Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Cyfanswm stoc tai cymdeithas i'w rhentu yn ôl ardal awdurdod lleol a'r math o annedd
None
[Lleihau]Llety[Hidlwyd]
-
Llety 1[Hidlo]
[Lleihau]Ystafelloedd gwely[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Ystafelloedd gwely 1[Hidlo]
-
[Lleihau]Ystafelloedd gwely 2[Hidlo]
-
Ystafelloedd gwely 3[Hidlo]
Côd Ardal[Hidlo]
Mesur[Hidlwyd]
[Lleihau]DarparwrHoll stoc a adroddwyd gan landlordiaid cymdeithasol[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Darparwr 1[Hidlo]
-
[Lleihau]Darparwr 2[Hidlo]
-
Darparwr 3[Hidlo]
BlwyddynMae\'r data stoc yn cyflwyno gwybodaeth gryno am stoc a gedwir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSLs) ar 31 Mawrth bob blwyddyn.<br />Ni chasglwyd data o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar gyfer 2019-20 (2020-21 ar gyfer rhenti wythnosol ar gyfartaledd) oherwydd y pandemig Coronafeirws (COVID-19) yn 2020.[Hidlwyd]
Measure2
[Lleihau]AnneddAnnedd hunangynhwysol yw llety a feddiannir gan gartref gyda defnydd unigryw baddon/cawod a thoiled y tu mewn a rhai cyfleusterau coginio. Annedd nad yw\'n hunangynhwysol yw llety a feddiannir gan gartref sy\'n brin o ddefnydd unigryw o faddon/cawod neu doiled neu ryw gyfleusterau coginio.[Hidlwyd]
-
Annedd 1
Ardal[Hidlo]
[Lleihau]Cyfanswm (hunangynhwysol a anhunangynhwysol)Cliciwch yma i ddidoliCyfanswm (hunangynhwysol a anhunangynhwysol)
Cliciwch yma i ddidoliCyfanswm (yn cynnwys fflatiau un ystafell hunangynhwysol)Annedd annibynnol yw llety a feddiannir gan deulu gyda defnydd egsgliwsif o fath / cawod, ty bach mewnol a rhai cyfleusterau coginio.Cliciwch yma i ddidoliFlatiau un ystafell anhunangynhwysol‘Annedd nad yw’n annibynnol’ yw llety a feddiannir gan deulu ond heb ddefnydd egsgliwsif o fath/cawod a thy bach mewnol a pheth cyfleusterau coginio. Fel arfer, fflatiau un ystafell, tai a rennir, hosteli neu lety tebyg yw\'r rhain lle mae pob lle gwely fel arfer yn cael ei ystyried yn annedd nad yw’n annibynnol. Nodir fflatiau un ystafell fesul uned a hosteli / tai a rennir mewn lleoedd gwely.Cliciwch yma i ddidoliHosteli a thai a rennir anhunangynhwysol‘Annedd nad yw’n annibynnol’ yw llety a feddiannir gan deulu ond heb ddefnydd egsgliwsif o fath/cawod a thy bach mewnol a pheth cyfleusterau coginio. Fel arfer, fflatiau un ystafell, tai a rennir, hosteli neu lety tebyg yw\'r rhain lle mae pob lle gwely fel arfer yn cael ei ystyried yn annedd nad yw’n annibynnol. Nodir fflatiau un ystafell fesul uned a hosteli / tai a rennir mewn lleoedd gwely.
Cymru234,6651614,140238,966
Ynys Môn5,0190885,107
Gwynedd8,72201548,876
Conwy6,23392546,496
Sir Ddinbych5,66802595,927
Sir y Fflint10,205023110,436
Wrecsam13,238024313,481
Powys8,72801758,903
Ceredigion3,44912703,531
Sir Benfro8,6490858,734
Sir Gaerfyrddin12,652715712,816
Abertawe21,8362734322,206
Castell-nedd Port Talbot12,607713512,749
Pen-y-bont ar Ogwr9,15501639,318
Bro Morgannwg7,68041517,835
Caerdydd26,4626590327,430
Rhondda Cynon Taf15,8811230816,201
Merthyr Tudful5,8300375,867
Caerffili15,101511015,216
Blaenau Gwent7,8400517,891
Torfaen10,30604410,350
Sir Fynwy5,7130585,771
Casnewydd13,6911312113,825

