Skip to content

Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Y ganran o’r bobl sy’n gwirfoddoli yn ôl oedran
None
Rhyw[Hidlwyd]
Awdurdol Lleol[Hidlwyd]
Dangosydd[Hidlwyd]
Measure2
Blwyddyn[Hidlwyd]
Mesur[Hidlo]
Oedran[Hidlo]
[Lleihau]2016-17[Lleihau]2017-18[Lleihau]2018-19
Cliciwch yma i ddidoliCanran o oedolion (16+)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder isaf (%)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder uchaf (%)Cliciwch yma i ddidoliCanran o oedolion (16+)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder isaf (%)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder uchaf (%)Cliciwch yma i ddidoliCanran o oedolion (16+)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder isaf (%)Cliciwch yma i ddidoliCyfwng hyder uchaf (%)
Pob oedran282729282530......
16-24221826342444......
25-44282630252030......
45-64302831262229......
65-74333136353040......
75 a throsodd292631272132......

Metadata

Teitl
Dangosyddion yr Arolwg Cenedlaethol

Diweddariad diwethaf
Mehefin 2019 Mehefin 2019

Diweddariad nesaf
Mehefin 2020 (dros dro)

Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1
Arolwg Cenedlaethol Cymru, Llywodraeth Cymru

Cyswllt ebost
arolygon@llyw.cymru

Dynodiad
Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol
Cymru

Cwmpas ieithyddol
Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol
Arolwg wyneb yn wyneb o bobl ledled Cymru yw Arolwg Cenedlaethol Cymru. Bob blwyddyn, gofynnir i dros 10,000 o bobl 16 oed a throsodd am eu barn ar amrywiaeth eang o faterion sy'n effeithio arnynt hwy a'u hardal leol. Dewisir ymatebwyr ar hap er mwyn sicrhau bod y canlyniadau yn gynrychioliadol.

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Cafodd 46 dangosydd cenedlaethol eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ym Mawrth 2016 a’r Arolwg Cenedlaethol Cymru fydd y ffynhonnell ddata ar gyfer pymtheg o'r dangosyddion cenedlaethol: dangosydd 3, 19, 20, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 35, 36, 37 a 38. Bydd rhai dangosyddion yn cael ei diweddaru bob blwyddyn ac eraill yn llai aml sy’n ddibynnol ar ba mor gyflym mae’r canlyniadau’n debygol i newid. Ni chynhwysir pynciau sy’n newid yn arafach yn yr arolwg, ac felly nid ydym yn eu diweddaru, bob blwyddyn.

Am fwy o wybodaeth, gweler Dolenni’r we.


Casgliad data a dull cyfrifo
Casglu'r canlyniadau:

Dewiswyd dros 20,000 o gyfeiriadau ar hap o Ffeil Cyfeiriadau Cod Post Defnyddwyr Bach y Post Brenhinol pob blwyddyn. Ymwelodd cyfwelwyr â phob cyfeiriad, dewiswyd un oedolyn (16+ oed) ar hap yn yr aelwyd a chynhaliwyd cyfweliad wyneb yn wyneb gyda nhw.

Nid yw pob cwestiwn yn cael ei ofyn i bob ymatebydd. Mae rhai cwestiynau ond yn berthnasol i rai (e.e. am nad oes ganddynt blant). Mae cwestiynau eraill ond yn cael ei gofyn i is-sampl o ymatebwyr a ddewiswyd ar hap oherwydd mai ond canlyniadau ar lefel cenedlaethol sydd eu hangen.

Am fod y ffigurau yn seiliedig ar arolwg, mae'r canlyniadau yn agored i rywfaint o ansicrwydd. Dangosir yr ansicrwydd yma drwy ddangos cyfyngau hyder ar gyfer pob canlyniad. Mae’r rhain yn rhoi amrediad sy'n debygol o gynnwys y gwerth gwirioneddol.

Cyfrifo'r dangosyddion:
Caiff canlyniadau'r Arolwg Cenedlaethol eu pwysoli i unioni'r tebygolrwydd o ddethol mewn modd anghyfartal a diffyg ateb gwahaniaethol (h.y. i sicrhau bod dosbarthiad oedran a rhyw y set ddata terfynol yn cyfateb i boblogaeth Cymru). Cafodd ymatebwyr â wrthododd i ateb neu ymatebodd ‘Ddim yn gwybod’, eu heithrio o’r canlyniadau oni nodir yn wahanol.

