Mudo rhwng Cymru a gweddill y DU yn ôl awdurdod lleol, llif a chyfnod newid
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn cynnwys gwybodaeth o ddata mudo mewnol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer Cymru, sy'n dangos y llifoedd mudwyr i mewn i ac allan o bob awdurdod lleol yng Nghymru (a Chymru ei hun) i ac o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a hefyd sefyllfa net, yn ôl rhyw a grwp oedran pumol (pum mlynedd).Nodwch na fydd data ar gyfer Cymru gyfan yn swm data awdurdodau lleol unigol gan na fydd symudiadau rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru'n cyfrannu at y llifoedd i mewn i ac allan o Gymru.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae mudo mewnol yn cyfeirio at lifoedd pobl o fewn y Deyrnas Unedig. Mae'r data a ddangosir yn darlunio'r symudiadau o bob awdurdod lleol yng Nghymru i awdurdod lleol arall yng Nghymru, neu i wlad arall yn y Deyrnas Unedig. Nodwch fod symudiadau o fewn un awdurdod lleol wedi'u heithrio, ac felly hefyd symudiadau rhyngwladol i neu o'r Deyrnas Unedig.Mae pob bwrdd iechyd/awdurdod iechyd yn cadw cofrestr o'r cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda'i ymarferwyr cyffredinol, a elwir y Gofrestr Cleifion. Mae cyfuno pob Cofrestr Cleifion yng Nghymru a Lloegr a'u cymharu â'r gofrestr o'r flwyddyn flaenorol yn canfod y bobl sydd wedi newid eu cod post. At hynny, fel rhan o raglen y Swyddfa Ystadegau Gwladol i wella amcangyfrifon poblogaeth a mudo, defnyddiwyd data ar gyfeiriadau myfyrwyr yn ystod y tymor o'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch i wella'r amcangyfrif o fudo ymysg myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae symudiadau i'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu cynnwys gan ddefnyddio manylion o gofrestr ganolog y GIG a chofnodion cardiau iechyd Gogledd Iwerddon.
Nodwch fod y data wedi'u talgrynnu'n annibynnol i'r deg agosaf a'i bod yn bosibl na fyddant yn adio neu'n tynnu'n union. At hynny, ni fydd y data ar gyfer Cymru yn gyfan yn swm data awdurdodau lleol unigol gan na fydd symudiadau rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru'n cyfrannu at y llifoedd i mewn i ac allan o Gymru.
I gael mwy o wybodaeth dilynwch y dolenni gwe.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Caiff y data eu cyhoeddi bob blwyddyn, ac yma ceir y data o 2001-2002, gyda data pob cyfnod yn ymdrin â'r newid o 30 Mehefin yn y flwyddyn flaenorol i 30 Mehefin yn y flwyddyn wedyn.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Defnyddir ystadegau mudo mewnol at amrywiaeth o ddibenion ar draws y sector cyhoeddus a'r tu hwnt. Er enghraifft, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn eu defnyddio mewn amcangyfrifon ac amcanestyniadau poblogaeth, ac mae'r llywodraeth ganolog yn ehangach yn eu defnyddio i lywio'r gwaith o lunio polisïau a dyrannu adnoddau i awdurdodau lleol, sydd yn eu tro'n defnyddio'r ystadegau i helpu i amcangyfrif y galw am eu gwasanaethau, er enghraifft, nifer y lleoedd ysgol y bydd eu hangen.Mae defnyddwyr eraill yn cynnwys cyrff iechyd sy'n eu defnyddio i'w helpu i ragweld y galw am wasanaethau iechyd, yn arbennig gwasanaethau mamolaeth a geriatrig, a darparwyr eraill gwasanaethau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat fel landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chymdeithasau tai, datblygwyr a chwmnïau cyfleustodau, a fydd o bosibl yn defnyddio ystadegau mudo mewnol i ragweld y galw am eu gwasanaethau priodol hwy yn eu hardal.
Mae'r defnyddwyr eraill yn cynnwys y byd academaidd, sy'n defnyddio'r data ar gyfer ymchwil, a'r cyfryngau, a fydd yn defnyddio'r ystadegau ar gyfer erthyglau a thrafodaeth am fudo a phynciau cysylltiedig.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data ar gyfer blynyddoedd cynharach wedi cael eu diwygio er mwyn cymryd i ystyriaeth ganlyniadau Cyfrifiad 2011 a'r addasiad myfyrwyr a wnaethpwyd yn 2010 y cyfeirir ato yn rhai o'r dogfennau sydd ar gael trwy ddilyn y dolenni gwe.Ar 23 Tachwedd 2023, ailseiliwyd y set ddata o 2012 i 2020 ar gyfer Cymru a Lloegr i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2021.