Arolwg Cenedlaethol Cymru
Mae hwn yn arolwg mawr o oedolion yng Nghymru, sy’n darparu gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau, fel lles a barn pobl ar wasanaethau cyhoeddus. O 2016-17 ymlaen cafodd ei ehangu i ymgorffori Arolwg Iechyd Cymru, Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru, Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru a'r Arolwg Oedolion Egnïol. Mae’r arolwg yn cael ei gynnal rhwng Ebrill bob blwyddyn hyd at fis Mawrth y flwyddyn ganlynol, gyda chanlyniadau manwl yn cael eu cyhoeddi yn flynyddol ym mis Mai/Mehefin bob blwyddyn. Ceir fwy o wybodaeth am yr arolwg drwy'r ddolen isod.
Gellir gweld y canlyniadau diweddaraf (Ebrill 2021 a mis Mawrth 2022) yn y dangosydd canlyniadau isod. Mae detholiad o ganlyniadau ar gael o dan y pynciau a restrir yn y ddewislen Catalog hefyd.