Y ganran o’r bobl sy’n gallu siarad Cymraeg (gan gynnwys y canran na allant siarad Cymraeg a'r canran gyda rhywfaint o allu i siarad Cymraeg) yn ôl awdurdod lleol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Arolwg wyneb yn wyneb o bobl ledled Cymru yw Arolwg Cenedlaethol Cymru. Bob blwyddyn, gofynnir i dros 11,000 o bobl 16 oed a throsodd am eu barn ar amrywiaeth eang o faterion sy'n effeithio arnynt hwy a'u hardal leol. Dewisir ymatebwyr ar hap er mwyn sicrhau bod y canlyniadau yn gynrychioliadol.Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Cafodd 46 dangosydd cenedlaethol eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ym Mawrth 2016 a’r Arolwg Cenedlaethol Cymru fydd y ffynhonnell ddata ar gyfer pymtheg o'r dangosyddion cenedlaethol: dangosydd 3, 19, 20, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 35, 36, 37 a 38. Bydd rhai dangosyddion yn cael ei diweddaru bob blwyddyn ac eraill yn llai aml sy’n ddibynnol ar ba mor gyflym mae’r canlyniadau’n debygol i newid. Ni chynhwysir pynciau sy’n newid yn arafach yn yr arolwg, ac felly nid ydym yn eu diweddaru, bob blwyddyn.
Am fwy o wybodaeth, gweler Dolenni’r we.
Casgliad data a dull cyfrifo
Casglu'r canlyniadau:Dewiswyd dros 20,000 o gyfeiriadau ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post Defnyddwyr Bach y Post Brenhinol pob blwyddyn. Ymwelodd cyfwelwyr â phob cyfeiriad, dewiswyd un oedolyn (16+ oed) ar hap yn yr aelwyd a chynhaliwyd cyfweliad wyneb yn wyneb gyda nhw.
Nid yw pob cwestiwn yn cael ei ofyn i bob ymatebydd. Mae rhai cwestiynau ond yn berthnasol i rai (e.e. am nad oes ganddynt blant). Mae cwestiynau eraill ond yn cael ei gofyn i is-sampl o ymatebwyr a ddewiswyd ar hap oherwydd mai ond canlyniadau ar lefel cenedlaethol sydd eu hangen.
Am fod y ffigurau yn seiliedig ar arolwg, mae'r canlyniadau yn agored i rywfaint o ansicrwydd. Dangosir yr ansicrwydd yma drwy ddangos cyfyngau hyder ar gyfer pob canlyniad. Mae’r rhain yn rhoi amrediad sy'n debygol o gynnwys y gwerth gwirioneddol.
Cyfrifo'r dangosyddion:
Caiff canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol eu pwysoli i unioni'r tebygolrwydd o ddethol mewn modd anghyfartal a diffyg ateb gwahaniaethol (h.y. i sicrhau bod dosbarthiad oedran a rhyw y set ddata terfynol yn cyfateb i boblogaeth Cymru). Cafodd ymatebwyr â wrthododd i ateb neu ymatebodd ‘Ddim yn gwybod’, eu heithrio o’r canlyniadau oni nodir yn wahanol.
Dangosydd CD 37 (Canran y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg) Cyfrifiad y boblogaeth yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth ar gyfer y ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg.
Rhwng cyfrifiadau, defnyddir yr Arolwg Cenedlaethol i fonitro tueddiadau ar gyfer oedolion.
Mae'r dangosydd yn seiliedig ar oedolion 16 oed a throsodd sy'n adrodd eu bod gallu siarad Cymraeg. Mae’r cwestiwn yn caniatáu pobl i ateb ‘ydw’, ‘nac ydw’, a hefyd yn caniatáu i bobl adrodd yn ddigymell eu bod ddim yn gallu siarad Cymraeg ond fod ganddynt rywfaint o allu yn y Gymraeg Mae'r dangosydd monitro hwn yn seiliedig yn unig ar y rhai sy'n ateb 'ydw' i'r cwestiwn hwn yn unig.
Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ystadegol cyntaf a bwletinau ar gyfer y flwyddyn berthnasol. Gweler y Dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Cymru: Dogfen dechnegol ar gyfer gwybodaeth yn ymwneud â dangosyddion cenedlaethol. Gellir gweld y rhain o dan Ddolenni’r we.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Dangosir data o 2012-13 ymlaen lle mae ar gael. Ni chynhaliwyd yr Arolwg yn 2015-16.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Rydym wedi cyhoeddi adroddiadau ar y rhagfynegiadau allweddol ar gyfer nifer o ddangosyddion Cenedlaethau'r Dyfodol yn seiliedig ar ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol. Mae'r adroddiadau ar gael ar ein tudalennau gwe a gallent fod o gymorth i nodi camau gweithredu a fydd yn gwella cynnydd yn erbyn y dangosyddion hyn. Gweler Dolenni’r we.Bydd y canlyniadau o ddefnydd i:
- Dimau polisi Llywodraeth Cymru
- Byrddau Iechyd, Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS)
- Awdurdodau lleol
- Sefydliadau gwirfoddol
- Gyfathrebwyr rhwydwaith CommsCymru y Gwasanaethau Cyhoeddus
- Academyddion
- Sefydliadau allanol
- Unigolion
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae’r canrannau wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf.Lle nad ystyrir canlyniadau'r arolwg yn ddigon cadarn (h.y. llai na 30 o ymatebion), mae gwerthoedd wedi cael eu hatal. Cynrychiolir y rhain gyda "*" yn y tablau.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ni threfnir unrhyw ddiwygiadau arfaethedig. Os caiff diwygiadau eu gwneud bydd y proses diwygio yn cael ei dilyn, gweler Dolenni’r we.Teitl
Dangosydd yr Iaith Cymraeg yr Arolwg CenedlaetholDiweddariad diwethaf
Mehefin 2019Diweddariad nesaf
Mehefin 2020(dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
arolygon@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDolenni'r we
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015:https://gweddill.gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/?skip=1&lang=cy
Sut mae mesur cynnydd cenedl? - Dangosyddion cenedlaethol: https://gweddill.gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/national-indicators/?skip=1&lang=cy
Gwefan yr Arolwg Cenedlaethol Cymru: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru
Datganiadau Cyntaf (prif ganlyniadau):
2018-19: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2018-i-mawrth-2019
2017-18: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2017-i-mawrth-2018
2016-17: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2016-i-mawrth-2017
2014-15: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2014-i-mawrth-2015
Adroddiad ansawdd: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-gwybodaeth-dechnegol
Diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau: https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil-datganiad-ar-diwygiadau-camgymeriadau-gohiriadau
Gwybodaeth dechnegol: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-gwybodaeth-dechnegol
Adroddiadau ar y rhagfynegiadau allweddol:
Pwy sydd fwyaf tebygol o fod mewn amddifadedd materol?, 2014-15: https://llyw.cymru/amddifadedd-materol-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2014-i-mawrth-2015
Pwy sydd fwyaf tebygol o fod yn fodlon a’u swydd?, 2013-14: https://llyw.cymru/boddhad-swydd-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2013-i-mawrth-2014
Pwy sy’n debygol o deimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal?, 2014-15: https://llyw.cymru/dylanwadu-ar-benderfyniadau-mewn-ardal-leol-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2014-i-mawrth-2015
Pwy sydd fwyaf tebygol o deimlo’n ddiogel yn eu hardal leol?, 2013-14: https://llyw.cymru/teimlon-ddiogel-mewn-ardal-leol-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2013-i-mawrth-2014
Pwy sydd fwyaf tebygol o fod ag ymdeimlad cryf o gymuned?, 2013-14: https://llyw.cymru/synnwyr-o-gymuned-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2013-i-mawrth-2014
Pwy sydd fwyaf tebygol o siarad Cymraeg?, 2014-15: https://llyw.cymru/siarad-cymraeg-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2014-i-mawrth-2015