

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Dosbarthiad poblogaeth yn ôl bandiau oedran eang (1871 ymlaen), yn ôl awdurdodau lleol yng Nghymru a rhywDiweddariad diwethaf
Mehefin 2020Diweddariad nesaf
Mehefin 2021Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau GwladolFfynhonnell 2
Cyfrifiad 1871, Cyfrifiad 1901, Cyfrifiad 1931, Cyfrifiad 1961-2001Cyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi canran y boblogaeth yng Nghymru ym mhob un o nifer o fandiau oedran eang ers Cyfrifiad 1871 yn ôl rhyw. Mae data ar gyfer awdurdodau lleol unigol hefyd wedi'u cynnwys o 2001 ymlaen.Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenni i'r weAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r data'n cael eu cynhyrchu a'u hadrodd bob blwyddyn ac yn ymwneud â 30 Mehefin bob blwyddyn ar gyfer nifer o flynyddoedd y Cyfrifiad o 1871 ymlaen ac am bob blwyddyn o 2001 ymlaen.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Defnyddir y data a ddangosir yma i ddeall strwythur oedran poblogaeth Cymru wrth iddo newid dros y tymor byr a'r tymor hirach. Ers 2001, mae data'n cael eu cynnwys ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn ogystal â Chymru gan ganiatáu i newidiadau yn y tymor byr mewn strwythur oedran gael eu dadansoddi ar gyfer pob awdurdod lleol.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r data wedi'u talgrynnu i'r 0.1 o bwynt canran agosaf ac o ganlyniad mae'n bosibl nad 100% fydd y cyfanswm wrth adio'r holl grwpiau oedran. Gellir gweld y data heb eu talgrynnu y tu ôl i'r amcangyfrifion ar gyfer 2001 ymlaen yn y ffolder amcangyfrifon yn yr un rhan o gatalog StatsCymru.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data a ddangosir yma'n adlewyrchu newidiadau a wnaethpwyd i amcangyfrifon poblogaeth o 2001 i 2010 wrth ail-seilio'r data i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 (gweler y dolenni gwe).Adolygwyd amcangyfrifon poblogaeth is-genedlaethol canol-2012 i ganol 2016 ar gyfer Lloegr a Chymru ar 22 Mawrth 2018, yn dilyn gwelliannau methodolegol (gweler y dolenni gwe).
Er mwyn helpu dadansoddi effeithiau'r pandemig coronafeirws ar boblogaeth y Deyrnas Unedig, mae'r ONS wedi cyhoeddi set dros dro o amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer canol-2019. Mae'r adroddiad hwn o reidrwydd yn is-set o'r wybodaeth y maent yn ei chyhoeddi'n rheolaidd ym mis Mehefin, gan ganolbwyntio'n bennaf ar faint, strwythur oedran a daearyddiaeth poblogaeth y Deyrnas Unedig.
Cyhoeddir gwybodaeth am gydrannau newid y boblogaeth ym mhob ardal leol ym mis Mehefin. Mae unrhyw newidiadau i'r amcangyfrifon poblogaeth rhwng nawr a mis Mehefin yn debygol o fod yn fach, ond mae'n bosibl y bydd yr amcangyfrifon a ryddhawyd ym mis Mehefin 2020 ychydig yn wahanol i'r rhai a gyhoeddir yma.
Ansawdd ystadegol
Gweler y dolenni i'r weDolenni'r we
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/annualmidyearpopulationestimatesqmihttps://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/annualmidyearpopulationestimates/latest