Dosbarthiad oedran y boblogaeth yn ôl rhyw a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi canran y boblogaeth yng Nghymru ym mhob un o nifer o fandiau oedran eang ers Cyfrifiad 1871 yn ôl rhyw. Mae data ar gyfer awdurdodau lleol unigol hefyd wedi'u cynnwys o 2001 ymlaen.Dylid nodi bod rhai newidiadau yn niffiniadau (yn enwedig yn effeithio ar y cydrannau mudo) ar gyfer canol 2020 o gymharu â data amcangyfrifon poblogaeth canol 2019, a chynghorir bod defnyddwyr yn darllen yr adran Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ar gyfer Cymru, amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 yw'r amcangyfrifon poblogaeth cyntaf i gael eu seilio ar Gyfrifiad 2021.
Mae amcangyfrifon mudo mewnol ar gyfer canol 2023 wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio dull gwahanol i flynyddoedd blaenorol, yn dilyn newid i’r newidynnau sydd ar gael yn nata’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenni i'r weAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae amcangyfrifon o 2001 yn seiliedig ar 30 Mehefin pob blwyddyn, tra bod amcangyfrifon ar gyfer blynyddoedd cynharach (cyfrifiadau 1871 i 2001) yn ymwneud â dyddiad y cyfrifiad yn y flwyddyn honno (mis Mawrth neu fis Ebrill).Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Defnyddir y data a ddangosir fan hyn i ddeall strwythur oedran poblogaeth Cymru wrth iddo newid dros y tymor byr a'r tymor hirach. Ers 2001, mae data'n cael eu cynnwys ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn ogystal â Chymru gan ganiatáu i newidiadau yn y tymor byr mewn strwythur oedran gael eu dadansoddi ar gyfer pob awdurdod lleol.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r data wedi'u talgrynnu i'r 0.1 pwynt canran agosaf ac o ganlyniad mae'n bosibl nad 100% fydd y cyfanswm wrth adio'r holl grwpiau oedran. Gellir gweld y data heb eu talgrynnu y tu ôl i'r amcangyfrifion ar gyfer 2001 ymlaen yn y ffolder amcangyfrifon yn yr un rhan o gatalog StatsCymru.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data a ddangosir fan hyn yn adlewyrchu newidiadau a wnaethpwyd i amcangyfrifon poblogaeth o 2001 i 2010 wrth ail-seilio'r data i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 (gweler y dolenni gwe).Adolygwyd amcangyfrifon poblogaeth is-genedlaethol canol 2012 i ganol 2016 ar gyfer Cymru a Lloegr ar 22 Mawrth 2018, yn dilyn gwelliannau methodolegol (gweler y dolenni gwe).
Ar 23 Tachwedd 2023, ailseiliwyd y set ddata o 2012 i 2020 ar gyfer Cymru a Lloegr i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2021.
Ar 15 Gorffennaf 2024, cafodd yr amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 eu hadolygu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i adlewyrchu'r amcangyfrifon diweddaraf o fudo rhyngwladol ar gyfer Cymru a Lloegr.
Teitl
Dosbarthiad poblogaeth yn ôl bandiau oedran eang (1871 ymlaen), yn ôl awdurdodau lleol yng Nghymru a rhywDiweddariad diwethaf
Gorffennaf 2024Diweddariad nesaf
Haf 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau GwladolFfynhonnell 2
Cyfrifiad 1871, Cyfrifiad 1901, Cyfrifiad 1931, Cyfrifiad 1961-2001Cyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Gweler y dolenni i'r weDolenni'r we
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/midyearpopulationestimatesqmihttps://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/annualmidyearpopulationestimates/latest