

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Dwysedd y boblogaeth yn ôl cilomedr sgwâr (1991 ymlaen), yn ôl awdurdodau lleol yng NghymruDiweddariad diwethaf
Mai 2020Diweddariad nesaf
Mehefin 2021Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau GwladolFfynhonnell 2
Mesuriadau arwynebedd safonol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon dwysedd poblogaeth mewn personau i bob cilometr sgwâr ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru ar gyfer y cyfnod o 1991 ymlaen. Ceir y ffigurau trwy rannu'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn â'r amcangyfrifon arwynebedd tir diweddaraf mewn cilometrau sgwâr, wedi'u mesur ar y marc penllanw cymedrig, a chan eithrio dyfroedd mewndirol fel yr argymhellir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r amcangyfrifon poblogaeth ac arwynebedd ategol wedi'u cynnwys yn y set ddata.Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenni i'r weAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r data'n cael eu cynhyrchu a'u hadrodd bob blwyddyn ac yn ymwneud â 30 Mehefin bob blwyddyn ar gyfer 1991 ymlaen, er nad yw'r data arwynebedd tir wedi newid ledled y set ddata a chymerir mai hwy yw'r mesuriadau arwynebedd safonol diweddaraf sydd ar gaDefnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Defnyddir y data a ddangosir yma i ddeall y gwahanol lefelau o ddwysedd poblogaeth ym mhob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru, a sut mae hyn yn newid dros amser.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Darperir y data fel rhai heb eu talgrynnu er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod y data amcangyfrifon poblogaeth a geir yn y set ddata hon ac a ddangosir ar wahân wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf lle bo'n ymarferol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data a ddangosir yma'n adlewyrchu newidiadau a wnaethpwyd i amcangyfrifon poblogaeth o 2001 i 2010 wrth ail-seilio'r data i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 (gweler y dolenni gwe).Adolygwyd amcangyfrifon poblogaeth is-genedlaethol canol-2012 i ganol 2016 ar gyfer Lloegr a Chymru ar 22 Mawrth 2018, yn dilyn gwelliannau methodolegol (gweler y dolenni gwe).
Ansawdd ystadegol
Gweler y dolenni i'r weDolenni'r we
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/annualmidyearpopulationestimatesqmihttps://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/annualmidyearpopulationestimates/latest
https://ons.maps.arcgis.com/home/item.html?id=a79de233ad254a6d9f76298e666abb2b