Mae dangosydd CD 19 (Y ganran o’r bobl sy’n byw mewn aelwydydd sydd mewn amddifadedd materol) yn deillio o gyfres o gwestiynau a gynlluniwyd i fesur lefel yr amddifadedd materol. Cymerwyd y cwestiynau o'r arolwg adnoddau teulu (FRS), ac mae'r fethodoleg a ddefnyddir i benderfynu ar amddifadedd materol yn debyg, ond nid yw’n defnyddio’r union ddull (Mae’r FRS hefyd yn defnyddio incwm a gofynnwyd rhai cwestiynau yn yr Arolwg Cenedlaethol i'r rheini a oedd wedi cael eu barnu i fod 'ffiniol' amddifadus).

Gofynnwyd i oedolion nad oeddynt yn bensiynwyr a oeddynt yn cael pethau fel 'gwyliau oddi cartref am o leiaf wythnos y flwyddyn', 'digon o arian i gadw eu cartref mewn cyflwr boddhaol', neu a oeddent yn gallu cynilo £10 y mis neu fwy yn rheolaidd'. Roedd y cwestiynau ar gyfer oedolion nad oeddent yn bensiynwyr yn canolbwyntio ar p'un a oeddent yn gallu fforddio eitemau hyn.

Gofynnwyd cwestiynau ychydig yn wahanol i bensiynwyr, fel a 'oeddent yn gallu cadw eu cartref yn ddigon cynnes', a oedd ganddynt 'fynediad i gar neu dacsi, pan oedd angen' neu a oeddent yn ‘cael eu gwallt wedi’i wneud neu ei dorri yn rheolaidd'. Roeddent hefyd yn holi iddynt a allent eu fforddio, ond roedd y cwestiynau hefyd yn canolbwyntio ar resymau eraill am beidio â chael yr eitemau, fel iechyd gwael, neu neb i'w helpu ac ati.

Byddai sgôr o 100 yn cael ei roi i’r rhai nad oedd ganddynt unrhyw eitem ar y rhestr, a sgôr o 0 i’r rheiny oedd a phob un eitem. Cafodd yr oedolion nad oedd yn bensiynwyr oedd â sgôr o 25 neu fwy eu disgrifio i fod yn amddifadus yn faterol. Cafodd pensiynwyr a oedd â sgôr o 20 neu fwy yn disgrifio fel rhai amddifadus yn faterol.

Cyfunwyd y rheini nad oedd yn bensiynwyr a'r pensiynwyr ar gyfer y dangosydd hwn. Am fwy o wybodaeth am sut y cyfrifwyd y sgôr amddifadedd materol cysylltwch â thîm Arolwg Cenedlaethol ar arolygon@llyw.cymru

Dangosydd CD 20 (canran o bobl sy’n weddol fodlon neu'n fodlon iawn â'u gwaith) yw canran y bobl a roddodd sgôr o 6 neu fwy ar gyfer eu lefel o foddhad a’u swydd, lle'r oedd 0 yn golygu 'ddim yn fodlon o gwbl' a 10 yn golygu yn 'hollol fodlon'.

Dangosydd CD 23 (Y ganran sy’n teimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal leol) yw’r ganran sy'n cytuno’n gryf neu'n tueddu i gytuno â'r datganiad "Rwy'n gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy'n effeithio ar fy ardal leol".

Dangosydd CD 24 (y ganran sy’n fodon â’u gallu i gael gafael ar y cyfleusterau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt) yw canran yr oedolion sy’n adrodd eu bod yn fodlon iawn neu’n weddol fodlon â’u gallu i gael gafael ar wasanaethau a chyfleusterau yn eu hardal leol (o fewn 15 i 20 munud o waith cerdded o’u cartref).

Dangosydd CD 25 (canran o bobl teimlo'n ddiogel yn eu cartref, yn cerdded yn yr ardal leol, ac wrth deithio) yw'r ganran o bobl sy'n adrodd eu bod yn teimlo’n 'ddiogel iawn' neu'n 'eithaf diogel' ym mhob un o'r sefyllfaoedd canlynol ar ôl iddi dywyllu:
- yn y cartref
- yn cerdded wrth eu hunain
- yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus
- yn teithio mewn car.
Fe wnaeth cyfran gymharol uchel o bobl ateb 'ddim yn gwybod' i’w teimlad o ddiogelwch wrth deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Cafodd y rhai a ddywedodd 'ddim yn gwybod' i unrhyw gwestiwn, felly, eu cynnwys yn teimlo’n ddiogel, cyhyd a’u bod wedi ateb 'diogel iawn' neu'n 'eithaf diogel' i’r cwestiynau eraill.

Dangosydd CD 26 (canran o bobl sy'n fodlon â’r ardal leol fel lle i fyw) yw canran yr oedolion wnaeth adrodd eu bod yn fodlon iawn neu'n weddol fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw.

