

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Cofrestr etholwyr yn ôl ardaloedd etholaethol a rhanbarthau etholiadol Senedd CymruDiweddariad diwethaf
Ionawr 2021Diweddariad nesaf
Haf 2021Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Ystadegau Etholiadol y DU, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Etholaethau Cynulliad Cenedlaethol CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae’r set ddata hon yn dangos nifer y bobl oedd wedi’u cofrestru ar y gofrestr etholwyr ar y dyddiad a ddangosir i bleidleisio mewn etholiad Senedd Cymru, a nifer y cyrhaeddwyr (person sy’n cyrraedd 18 oed yn ystod y cyfnod mae’r gofrestr yn gyfredol, ac sydd â hawl i bleidleisio mewn etholiad Senedd ar neu ar ôl ei ben-blwydd / phen-blwydd yn ddeunaw).Er mwyn sicrhau bod y gofrestr etholwyr mor gyflawn a chywir ag oedd yn bosibl cyn cyflwyno Cofrestru Etholiadol Unigol yn haf 2014, ym Mhrydain Fawr, yn lle cyhoeddi cofrestri etholwyr blynyddol ar 1 Rhagfyr 2013, fe'u cyhoeddwyd yng ngwanwyn 2014. Cyhoeddwyd y cofrestri etholwyr ar 10 Mawrth 2014 yng Nghymru.
Mae’r data wedi’u seilio ar ffiniau etholaethau'r Senedd a ddaeth i rym yn yr etholiadau ar 3 Mai 2007 gyda newidiadau wedi hynny o ganlyniad i newidiadau i ffiniau llywodraeth leol mewn saith ardal o dan Orchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) (Diwygio) 2011. Ni wnaeth y Gorchymyn yr un newidiadau i ffiniau etholaethau seneddol San Steffan a daeth i rym ar 14 Rhagfyr 2011 felly o’r adeg hon ymlaen mae rhai gwahaniaethau rhwng etholaethau seneddol San Steffan ac etholaethau Senedd Cymru. Mae hyn hefyd yn golygu, ar gyfer rhai etholaethau, nad yw’r data ar gyfer 2012 ymlaen yn gyson â’r data ar gyfer blynyddoedd blaenorol. Nodir yr ardaloedd hyn yn y data.
Nodwch fod yr hawl i bleidleisio’n wahanol ar gyfer etholiadau'r Senedd ac etholiadau seneddol San Steffan. Mae gan ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n preswylio yng Nghymru hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd (a llywodraeth leol) ond nid yn etholiadau seneddol San Steffan.
Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Casgliad data a dull cyfrifo
Caiff y data eu casglu gan awdurdodau lleol fel rhan o ganfas blynyddol o etholwyr. Wedyn caiff y canlyniadau eu cydgasglu a'u cyhoeddi yn ôl ardal etholaethol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r data'n cael eu cynhyrchu a'u hadrodd bob blwyddyn ac yn ymwneud â 1 Rhagfyr bob blwyddyn.Yn 2012, cynhaliwyd y canfas blynyddol o etholwyr yn gynnar a chyhoeddwyd y rhestr etholwyr yn gynnar ar 16 Hydref er mwyn caniatáu ar gyfer etholiadau'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2012.
Er mwyn sicrhau bod y gofrestr etholwyr mor gyflawn a chywir ag oedd yn bosibl cyn cyflwyno Cofrestru Etholiadol Unigol yn haf 2014, ym Mhrydain Fawr, yn lle cyhoeddi cofrestri etholwyr blynyddol ar 1 Rhagfyr 2013, fe'u cyhoeddwyd yng ngwanwyn 2014. Cyhoeddwyd y cofrestri etholwyr ar 10 Mawrth 2014 yng Nghymru.
Mae cofrestrau etholiadol a gasglwyd ar 2 Mawrth 2020 wedi'u cynhyrchu i gefnogi adolygiad Ffiniau'r Etholaeth Seneddol sydd i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2023.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Defnyddir y data i amcangyfrif maint etholiadol pob un o etholaethau'r Senedd ac i gynorthwyo ag unrhyw ymchwil a wneir cyn etholiadau perthnasol.Prif ddefnyddwyr y data hyn fydd Gwasanaeth Ymchwil Aelodau'r Senedd (wrth gynorthwyo holl Aelodau'r Senedd neu ASau dros etholaethau a rhanbarthau); ASau unigol a'u hymchwilwyr; Gweinidogion Cymru a staff eu swyddfeydd preifat; y cyfryngau; swyddogion y wasg a pholisi yn Llywodraeth Cymru; myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion; a dinasyddion, cwmnïau preifat, ac unigolion eraill sydd â diddordeb.