Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Y ganran o’r bobl sy’n gallu siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol
None
Dangosydd[Hidlwyd]
Oedran[Hidlwyd]
Rhyw[Hidlwyd]
Measure2
Blwyddyn[Hidlwyd]
Mesur[Hidlo]
Awdurdol Lleol[Hidlo]
[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoli2017-18[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoli2018-19[Lleihau]2019-20[Ehangu]Cliciwch yma i ddidoli2020-21[Lleihau]2021-22[Lleihau]2022-23
Cliciwch yma i ddidoliCanran o oedolion (16+)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder isaf (%)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder uchaf (%)Cliciwch yma i ddidoliCanran o oedolion (16+)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder isaf (%)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder uchaf (%)Cliciwch yma i ddidoliCanran o oedolion (16+)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder isaf (%)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder uchaf (%)
Cymru 161516 191819181719
Ynys Môn 555061 554961484254
Gwynedd 645969 696474645969
Conwy 241930 302536282134
Sir Ddinbych 191523 251931211626
Sir y Fflint 8510 1281512916
Wrecsam 11815 151120171122
Powys 161319 171420141116
Ceredigion 403446 413547363042
Sir Benfro 211625 141017141018
Sir Gaerfyrddin 373342 423746433848
Abertawe 8610 1181411815
Castell-nedd Port Talbot 7510 1391613917
Pen-y-bont ar Ogwr 9612 1181413917
Bro Morgannwg 11815 10614*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi
Caerdydd 10812 131116121014
Rhondda Cynon Taf 10813 131016141118
Merthyr Tudful *Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi 10714151021
Caerffili 7410 14101810713
Blaenau Gwent *Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi *Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi
Torfaen *Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi *Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi
Sir Fynwy *Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi *Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi10514
Casnewydd *Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi 8512*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi*Mae\’r eitem o ddata yn datgelu neu nid yw\’n ddigon cadarn i\’w gyhoeddi

Metadata

Teitl

Dangosyddion yr Arolwg Cenedlaethol

Diweddariad diwethaf

Mai 2023 Mai 2023

Diweddariad nesaf

Awst 2024 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost

arolygon@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Arolwg o bobl ledled Cymru yw Arolwg Cenedlaethol Cymru, a gynhaliwyd wyneb yn wyneb tan fis Mawrth 2020 a thros y ffôn ers hynny. Bob blwyddyn gofynnir i tua 12,000 o bobl 16 oed a throsodd am eu barn ar ystod eang o faterion sy’n effeithio arnynt hwy a’u hardal leol. Dewisir yr ymatebwyr ar hap i sicrhau bod y canlyniadau’n gynrychioliadol.

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru, sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Cafodd 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mawrth 2016. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu diwygio ym mis Rhagfyr 2021 a gosodwyd cyfres o 50 o ddangosyddion cenedlaethol yn lle’r rhai a osodwyd yn 2016. Arolwg Cenedlaethol Cymru fydd ffynhonnell ddata pymtheg o’r dangosyddion cenedlaethol: dangosyddion 3, 19, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 35, 36, 37, 38 a 46. Yr Arolwg Cenedlaethol a arferai fod y ffynhonnell ddata ar gyfer dangosydd cenedlaethol 20, ond nid yw’r fersiwn ddiwygiedig a osodwyd yn 2021 yn cael ei mesur gan yr arolwg erbyn hyn. Bydd rhai dangosyddion yn cael eu diweddaru’n flynyddol ac eraill yn llai aml, gan ddibynnu ar ba mor gyflym y mae’r canlyniadau’n debygol o newid. Yn achos pynciau sy’n newid yn arafach, ni fyddant yn cael eu cynnwys yn yr arolwg, na’u diweddaru felly, bob blwyddyn.

Am fwy o wybodaeth, gweler Dolenni’r we.


Casgliad data a dull cyfrifo

Casglu’r canlyniadau:

Bob blwyddyn, mae dros 20,000 o gyfeiriadau’n cael eu dewis ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post Mân Ddefnyddwyr y Post Brenhinol. Tan fis Mawrth 2020, roedd y cyfwelwyr yn ymweld â phob cyfeiriad, yn dewis un oedolyn (16+ oed) ar hap ar yr aelwyd, ac yna’n trefnu i gynnal cyfweliad wyneb yn wyneb a’r person hwnnw. O fis Mai 2020 ymlaen, anfonir llythyr rhagarweiniol o hyd i aelwydydd a ddewiswyd ar hap, ond gofynnir iddynt bellach ffonio neu lenwi ffurflen ar-lein a threfnu cyfweliad dros y ffôn.

