Amcangyfrifon o'r boblogaeth yn ôl awdurdod lleol, ardal cynnyrch ehangach haen uwch a grŵp oedran (daearyddiaeth syml)
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth cryno
- Data agored
Teitl
Poblogaeth ar gyfer ardaloedd bychain yng Nghymru (2011 ymlaen), yn ôl bandiau oedran eang a rhywDiweddariad diwethaf
Medi 2021Diweddariad nesaf
Rhagfyr 2022 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcangyfrifon poblogaeth ardaloedd bach (SAPE), y Swyddfa Ystadegau CenedlaetholCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Ardaloedd cynnyrch ehangach haen isCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegDolenni'r we
https://www.ons.gov.uk/methodology/geography/ukgeographies/censusgeographyhttps://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/smallareapopulationestimatesqmi
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/datasets/lowersuperoutputareamidyearpopulationestimatesnationalstatistics
Allweddeiriau
Poblogaeth; ardaloedd bach; LSOA; MSOA; USOA; ardal gynnyrch ehangachAnsawdd ystadegol
Gweler y dolenni i'r weDisgrifiad cyffredinol
Mae’r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHI), yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol (ACEHG), yr Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Uwch (ACEHU) a’r awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae’r amcangyfrifon hyn yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 ac ar gael ar gyfer ffiniau daearyddol 2011 ACEHI, ACEHG ac ACEHU a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2012.Cyflwynwyd Ardaloedd Cynnyrch Ehangach (ACE) yn 2004 er mwyn gwella’r ffordd yr adroddir ystadegau ardaloedd bach. Maent wedi’u hadeiladu o grwpiau o ardaloedd cynnyrch cyfrifiad, mae eu maint yn gyson ac nid yw eu ffiniau’n cael eu newid rhwng cyfrifiadau. Os oes modd cânt eu ffurfio o grwpiau o aelwydydd sy’n debyg yn gymdeithasol ac maent yn alinio â nodweddion lleol fel ffyrdd a rheilffyrdd. Mae cymaroldeb a sefydlogrwydd y ddaearyddiaeth yn un o’r prif fuddion i ddefnyddwyr ystadegau na all ardaloedd gweinyddol bach eraill fel wardiau neu blwyfi ei ddarparu.
Yn dilyn Cyfrifiad 2011, roedd angen rhai newidiadau i ffiniau ACE a chyhoeddwyd y set newydd o ACE ym mis Hydref 2012, er bod sefydlogrwydd y ddaearyddiaeth wedi cael ei gadw i raddau helaeth.
Mae tair lefel hierarchaidd o ACE ar gael yng Nghymru. Cynlluniwyd yr ACEHI i fod â phoblogaeth rhwng 1,000 a 3,000 yn 2011, ac mae 1,909 ohonynt yng Nghymru. Cynlluniwyd ACEHG fel casgliadau o ACEHI, roedd ganddynt boblogaeth rhwng 5,000 a 15,000 yn 2011, ac mae 410 ohonynt yng Nghymru. Mae ACEHU yn gasgliadau o ACEHG a chawsant eu diffinio ar y cyd ag awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae 94 ohonynt yng Nghymru a dim ond yng Nghymru maent wedi’u diffinio.
Nid yw’r data hyn yn wahanol i’r rhai a gyhoeddir mewn tabl gwahanol (POPU1015), ond fe’u dangosir gan ddefnyddio hierarchaeth wahanol i’w gwneud yn haws i’r defnyddiwr ddewis y data o un haen o’r ddaearyddiaeth (er enghraifft, dewis dim ond yr ardaloedd cynnyrch ehangach haen is, heb y mathau eraill o ardaloedd).
Gellir cael mwy o wybodaeth am ACE o’r adran daearyddiaeth ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (gweler y dolenni gwe).
Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenni i'r weAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r data'n cael eu cynhyrchu a'u hadrodd bob blwyddyn ac yn ymwneud â 30 Mehefin bob blwyddyn.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Yn aml defnyddir yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is, Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol ac Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Uwch at ddibenion ymchwil a dadansoddi, gan eu bod wedi'u bwriadu at ddibenion ystadegol, yn wahanol i ardaloedd bach eraill megis wardiau. Yn benodol, cânt eu defnyddio gan adrannau'r llywodraeth ganolog a chan awdurdodau lleol at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys cynllunio a monitro gwasanaethau, ac fel enwaduron er mwyn cyfrifo gwahanol gyfraddau a dangosyddion.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Darperir y data fel rhai heb eu talgrynnu er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod unrhyw ganlyniadau a ddangosir o'r data hyn wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf lle bo'n ymarferol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data ardaloedd bach (ar lefel ardal gynnyrch ehangach) a ddangosir yma wedi cael eu diwygio fel eu bod yn gyson â'r amcangyfrifon poblogaeth a gynhyrchwyd ar lefel genedlaethol a lefel awdurdodau lleol ar gyfer yr un cyfnod.Cyhoeddodd yr ONS amcangyfrifon diwygiedig o’r boblogaeth ar gyfer canol 2012 i ganol 2016 ar 22 Mawrth 2018 oherwydd gwelliannau methodolegol. Mae’r ffigurau ar gyfer canol 2012 i ganol 2016 o fewn y tablau StatsCymru wedi eu diwygio.