Mae dangosydd CD 27 (Y ganran o’r bobl sy’n cytuno eu bod yn perthyn i’r ardal; bod pobl o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda; a bod pobl yn trin ei gilydd â pharch) yn seiliedig ar y gyfran o bobl sy'n cytuno’n gryf neu dueddu i gytuno:
- eu bod yn perthyn i'w hardal leol
- fod yr ardal leol yn rhywle lle mae pobl o wahanol gefndir yn dod ymlaen yn dda gyda'i gilydd
- fod pobl yn yr ardal leol yn trin ei gilydd â pharch ac ystyriaeth.
Pan ofynnwyd a oedd pobl o wahanol gefndiroedd yn cyd-dynnu’n dda, eglurodd rhai mai dim ond 'ychydig o bobl oedd yn yr ardal leol' neu fod y bobl yn eu hardal leol 'i gyd o’r un fath o gefndir'. Cafodd y rhain hefyd eu cynnwys fel petaent yn cytuno cyhyd a’i bod wedi 'cytuno'n gryf' neu 'tueddu i gytuno' i’r ddau ddatganiad arall.

Dangosydd CD 28 (canran y bobl sy'n gwirfoddoli) Dyma ganran yr oedolion sy'n rhoi o'u hamser am ddim i helpu clybiau neu fudiadau. Nid yw’r data a gyflwynir yn cynnwys pobl sy'n darparu gofal ar gyfer rhywun.

Dangosydd CD 29 (sgôr gymedrig ar gyfer lles meddyliol) yw'r sgôr cymedrig lles meddyliol yn ôl graddfa lles meddwl Warwick Edinburgh (WEMWBS). I asesu lles meddyliol ar raddfa WEMWBS, rhoddir 14 datganiad i’r ymatebwyr fel "Dwi wedi bod yn teimlo'n hamddenol" a "Rwyf wedi bod yn meddwl yn glir" a gofynnwyd iddynt ba mor aml oeddent yn teimlo fel hyn ar raddfa o bum pwynt, lle'r oedd 1 yn golygu 'byth' a 5 yn golygu 'trwy’r amser'. Cyfrifwyd sgôr o 14 i 70, gyda sgoriau uwch yn nodi llesiant meddyliol gwell.

Dangosydd CD 30 (canran o bobl sy’n unig) Dyma ganran yr oedolion sy’n unig yn ôl graddfa unigrwydd De Jong Gierveld. Er mwyn asesu lefelau o unigrwydd ar y raddfa hon rhoddir 6 datganiad i’r ymatebwyr fel "rwy’n gweld eisiau cael pobl o amgylch" a "Mae yna ddigon o bobl dwi'n teimlo'n agos at", a gofynnwyd iddynt ba mor berthnasol oedd y datganiadau hyn iddynt. Chyfrifwyd sgôr o 0 i 6, a chafodd y rhai oedd â sgôr o 4 neu fwy eu diffinio yn unig.

Dangosydd CD 35 (y ganran sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth o leiaf 3 gwaith y flwyddyn) yw canran yr oedolion sydd wedi mynychu neu gymryd rhan mewn o leiaf 3 gweithgaredd celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth yn y 12 mis diwethaf.

Mae'r dangosydd CD 36 yn seiliedig ar y rhai sy'n dweud eu bod yn siarad Cymraeg yn rhugl, yn gallu siarad ‘rhywfaint o Gymraeg’ neu’n gallu siarad ‘ychydig o Gymraeg yn unig’; a hefyd yn siarad Cymraeg yn ddyddiol.

Dangosydd CD 37 (Canran y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg) Cyfrifiad y boblogaeth yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth ar gyfer y ganran o bobl sy'n gallu siarad Cymraeg.
Rhwng cyfrifiadau, defnyddir yr Arolwg Cenedlaethol i fonitro tueddiadau ar gyfer oedolion.
Mae'r dangosydd yn seiliedig ar oedolion 16 oed a throsodd sy'n adrodd eu bod gallu siarad Cymraeg. Mae’r cwestiwn yn caniatáu pobl i ateb ‘ydw’, ‘nac ydw’, a hefyd yn caniatáu i bobl adrodd yn ddigymell eu bod ddim yn gallu siarad Cymraeg ond fod ganddynt rywfaint o allu yn y Gymraeg Mae'r dangosydd monitro hwn yn seiliedig yn unig ar y rhai sy'n ateb 'ydw' i'r cwestiwn hwn yn unig.

Dangosydd CD 38 (Canran y bobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon tair gwaith neu fwy yr wythnos). Ar gyfer y dangosydd hwn dangosir cyfres o weithgareddau chwaraeon dan do ac awyr agored i’r ymatebwyr a gofynnwyd iddynt a oeddent wedi cymryd rhan mewn unrhyw un ohonynt. Os oeddent, gofynnwyd iddynt sawl gwaith eu bod wedi cymryd rhan yn y gweithgaredd hynny dros y pedair wythnos flaenorol.