Yn 2020-21, ni ofynnwyd pob cwestiwn ym mhob mis o’r flwyddyn, gan fod yr arolwg wedi’i gynnal yn fisol ac yna’n chwarterol, a’r holiadur wedi ei newid rhwng misoedd/chwarteri. Yn benodol, mae canlyniadau 2020-21 ar gyfer dangosyddion 23, 24, 25, 26 a 36 yn dod o arolygon a gynhaliwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021.

Roedd arolwg 2021-22 yn cynnwys treial ar-lein rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Ionawr 2022, pan gwblhaodd is-garfan o’r ymatebwyr gwestiynau ychwanegol. Y treial hwn sy’n rhoi canlyniadau 2021-22 ar gyfer dangosyddion 28, 29 a 46.

Roedd arolwg 2022-23 yn cynnwys adran ar-lein a gafodd ei ateb gan bob ymatebydd, sy'n rhoi canlyniadau 2022-23 ar gyfer dangosyddion 28 a 29.

Nid yw pob cwestiwn yn cael ei ofyn i bob ymatebydd. Nid yw rhai cwestiynau’n berthnasol i rai ymatebwyr (e.e. nid oes ganddynt blant), a gofynnir rhai cwestiynau dim ond i is-sampl o ymatebwyr ar hap, gan fod angen y canlyniadau ar lefel genedlaethol yn unig.

Fel yn achos unrhyw ffigurau sy’n seiliedig ar arolwg, mae’r canlyniadau hyn yn destun ffiniau cyfeiliornad. Dangosir y ffiniau cyfeiliornad (“cyfyngau hyder”) ar gyfer pob canlyniad. Mae’r rhain yn rhoi amrediad y mae’r gwerth gwirioneddol yn debygol o syrthio oddi fewn iddo.

Cyfrifo’r dangosyddion:
Caiff canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol eu pwysoli i unioni’r tebygolrwydd o ddethol mewn modd anghyfartal a diffyg ateb gwahaniaethol (h.y. i sicrhau bod dosbarthiad oedran a rhyw y set ddata derfynol yn cyfateb i boblogaeth Cymru). Mae ymatebwyr a wrthododd ateb cwestiwn neu a nododd ‘Ddim yn gwybod’ yn cael eu heithrio o’r canlyniadau oni nodir yn wahanol.

Mae dangosydd CD 19 (Canran y bobl sy’n byw ar aelwydydd mewn amddifadedd materol) yn deillio o gyfres o gwestiynau a gynlluniwyd i fesur lefel amddifadedd materol aelwydydd. Cymerwyd y cwestiynau o’r Arolwg o Adnoddau Teulu, ac mae’r fethodoleg a ddefnyddir i ddosbarthu pobl yn defnyddio dull tebyg, ond nad yw’n union yr un fath (mae’r Arolwg o Adnoddau Teulu hefyd yn defnyddio incwm, a gofynnwyd rhai o gwestiynau’r Arolwg Cenedlaethol dim ond i’r rhai y barnwyd eu bod ‘ar y ffin’ o fod mewn amddifadedd).

Gofynnwyd i oedolion nad ydynt yn bensiynwyr a oeddent yn gwneud pethau fel mynd ar wyliau ‘i ffwrdd o’r cartref am o leiaf wythnos y flwyddyn’, a oedd ganddynt ddigon o arian i gadw eu cartref ‘wedi ei addurno’n dda’, neu a oeddent yn gallu ‘cynilo £10 neu fwy y mis yn rheolaidd’. Roedd pwyslais ar ba mor fforddiadwy oedd yr eitemau hyn iddynt yn y cwestiynau ar gyfer oedolion nad ydynt yn bensiynwyr.

Gofynnwyd cwestiynau ychydig yn wahanol i bensiynwyr, megis a oedd eu cartrefi’n cael eu cadw’n ddigon cynnes, a oedd car neu wasanaeth tacsi ar gael iddynt pan oedd angen hynny, neu a oeddent yn cael trin neu dorri eu gwallt yn rheolaidd. Roedd y cwestiynau hefyd yn gofyn a oeddent yn gallu fforddio’r pethau hyn, ond roedd pwyslais hefyd ar beidio â gallu cael yr eitemau hyn am resymau eraill, megis iechyd gwael, neu fod neb i’w helpu, ac yn y blaen.

