

None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn (2001 ymlaen), yn ôl awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru, blwyddyn sengl oedran a rhywDiweddariad diwethaf
Mehefin 2020Diweddariad nesaf
Hydref 2021 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcanestyniadau poblogaeth canol y flwyddyn ar gyfer ardaloedd Parciau Cenedlaethol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau arbrofolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Parciau CenedlaetholCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer ardaloedd y Parciau Cenedlaethol yng Nghymru am y cyfnod o 2001 ymlaen yn ôl rhyw a blwyddyn sengl oedran, ynghyd â rhai grwpiau oedran cyfunedig.Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenni i'r weAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r data'n cael eu cynhyrchu a'u hadrodd bob blwyddyn ac yn ymwneud â 30 Mehefin bob blwyddyn o 2001 ymlaen.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Caiff y data a ddangosir yma eu defnyddio gan adrannau o'r llywodraeth ganolog ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys cynllunio a monitro gwasanaethau ac fel enwaduron er mwyn cyfrifo gwahanol gyfraddau a dangosyddion.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Darperir y data fel rhai heb eu talgrynnu er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod unrhyw ganlyniadau a ddangosir o'r data hyn wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf lle bo'n ymarferol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data a ddangosir yma'n adlewyrchu newidiadau a wnaethpwyd i amcangyfrifon poblogaeth o 2002 i 2010 wrth ail-seilio'r data i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 (gweler y dolenni gwe).Cyhoeddodd yr ONS amcangyfrifon diwygiedig o’r boblogaeth ar gyfer canol-2012 i ganol-2016 ar 22 Mawrth 2018 oherwydd gwelliannau methodolegol. Mae’r ffigurau ar gyfer canol-2012 i ganol-2016 o fewn y tablau StatsCymru wedi eu diwygio.