Amcangyfrifon o'r boblogaeth ar lefel genedlaethol yn ôl blwyddyn, rhyw a gwlad yn y DU
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol Cymru, rhanbarthau Lloegr a gwledydd y Deyrnas Unedig am y cyfnod o 1991 ymlaen, yn ôl rhyw a blwydd oedran, ynghyd â rhai grwpiau oedran cyfunedig.Dylid nodi bod rhai newidiadau yn niffiniadau (yn enwedig yn effeithio ar y cydrannau mudo) ar gyfer canol 2020 o gymharu â data amcangyfrifon poblogaeth canol 2019 a chynghorir bod defnyddwyr yn darllen yr adran Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ar gyfer Cymru, Lloegr, a Gogledd Iwerddon, amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 yw'r amcangyfrifon poblogaeth cyntaf i gael eu seilio ar gyfrifiadau 2021 ar gyfer y gwledydd hyn. Ar gyfer yr Alban, symudwyd y cyfrifiad i 2022. Amcangyfrifon poblogaeth canol 2022 yw'r amcangyfrifon poblogaeth cyntaf i gael eu seilio ar Gyfrifiad 2022 yr Alban.
Mae amcangyfrifon mudo mewnol ar gyfer canol 2023 wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio dull gwahanol i flynyddoedd blaenorol, yn dilyn newid i’r newidynnau sydd ar gael yn nata’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
Mae Hawlfraint y Goron ar y deunydd hwn a gellir ei ailddefnyddio (ac eithrio logos) yn ddi-dâl mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored.
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenni i'r weAmlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r data'n cael eu cynhyrchu a'u hadrodd bob blwyddyn ac yn seiliedig ar 30 Mehefin bob blwyddyn ers 1991.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Caiff y data a ddangosir fan hyn eu defnyddio gan adrannau o'r llywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol at amrywiaeth o ddibenion gan gynnwys cynllunio a monitro gwasanaethau, ac fel enwaduron er mwyn cyfrifo gwahanol gyfraddau a dangosyddion.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Darperir y data fel rhai heb eu talgrynnu er bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud y dylai unrhyw ganlyniadau a ddangosir o'r data hyn gael eu talgrynnu i'r 100 agosaf lle bo'n ymarferol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data a ddangosir fan hyn yn adlewyrchu newidiadau a wnaethpwyd i amcangyfrifon poblogaeth o 2001 i 2010 wrth ail-seilio'r data i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2011 (gweler y dolenni gwe).Cafodd y data ar gyfer yr Alban ar gyfer y cyfnod 2001 i 2020 eu diwygio ar 18 Mawrth 2022 i gywiro gwall yn y dosbarthiad yn ôl oedran yn ystod y cyfnod hwn (gweler dolenni'r we).
Diwygiwyd y set ddata hon ar gyfer 2012 i 2014 ar 3 Mai 2016 i gywiro gwall yn nosbarthiad oedran mewn ardaloedd cyngor yr Alban.
Adolygwyd amcangyfrifon poblogaeth is-genedlaethol canol 2012 i ganol 2016 ar gyfer Cymru a Lloegr ar 22 Mawrth 2018, yn dilyn gwelliannau methodolegol (gweler y dolenni gwe).
Ar 23 Tachwedd 2023, ailseiliwyd y set ddata o 2012 i 2020 ar gyfer Cymru a Lloegr i fod yn gyson â chanlyniadau Cyfrifiad 2021. Cyhoeddodd Gogledd Iwerddon ddata wedi'u ailseilio ar gyfer 2012 i 2020 ar 29 Mehefin 2023. Cyhoeddodd yr Alban ddata wedi'u ailseilio ar gyfer 2012 i 2020 ar 9 Gorffennaf 2024.
Ar 15 Gorffennaf 2024, cafodd yr amcangyfrifon ar gyfer canol 2022 eu hadolygu gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i adlewyrchu'r amcangyfrifon diweddaraf o fudo rhyngwladol ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mae amcangyfrifon mudo mewnol ar gyfer canol 2023 wedi’u cynhyrchu gan ddefnyddio dull gwahanol i flynyddoedd blaenorol, yn dilyn newid i’r newidynnau sydd ar gael yn nata’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA).
Teitl
Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn (1991 ymlaen), yn ôl awdurdodau lleol Cymru, rhanbarthau Lloegr a gwledydd y Deyrnas Unedig, yn ôl blwydd oedran a rhywDiweddariad diwethaf
Gorffennaf 2024Diweddariad nesaf
Haf 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcangyfrifon poblogaeth canol-blwyddyn, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Y Deyrnas UnedigCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Gweler y dolenni i'r we.Dolenni'r we
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/methodologies/annualmidyearpopulationestimatesqmihttps://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationestimates/bulletins/annualmidyearpopulationestimates/latest
https://www.nrscotland.gov.uk/statistics-and-data/statistics/about-our-statistics/revisions-and-corrections