Byddai sgôr o 100 yn cael ei rhoi i’r rhai nad oedd ganddynt unrhyw eitem ar y rhestr, a sgôr o 0 i’r rheini a oedd â phob eitem. Roedd y rhai nad oeddent yn bensiynwyr a chanddynt sgôr o 25 neu fwy yn cael eu hystyried yn amddifadus, ac roedd pensiynwyr a chanddynt sgôr o 20 neu fwy yn cael eu hystyried yn amddifadus.

Mae pensiynwyr a phobl nad ydynt yn bensiynwyr wedi’u grwpio gyda’i gilydd ar gyfer y dangosydd hwn. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y cyfrifwyd y sgôr amddifadedd materol, cysylltwch â thîm yr Arolwg Cenedlaethol: arolygon@llyw.cymru

Dangosydd CD 20 (Canran y bobl sy’n dweud eu bod yn fodlon neu’n fodlon iawn yn eu gwaith) oedd canran y bobl a roddodd sgôr o 6 neu fwy ar gyfer lefel eu boddhad â’u swydd. Golygai sgôr o 0 nad oeddent yn fodlon o gwbl â’u swydd, a sgôr o 10 eu bod yn gwbl fodlon. Casglwyd y dangosydd hwn tan flwyddyn arolwg 2021-22, yn unol â diwygio’r dangosydd.

Dangosydd CD 23 (Y ganran sy’n teimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol) yw canran y bobl a oedd yn ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘tueddu i gytuno’ â’r datganiad “Rwy’n gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar fy ardal leol”.

Dangosydd CD 24 (Canran y bobl sy’n fodlon ar eu gallu i gyrraedd / cael at y cyfleusterau a’r gwasanaethau y mae eu hangen arnynt) yw canran yr oedolion sy’n dweud eu bod yn fodlon iawn neu’n eithaf bodlon â’u gallu i gyrraedd gwasanaethau a chyfleusterau yn eu hardal leol (o fewn pellter cerdded o 15 i 20 munud o’u cartref).

Dangosydd CD 25 (Canran y bobl sy’n teimlo’n ddiogel gartref, wrth gerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio) yw canran y bobl sy’n nodi eu bod yn teimlo’n ‘ddiogel iawn’ neu’n ‘eithaf diogel’ yn yr holl sefyllfaoedd a ganlyn wedi iddi dywyllu:
- yn y cartref
- wrth gerdded ar eu pen eu hunain
- wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
- wrth deithio mewn car.
Nododd cyfran gymharol uchel o bobl ‘ddim yn gwybod’ o ran pa mor ddiogel y maent yn teimlo wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Gan fod y dangosydd yn mesur pob un o’r pedair sefyllfa, mae maint y sampl ddilys yn llai oherwydd y gyfran fawr o ymatebwyr a nododd ‘ddim yn gwybod’.

Dangosydd CD 26 (Canran y bobl sy’n fodlon ar yr ardal leol fel lle i fyw) yw canran yr oedolion sy’n dweud eu bod yn teimlo’n fodlon iawn neu’n eithaf bodlon â’u hardal leol fel lle i fyw.

Mae dangosydd CD 27 (Canran y bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal; bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda; a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch) yn seiliedig ar gyfran y bobl sy’n cytuno’n gryf neu’n tueddu i gytuno:
- eu bod yn perthyn i’r ardal leol;
- bod yr ardal leol yn rhywle lle mae pobl o wahanol gefndiroedd yn dod ymlaen yn dda gyda’i gilydd
- bod pobl yn yr ardal leol yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth.
Pan ofynnwyd a oedd pobl o wahanol gefndiroedd yn dod ymlaen yn dda gyda’i gilydd, dywedodd rhai o’r ymatebwyr nad oedd digon o bobl yn yr ardal leol i allu ateb, neu fod y bobl yn eu hardal leol i gyd yn rhannu’r un cefndir. Cafodd yr ymatebwyr hyn eu cynnwys gyda’r rhai a oedd yn cytuno, ar yr amod eu bod yn ‘cytuno’n gryf’ neu’n ‘tueddu i gytuno’ â’r ddau ddatganiad arall.

Dangosydd CD 28 (Canran y bobl sy’n gwirfoddoli) yw canran yr oedolion sy’n rhoi o’u hamser am ddim i helpu clybiau neu sefydliadau. Nid yw’r data a gyflwynir yn cynnwys pobl sy’n darparu gofal i rywun.

