr a hyd
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Ôl-ddyledion rhent tai cymdeithasolDiweddariad diwethaf
25 Gorffennaf 2024Diweddariad nesaf
Mawrth 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casgliad data am ôl-ddyledion rhent tai cymdeithasol, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.tai@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn dangos lefel ôl-ddyledion rhent tai cymdeithasol ar 31 Mawrth. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu er mwyn monitro tueddiadau dros amser yn lefel gyffredinol ôl-ddyledion rhent tai cymdeithasol.Dangosir ôl-ddyledion ar gyfer tenantiaethau mewn unedau annibynnol ac unedau nad ydynt yn annibynnol. Nid yw data ar ôl-ddyledion yn cael ei gasglu ar gyfer daliadaethau a daliadaethau nad ydynt ar renti cymdeithasol. Mae data ar ôl-ddyledion rhent yn hepgor ôl-ddyledion ar gostau garej ac ôl-ddyledion ar gyfer costau llys neu atgyweiriadau.
Ystyr ôl-ddyledion presennol tenantiaid yw dyled gros y tenantiaid presennol mewn perthynas â rhent, ac eithrio ffioedd eraill y landlord, sydd wedi'u cynnwys yn y debyd gros ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, heb ddidynnu taliad a dderbyniwyd ymlaen llaw ond gan ddidynnu'r symiau canlynol:
1)Symiau a dderbyniwyd ond na roddwyd ar gyfrifon tenantiaid, er enghraifft, budd-dal tai neu ad-daliadau.
2)Symiau sy'n dderbyniadwy heblaw gan denantiaid eraill, er enghraifft, gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
3)Addasiadau eraill, er enghraifft, symiau a ddebydir i gyfrifon tenantiaid ond nad oes rhaid i denantiaid eu talu o dan gytundeb.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar 31 Mawrth bob blwyddyn.Yn 2018-19 nid oedd Cymdeithas Tai Benisel yn gallu cyflwyno data. Felly defnyddiwyd gwybodaeth a ddarparwyd gan Gymdeithas Tai Baneswell ar gyfer 2017-18 ar gyfer 2018-19 er mwyn darparu cyfanswm awdurdod lleol a Chymru fwy cywir.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data ar gyfer pob blwyddyn ariannol o 1996-97 ymlaen.Nodwch, oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020, ni chasglwyd data ar ôl-ddyledion rhent tai cymdeithasol ar gyfer 2019-20.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
DimGwybodaeth am ddiwygiadau
Diwigiwyd y data 2015-16 ar gyfer 'Tai Cymunedol Tai Calon' ers cyhoeddi o'r blaen yn StatsCymru. Marciwyd y diwygiadau yn y data gyda (r).Allweddeiriau
Tai, Ôl-ddyledion, RhentiAnsawdd ystadegol
Mae'r data hwn wedi'i ddiwygio yn 11 Gorffennaf 2018 ar ôl derbyn ffigurau diwygiedig ar gyfer tenantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion ar 31 Mawrth 2017 a blynyddoedd cynharach gan nifer o landlordiaid cymdeithasol.Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.