Am wybodaeth bellach, gweler y datganiad ystadegol cyntaf a bwletinau ar gyfer y flwyddyn berthnasol. Gweler y Dangosyddion Cenedlaethol ar gyfer Cymru: Dogfen dechnegol ar gyfer gwybodaeth yn ymwneud â dangosyddion cenedlaethol. Gellir gweld y rhain o dan Ddolenni’r we.


Amlder cyhoeddi
Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw
Dangosir data o 2012-13 ymlaen lle mae ar gael. Nid yw pob dangosydd yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn. Ni chynhaliwyd yr Arolwg yn 2015-16.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Rydym wedi cyhoeddi adroddiadau ar y rhagfynegiadau allweddol ar gyfer nifer o ddangosyddion Cenedlaethau'r Dyfodol yn seiliedig ar ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol. Mae'r adroddiadau ar gael ar ein tudalennau gwe a gallent fod o gymorth i nodi camau gweithredu a fydd yn gwella cynnydd yn erbyn y dangosyddion hyn. Gweler Dolenni’r we.

Bydd y canlyniadau o ddefnydd i:
- Dimau polisi Llywodraeth Cymru
- Byrddau Iechyd, Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS)
- Awdurdodau lleol
- Sefydliadau gwirfoddol
- Gyfathrebwyr rhwydwaith CommsCymru y Gwasanaethau Cyhoeddus
- Academyddion
- Sefydliadau allanol
- Unigolion

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae’r canrannau wedi'u talgrynnu i'r rhif cyfan agosaf.

Lle nad ystyrir canlyniadau'r arolwg yn ddigon cadarn (h.y. llai na 30 o ymatebion), mae gwerthoedd wedi cael eu hatal. Cynrychiolir y rhain gyda "*" yn y tablau.

Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ni threfnir unrhyw ddiwygiadau arfaethedig. Os caiff diwygiadau eu gwneud bydd y proses diwygio yn cael ei dilyn, gweler Dolenni’r we.

Ansawdd ystadegol
Mae Adroddiad Ansawdd cryno ar gael, sy'n cynnwys gwybodaeth fanwl am ansawdd yr arolwg yn ogystal â chrynodeb o'r dulliau a ddefnyddir i grynhoi'r canlyniadau; gweler Dolenni’r we.

Dolenni'r we
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015:
https://gweddill.gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/?skip=1&lang=cy
Sut mae mesur cynnydd cenedl? - Dangosyddion cenedlaethol: https://gweddill.gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/national-indicators/?skip=1&lang=cy

Gwefan yr Arolwg Cenedlaethol Cymru: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru
Datganiadau Cyntaf (prif ganlyniadau):
2018-19: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2018-i-mawrth-2019
2017-18: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2017-i-mawrth-2018
2016-17: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2016-i-mawrth-2017
2014-15: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-prif-ganlyniadau-ebrill-2014-i-mawrth-2015
Adroddiad ansawdd: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-gwybodaeth-dechnegol
Diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau: https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil-datganiad-ar-diwygiadau-camgymeriadau-gohiriadau
Gwybodaeth dechnegol: https://llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-gwybodaeth-dechnegol

Adroddiadau ar y rhagfynegiadau allweddol:
Pwy sydd fwyaf tebygol o fod mewn amddifadedd materol?, 2014-15: https://llyw.cymru/amddifadedd-materol-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2014-i-mawrth-2015
Pwy sydd fwyaf tebygol o fod yn fodlon a’u swydd?, 2013-14: https://llyw.cymru/boddhad-swydd-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2013-i-mawrth-2014
Pwy sy’n debygol o deimlo’u bod yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu hardal?, 2014-15: https://llyw.cymru/dylanwadu-ar-benderfyniadau-mewn-ardal-leol-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2014-i-mawrth-2015
Pwy sydd fwyaf tebygol o deimlo’n ddiogel yn eu hardal leol?, 2013-14: https://llyw.cymru/teimlon-ddiogel-mewn-ardal-leol-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2013-i-mawrth-2014
Pwy sydd fwyaf tebygol o fod ag ymdeimlad cryf o gymuned?, 2013-14: https://llyw.cymru/synnwyr-o-gymuned-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2013-i-mawrth-2014
Pwy sydd fwyaf tebygol o siarad Cymraeg?, 2014-15: https://llyw.cymru/siarad-cymraeg-arolwg-cenedlaethol-cymru-ebrill-2014-i-mawrth-2015


Allweddeiriau
Arolwg Cenedlaethol Cymru,; Arolwg Cenedlaethol; Cenedlaethau'r Dyfodol; CD; Dangosyddion; Dangosyddion Cenedlaethol; Llesiant;