Dangosydd CD 29 (Sgôr llesiant meddyliol gymedrig ar gyfer pobl) yw’r sgôr llesiant meddyliol gymedrig yn ôl Graddfa Llesiant Meddyliol Warwick-Caeredin (WEMWBS). Er mwyn asesu eu llesiant meddyliol ar raddfa WEMWBS, rhoddwyd 14 o ddatganiadau i’r ymatebwyr, fel “Rwyf wedi bod yn teimlo wedi ymlacio” ac “Rwyf wedi bod yn meddwl yn glir”. Gofynnwyd iddynt pa mor aml yr oeddent yn teimlo fel hyn ar raddfa â phum pwynt, lle roedd 1 yn dynodi ‘ddim o gwbl’ a 5 yn dynodi ‘trwy’r amser’. Wedi hynny, cyfrifwyd sgôr o 14 i 70, gyda sgoriau uwch yn nodi llesiant meddyliol gwell.

Dangosydd CD 30 (Canran y bobl sy’n unig) yw canran yr oedolion sy’n unig yn ôl graddfa unigrwydd De Jong Gierveld. Er mwyn asesu lefelau unigrwydd ar y raddfa hon, rhoddwyd 6 datganiad i’r ymatebwyr, megis “Rwy’n gweld eisiau cael pobl o fy nghwmpas” ac “Rwy’n teimlo’n agos at ddigon o bobl”, a gofynnwyd iddynt nodi i ba raddau yr oedd y datganiadau hyn yn berthnasol iddynt. Yna, cyfrifwyd sgôr o 0 i 6, ac roedd y bobl a gafodd sgôr o 4 neu fwy yn cael eu hystyried i fod yn unig.

Dangosydd CD 35 (Canran y bobl sy’n bresennol neu’n cyfranogi mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf 3 gwaith y flwyddyn) yw canran yr oedolion a fu’n bresennol neu a gymerodd ran mewn o leiaf 3 gweithgaredd ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth yn y 12 mis blaenorol.

Mae dangosydd CD 36 yn seiliedig ar y rhai sy’n dweud eu bod yn ‘siarad Cymraeg yn rhugl’, yn gallu ‘siarad cryn dipyn o Gymraeg’, neu’r rheini a oedd yn gallu ‘siarad ychydig o Gymraeg yn unig’; ac sydd hefyd yn siarad Cymraeg bob dydd.

Dangosydd CD 37 (Canran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg)
Y Cyfrifiad Poblogaeth yw’r brif ffynhonnell o wybodaeth am ganran y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg. Rhwng cyfrifiadau, defnyddir yr Arolwg Cenedlaethol i fonitro tueddiadau ar gyfer oedolion.
Mae’r dangosydd yn seiliedig ar oedolion 16 oed a throsodd sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r cwestiwn yn caniatáu i bobl ateb ‘ydw’ neu ‘nac ydw’, ac mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl ddweud yn ddigymell nad ydynt yn gallu siarad Cymraeg ond bod ganddynt rywfaint o sgiliau yn yr iaith. Dim ond y rhai sy’n ateb ‘ydw’ i’r cwestiwn hwn sy’n berthnasol i’r dangosydd monitro hwn.

Dangosydd CD 38 (Canran y bobl sy’n cyfranogi mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos). Ar gyfer y dangosydd hwn, dangoswyd cyfres o weithgareddau dan do ac awyr agored i’r ymatebwyr, a gofynnwyd iddynt a oeddent wedi cymryd rhan yn unrhyw rai ohonynt. Os oeddent, gofynnwyd iddynt sawl gwaith yr oeddent wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd dros y 4 wythnos ddiwethaf.

Mae dangosydd CD 46 (Dinasyddiaeth fyd-eang weithgar yng Nghymru) yn cael ei bennu gan bobl a gyflawnodd o leiaf 3 o’r camau a ganlyn i helpu gyda materion byd-eang:
Wedi rhoi arian neu godi arian yn y 3 mis diwethaf; wedi ymgyrchu yn y 12 mis diwethaf; wedi gwirfoddoli yn y 12 mis diwethaf; wedi newid yr hyn a brynwyd ganddynt er mwyn helpu gyda materion byd-eang.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler y datganiad ystadegol cyntaf a’r bwletinau ar gyfer y flwyddyn berthnasol. Gweler dogfen dechnegol dangosyddion cenedlaethol Cymru i gael gwybodaeth sy’n ymwneud â’r dangosyddion. Mae’r rhain i’w gweld o dan ‘Dolenni’r we’.

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

Dangosir data o 2012-13 ymlaen lle mae ar gael. Nid yw pob dangosydd yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn. Ni chynhaliwyd yr Arolwg yn 2015-16.