Metadata

Teitl

Stoc a rhenti anheddau ar renti cymdeithasol

Diweddariad diwethaf

7 Medi 2023 7 Medi 2023

Diweddariad nesaf

Awst 2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Casgliad data am stoc a rhenti landlordiaid cymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost

ystadegau.tai@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy gyhoeddiadau blynyddol gan landlordiaid cymdeithasol Cymru ar stoc a gedwir gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSLs) ar 31 Mawrth bob blwyddyn a'r rhenti cyfartalog cysylltiedig a godir wedi'u gosod ar yr un dyddiad ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

Stoc
Mae'r amcangyfrifon stoc yn y set ddata hon yn cynnwys yr holl stoc, waeth a yw'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru neu fel arall, ar 31 Mawrth bob blwyddyn, y codir rhenti cymdeithasol arni. Mae'n cynnwys stoc barhaol a dros dro.

Nid yw'r set ddata hon yn cynnwys:
• eiddo y codir unrhyw beth heblaw rhenti cymdeithasol arnynt, gan gynnwys y rhai y codir rhenti canolraddol neu farchnad arnynt, a daliadaethau canolraddol (er enghraifft, eiddo cyd-berchnogaeth);
• pob eiddo nad ydynt yn eiddo preswyl;
• anheddau a brydlesir er mwyn darparu cartref dros dro i bobl ddigartref;
• unrhyw anheddau a reolir fel asiantaeth gosodiadau cymdeithasol;
• eiddo lle mae'r landlord cymdeithasol wedi gwerthu'r lesddaliad trwy hawl i brynu, ond yn cadw'r rhydd-ddaliad; a
• Eiddo buddsoddiad RSL.

Roedd y data'n cael ei gasglu trwy gyhoeddiadau blynyddol WHO15 gan awdurdodau lleol a chyhoeddiadau blynyddol RSL1 gan RSLs hyd at 2008-09 ond, ers hynny, mae wedi'i gasglu trwy gasgliad data Stoc a Rhenti Landlordiaid Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Mae cyfran y stoc tai cymdeithasol a reolir gan RSLs wedi'i dylanwadu gan drosglwyddiadau gwirfoddol stoc awdurdod lleol ar raddfa fawr. I gael mwy o wybodaeth, gweler y Wybodaeth am Ansawdd yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol (trwy'r ddolen we).

O fewn anheddau annibynnol, mae'r mathau o lety yn cynnwys llety anghenion cyffredinol, llety gwarchod, llety â chymorth a thai gofal ychwanegol, ac mae data fel hyn ar gael yn ôl i 2008-09. Wrth gasglu data 2012-13, cafodd y data a oedd yn cael ei gasglu ar gyfer anheddau nad ydynt yn annibynnol ei ddadansoddi i'r un mathau o lety. Cyn hynny, roedd data ar anheddau nad ydynt yn annibynnol ond yn cael ei gasglu fel cyfanswm ar draws pob math o lety.

Bydd ffigurau stoc yn amrywio o'r amcangyfrifon stoc anheddau a gyhoeddir, sy'n rhagdybio bod tri gofod gwely mewn uned nad yw'n annibynnol yn gyfwerth ag un annedd.

Mae fflatiau deulawr yn cael eu categoreiddio fel fflatiau, ac mae byngalos yn cael eu categoreiddio fel tai.

Mae data ar gyfer RSLs sydd wedi cofrestru yn Lloegr ond sydd â stoc yng Nghymru wedi'i hepgor.

Rhenti

Mae'r data hwn yn cyflwyno gwybodaeth am y rhenti wythnosol cyfartalog ar gyfer anheddau rhent awdurdod lleol ac RSL a osodir ar 31 Mawrth bob blwyddyn ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol.

Roedd y data'n cael ei gasglu trwy ffurflenni blynyddol WHO15 gan awdurdodau lleol a chyhoeddiadau blynyddol RSL1 gan RSLs hyd at 2008-09 ond, ers hynny, mae wedi'i gasglu trwy gasgliad data Stoc a Rhenti Landlordiaid Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Dangosir rhenti ar 31 Mawrth ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol. Os bydd awdurdod lleol yn trosglwyddo ei stoc i RSL newydd yn ystod y flwyddyn, dangosir y rhenti ar gyfer yr awdurdod lleol ar gyfer y flwyddyn gyfan. Yn y set ddata hon, bydd y rhenti'n symud i'r RSL newydd o 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol. Mae rhestr o'r trosglwyddiadau stoc awdurdod lleol gwirfoddol ar raddfa fawr a'r dyddiadau trosglwyddo ar gael yn y Wybodaeth am Ansawdd yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol (gweler y dolenni gwe).

