Llifoedd mudo yng Nghymru a gyda gwledydd DU, yn ôl tarddiad a chyrchfan
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn cynnwys gwybodaeth o ddata'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar fudo mewnol ar gyfer Cymru, sy'n dangos tarddiad a chyrchfan pob llif mudo yn ôl rhyw a grwp oedran eang rhwng pob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru a hefyd y gwledydd yn y Deyrnas Unedig.Nid yw data ar lifoedd i ac o'r Alban a Gogledd Iwerddon (ac felly'r Deyrnas Unedig yn gyfan) cyn 2011-2012 ar gael fesul tarddiad a chyrchfan fel hyn, er eu bod ar gael ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan o 2011-2012 ymlaen. Mae'r data ar gael wedi'u rhannu yn ôl rhyw ar gyfer 2011-2012 ymlaen yn unig. Cyn hynny mae'r data ar gael ar gyfer personau yn unig.
Nodwch na fydd y data ar gyfer Cymru gyfan yn swm data awdurdodau lleol unigol gan na fydd symudiadau rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru'n cyfrannu at y llifoedd i mewn i ac allan o Gymru.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae mudo mewnol yn cyfeirio at lifoedd pobl o fewn y Deyrnas Unedig. Nodwch nad cyfanrifau yw’r rhifau. Mae’r amcangyfrifon hyn wedi eu seilio ar nifer o ffynonellau data a phrosesau amcangyfrifo, ac nid cyfrifon cymwys ydynt. Mae disgrifiad mwy manwl yn y ddogfen fethodolegol fwyaf diweddar o’r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Gweler y ddolen yn yr adran dolenni’r we. Mae'r data a ddangosir yn darlunio'r symudiadau o bob awdurdod lleol yng Nghymru i awdurdod lleol arall yng Nghymru neu i wlad arall yn y Deyrnas Unedig yn ôl tarddiad-cyrchfan. Nodwch fod symudiadau o fewn un awdurdod lleol wedi'u heithrio, ac felly hefyd symudiadau rhyngwladol i neu o'r Deyrnas Unedig.Mae pob bwrdd iechyd/awdurdod iechyd yn cadw cofrestr o'r cleifion sydd wedi'u cofrestru gyda'i ymarferwyr cyffredinol, a elwir y Gofrestr Cleifion. Mae cyfuno pob Cofrestr Cleifion yng Nghymru a Lloegr a'u cymharu â'r gofrestr o'r flwyddyn flaenorol yn canfod y bobl sydd wedi newid eu cod post. At hynny, fel rhan o raglen y Swyddfa Ystadegau Gwladol i wella amcangyfrifon poblogaeth a mudo, defnyddiwyd data ar gyfeiriadau myfyrwyr yn ystod y tymor o'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch i wella'r amcangyfrif o fudo ymysg myfyrwyr yng Nghymru a Lloegr. Mae symudiadau i'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu cynnwys gan ddefnyddio manylion o gofrestr ganolog y GIG a chofnodion cardiau iechyd Gogledd Iwerddon. At hynny, ni fydd y data ar gyfer Cymru yn swm data awdurdodau lleol unigol gan na fydd symudiadau rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru'n cyfrannu at y llifoedd i mewn i ac allan o Gymru.
I gael mwy o wybodaeth dilynwch y dolenni gwe.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Caiff y data eu cyhoeddi bob blwyddyn, ac yma ceir y data o 2001-2002, gyda data pob cyfnod yn ymdrin â'r newid o 30 Mehefin yn y flwyddyn flaenorol i 30 Mehefin yn y flwyddyn wedyn.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Defnyddir ystadegau mudo mewnol at amrywiaeth o ddibenion ar draws y sector cyhoeddus a'r tu hwnt. Er enghraifft, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn eu defnyddio mewn amcangyfrifon ac amcanestyniadau poblogaeth, ac mae'r llywodraeth ganolog yn ehangach yn eu defnyddio i lywio'r gwaith o lunio polisïau a dyrannu adnoddau i awdurdodau lleol, sydd yn eu tro'n defnyddio'r ystadegau i helpu i amcangyfrif y galw am eu gwasanaethau, er enghraifft, nifer y lleoedd ysgol y bydd eu hangen.Mae defnyddwyr eraill yn cynnwys cyrff iechyd sy'n eu defnyddio i'w helpu i ragweld y galw am wasanaethau iechyd, yn arbennig gwasanaethau mamolaeth a geriatrig, a darparwyr eraill gwasanaethau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat fel landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a chymdeithasau tai, datblygwyr a chwmnïau cyfleustodau, a fydd o bosibl yn defnyddio ystadegau mudo mewnol i ragweld y galw am eu gwasanaethau priodol hwy yn eu hardal.
Mae defnyddwyr eraill yn cynnwys y byd academaidd, sy'n defnyddio'r data ar gyfer ymchwil, a'r cyfryngau, a fydd yn defnyddio'r ystadegau ar gyfer erthyglau a thrafodaeth am fudo a phynciau cysylltiedig.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data ar gyfer blynyddoedd cynharach wedi cael eu diwygio er mwyn cymryd i ystyriaeth ganlyniadau Cyfrifiad 2011 a'r addasiad myfyrwyr a wnaethpwyd yn 2010 y cyfeirir ato yn rhai o'r dogfennau sydd ar gael trwy ddilyn y dolenni gwe.Ar 23 Tachwedd 2023, ailseiliwyd y set ddata o 2012 i 2020 ar gyfer Cymru a Lloegr i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2021.
Teitl
Llifoedd mudo mewnol rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru a llifoedd i neu o rannau eraill o'r Deyrnas UnedigDiweddariad diwethaf
Tachwedd 2023Diweddariad nesaf
Haf 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Ystadegau ymfudo mewnol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Y Deyrnas UnedigCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAllweddeiriau
Mudo mewnol; mudo; tarddiad; cyrchfanDolenni'r we
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/migrationwithintheuk;http://www.ons.gov.uk/ons/rel/migration1/internal-migration-by-local-authorities-in-england-and-wales/index.html;
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/methodologyguideformid2015ukpopulationestimatesenglandandwalesjune2016#internal-migration;
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/migrationwithintheuk/datasets/internalmigrationbyoriginanddestinationlocalauthoritiessexandsingleyearofagedetailedestimatesdataset