Ni fydd unrhyw arolwg yn 2023-2024.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Rydym wedi cyhoeddi adroddiadau ar y rhagfynegiadau allweddol ar gyfer nifer o ddangosyddion Cenedlaethau'r Dyfodol yn seiliedig ar ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol. Mae'r adroddiadau ar gael ar ein tudalennau gwe a gallent fod o gymorth i nodi camau gweithredu a fydd yn gwella cynnydd yn erbyn y dangosyddion hyn. Gweler Dolenni’r we.

Bydd y canlyniadau o ddefnydd i:
- Dimau polisi Llywodraeth Cymru
- Byrddau Iechyd, Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS)
- Awdurdodau lleol
- Sefydliadau gwirfoddol
- Gyfathrebwyr rhwydwaith CommsCymru y Gwasanaethau Cyhoeddus
- Academyddion
- Sefydliadau allanol
- Unigolion

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae’r canrannau wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf.

Lle nad ystyrir canlyniadau'r arolwg yn ddigon cadarn (h.y. llai na 30 o ymatebion), mae gwerthoedd wedi cael eu hatal. Cynrychiolir y rhain gyda "*" yn y tablau.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Ni threfnir unrhyw ddiwygiadau arfaethedig. Os caiff diwygiadau eu gwneud bydd y proses diwygio yn cael ei dilyn, gweler Dolenni’r we.

Cafodd canran y bobl sy’n bresennol neu’n cyfranogi mewn gweithgareddau ym maes y celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth 3 gwaith neu fwy y flwyddyn ei chyfrifo yn anghywir ar gyfer canlyniadau 2022-23. Mae hyn wedi cael ei gywiro o 17/11/23.

Ansawdd ystadegol

Mae Adroddiad Ansawdd cryno ar gael, sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl am ansawdd yr arolwg yn ogystal â chrynodeb o'r dulliau a ddefnyddir i grynhoi'r canlyniadau; gweler Dolenni’r we.

Allweddeiriau

Arolwg Cenedlaethol Cymru,; Arolwg Cenedlaethol; Cenedlaethau'r Dyfodol; CD; Dangosyddion; Dangosyddion Cenedlaethol; Llesiant;

Dolenni'r we

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015:
https://llyw.cymru/llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru
Sut mae mesur cynnydd cenedl? - Dangosyddion cenedlaethol: https://llyw.cymru/deddf-llesiant-cenedlaethaur-dyfodol-cymru-2015-sut-mae-mesur-cynnydd-cenedl
Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol: https://llyw.cymru/llesiant-cymru-dangosyddion-cenedlaethol
Llesiant Cymru: dangosyddion cenedlaethol disgrifiad technegol a dolenni data: https://llyw.cymru/llesiant-cymru-dangosyddion-cenedlaethol-disgrifiad-technegol-dolenni-data

Gwefan yr Arolwg Cenedlaethol Cymru: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru
Datganiadau Cyntaf (prif ganlyniadau):
2021-22: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2021-i-mawrth-2022
2019-20: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2019-i-mawrth-2020
2018-19: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2018-i-mawrth-2019
2017-18: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2017-i-mawrth-2018
2016-17: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2016-i-mawrth-2017
2014-15: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2014-i-mawrth-2015
Adroddiad ansawdd: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-gwybodaeth-dechnegol
Diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau: https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil-datganiad-ar-diwygiadau-camgymeriadau-gohiriadau
Gwybodaeth dechnegol: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-gwybodaeth-dechnegol

Adroddiadau ar y rhagfynegiadau allweddol:
Pwy sydd fwyaf tebygol o fod mewn amddifadedd materol?, 2014-15: https://llyw.cymru/amddifadedd-materol-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2014-i-mawrth-2015
Pwy sydd fwyaf tebygol o fod yn fodlon a’u swydd?, 2013-14: https://llyw.cymru/boddhad-swydd-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2013-i-mawrth-2014
Pwy sy’n debygol o deimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal?, 2014-15: https://llyw.cymru/dylanwadu-ar-benderfyniadau-mewn-ardal-leol-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2014-i-mawrth-2015
Pwy sydd fwyaf tebygol o deimlo’n ddiogel yn eu hardal leol?, 2013-14: https://llyw.cymru/teimlon-ddiogel-mewn-ardal-leol-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2013-i-mawrth-2014
Pwy sydd fwyaf tebygol o fod ag ymdeimlad cryf o gymuned?, 2013-14: https://llyw.cymru/synnwyr-o-gymuned-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2013-i-mawrth-2014
Pwy sydd fwyaf tebygol o siarad Cymraeg?, 2014-15: https://llyw.cymru/siarad-cymraeg-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2014-i-mawrth-2015