Mae'r set ddata hon yn rhoi'r cydrannau newid yn yr amcangyfrifon poblogaeth swyddogol ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r amcangyfrifon hyn yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 ac yn dangos y cyfraniadau mae newid naturiol (genedigaethau llai marwolaethau); gwahanol elfennau mudo ac addasiadau llai eraill yn eu gwneud i'r newidiadau yn yr amcangyfrifon poblogaeth ym mhob awdurdod lleol dros y cyfnod ers 1991.
Dylid nodi bod rhai newidiadau yn niffiniadau canol 2020 (yn enwedig yn effeithio ar y cydrannau ymfudo) o gymharu â data amcangyfrifon poblogaeth canol 2019 a chynghorir bod defnyddwyr yn darllen yr adran Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae amcangyfrifon mudo mewnol ar gyfer canol 2023 wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio dull gwahanol i flynyddoedd blaenorol, yn dilyn newid i’r newidynnau sydd ar gael yn nata’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA). Mae hyn wedi golygu nad yw data lefel Cymru ar gyfer mewnfudo mewnol ac allfudo mewnol ar gael ar gyfer canol 2023.
Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Mae'r data'n cael eu cyhoeddi a'u hadrodd bob blwyddyn ac yn ymwneud â'r newid rhwng 30 Mehefin mewn blynyddoedd olynol o 1991 ymlaen.
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Caiff y data a ddangosir fan hyn eu defnyddio gan adrannau o'r llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys cynllunio a monitro gwasanaethau.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Darperir y data fel rhai heb eu talgrynnu er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod unrhyw ganlyniadau a ddangosir o'r data hyn wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf lle bo'n ymarferol.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data a ddangosir fan hyn yn adlewyrchu newidiadau a wnaethpwyd i amcangyfrifon poblogaeth o 2001 i 2010 wrth ail-seilio'r data i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 (gweler y dolenni gwe).
Mae’r set ddata hon yn cynnwys mewnfudo ac allfudo ar gyfer mudo mewnol a rhyngwladol o 2012-13 ymlaen. Mae’r data ychwanegol hyn yn disodli’r set ddata llif mudo rhyngwladol (POPU5022), oherwydd bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn barnu bod y data yn ffynhonnell fwy cywir o ymfudo tymor hir ar lefel ranbarthol.
Adolygwyd amcangyfrifon poblogaeth is-genedlaethol canol 2012 i ganol 2016 ar gyfer Cymru a Lloegr ar 22 Mawrth 2018, yn dilyn gwelliannau methodolegol (gweler y dolenni gwe).
Gwnaed diwygiadau ym mis Gorffennaf 2019 i ddwy gydran newid, ‘Mudo rhyngwladol net yn ystod y cyfnod’ a ‘Newidiadau eraill, gan gynnwys newidiadau amhriodoladwy, yn ystod y cyfnod’, am y cyfnod 2001-02 i 2010-11. Roedd hyn oherwydd nad oedd data hanesyddol wedi cael eu ddiweddaru o ganlyniad i ddiwygiadau yn dilyn cyhoeddi data o Gyfrifiad 2011.
Ar 23 Tachwedd 2023, ailseiliwyd y set ddata o 2012 i 2020 ar gyfer Cymru a Lloegr i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2021.
Ar 15 Gorffennaf 2024, cafodd yr amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 eu hadolygu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i adlewyrchu'r amcangyfrifon diweddaraf o fudo rhyngwladol ar gyfer Cymru a Lloegr.
Teitl
Cydrannau newid yn y boblogaeth (1991 ymlaen), yn ôl awdurdodau lleol yng Nghymru