Y rhent wythnosol cyfartalog yw cyfartaledd y rhent safonol y gellir ei godi, cyn didynnu lwfansau rhent, ac mae hefyd yn hepgor ffioedd gwasanaeth eraill neu ffioedd eraill ar gyfer amwynderau (e.e. gwres canolog, cyflenwad dwr poeth neu olchi dillad) a chyfraddau dwr.

Mae rhenti’n seiliedig ar flwyddyn 52 wythnos. Os rhoddir wythnosau di-rent, caiff y cyfanswm sy’n ddyledus ei rannu gyda 52.

Mae eiddo o faint anarferol yn cael eu haseinio i’r categori agosaf sydd ar gael. Mae fflatiau deulawr yn cael eu categoreiddio fel fflatiau, ac mae byngalos yn cael eu categoreiddio fel tai.

Mae’r data’n cynnwys tenantiaethau diogel a thenantiaethau sicr.

O fewn anheddau annibynnol, mae'r mathau o lety yn cynnwys llety anghenion cyffredinol, llety gwarchod, llety â chymorth a thai gofal ychwanegol, ac mae data fel hyn ar gael yn ôl i 2008-09. Cafodd data rhent ar gyfer anheddau nad ydynt yn anheddau annibynnol eu casglu am y tro cyntaf yn 2012-13, ac mae wedi’i ddadansoddi yn ôl yr un mathau o lety ag anheddau annibynnol. Cyn 2012-13, nid oes unrhyw ddata ar anheddau nad ydynt yn anheddau annibynnol ar gael.


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan landlordiaid cymdeithasol Cymru (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) ar y stoc oedd ganddynt ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Mae'r casgliad hefyd yn gofyn am y rhenti cyfartalog ar gyfer pob categori o stoc gan bob darparwr, wedi'i osod ar gyfer y flwyddyn ganlynol ar yr un dyddiad, sef 31 Mawrth. Gofynnir am y data gyda dadansoddiad rhwng anghenion cyffredinol, llety gwarchod, llety â chymorth a mathau eraill o lety gofal ychwanegol, gyda rhaniad i unedau nad ydynt yn annibynnol ac unedau annibynnol, a rhaniadau pellach o'r unedau annibynnol i ddata yn ôl nifer yr ystafelloedd gwely ar gyfer tai (gan gynnwys byngalos) a fflatiau (gan gynnwys fflatiau deulawr). Mae mwy o wybodaeth am stoc a gedwir gan y sefydliadau hyn ond nad yw ar gael ar renti cymdeithasol yn cael ei chasglu hefyd. Mae niferoedd Cymru yn cael eu cyfrifo trwy gyfrifo'r stoc ar draws yr holl ddarparwyr, gyda'r cyfartaledd rhent yn cael ei gyfrifo trwy bwyso'r ffigurau rhent unigol gyda'r stoc ym mhob cell o'r data.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Dangosir data ar gyfer stoc rhwng 2003-04 a 2012-13. Mae'r ffigurau ar gyfer pob blwyddyn ariannol yn cynrychioli'r sefyllfa ar 31 Mawrth (h.y. ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol). Mae data ar gyfer rhenti a gyhoeddir ar 31 Mawrth yn sôn am y rhenti ar gyfer y flwyddyn ganlynol, felly mae'n cwmpasu'r cyfnod rhwng 2004-05 a 2014-15 yn y data hwn.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Dim

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Mae data cyn y cyfnod diwethaf sydd wedi'i ddiwygio ers y cyhoeddiad diwethaf wedi'i nodi gydag (r).

Gan fod y data hwn yn rhan o gasgliadau data eraill, er enghraifft, cyfrifiadau eiddo sy'n cydymffurfio â Safon Ansawdd Tai Cymru, mae'n bosibl y bydd y data yn amodol ar fân ddiwygiadau maes o law. Os bydd angen, er enghraifft, lle mae'r diwygiadau'n sylweddol, bydd y diwygiadau hyn yn cael eu cynnwys mewn cyhoeddiad data ffurfiol diwygiedig hefyd (gweler y dolenni gwe).

Ansawdd ystadegol

Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir.

Allweddeiriau

tai cymdeithasol; stoc; rhenti; tai; fflatiau; ystafelloedd gwely; anghenion cyffredinol; llety gwarchod; llety â chymorth; llety gofal ychwanegol; landlordiaid cymdeithasol