Amcanestyniadau o'r boblogaeth yn ôl cydrannau newid, blwyddyn a ardaloedd Parc Cenedlaethol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer y Parciau Cenedlaethol ac Ardaloedd Gweddilliol Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn ôl rhyw, blwyddyn sengl oedran a phob blwyddyn o'r flwyddyn sail sef 2014, trwy gyfnod yr amcanestyniad i 2039.Nodwch fod yr amcanestyniadau'n mynd yn fwyfwy ansicr po bellaf yr ydym yn ceisio edrych i'r dyfodol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae amcanestyniadau poblogaeth yn rhoi amcangyfrifon o faint y boblogaeth yn y dyfodol, ac yn cael eu seilio ar dybiaethau ynghylch genedigaethau, marwolaethau ac ymfudo. Mae'r tybiaethau'n cael eu seilio ar dueddiadau'r gorffennol. Nid yw amcanestyniadau ond yn awgrymu beth all ddigwydd os yw'r tueddiadau diweddar yn parhau. Nid yw amcanestyniadau a wneir fel hyn yn caniatáu ar gyfer effeithiau polisïau llywodraeth leol neu ganolog ar lefelau'r boblogaeth yn y dyfodol, dosbarthiad a newid.Mae amcangyfrifon poblogaeth 2014 wedi cael eu defnyddio fel sail i amcanestyniadau'r Parciau Cenedlaethol. Mae'r boblogaeth amcanestynedig ar gyfer 30 Mehefin bob blwyddyn. Mae'r amcangyfrifon poblogaeth sail wedi'u seilio ar y boblogaeth breswyl arferol. Caiff preswylwyr arferol sydd oddi cartref dros dro eu cynnwys, ond caiff ymwelwyr eu heithrio. Caiff myfyrwyr eu cyfrif yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Dylid nodi hefyd y defnyddir diffiniad y Cenhedloedd Unedig o ymfudwr rhyngwladol - y rheiny sy'n newid gwlad breswyl am gyfnod o 12 mis o leiaf. Ni chaiff ymfudwyr tymor byr (e.e. gweithwyr ymfudol o wledydd Dwyrain Ewrop) eu cyfrif yn yr amcangyfrifon poblogaeth ac felly ni chânt eu cynnwys yn yr amcanestyniadau poblogaeth.
Mae'r amcanestyniadau hyn wedi'u seilio ar fethodoleg debyg i'r amcanestyniadau poblogaeth sail 2014 ar gyfer awdurdodau parciau cenedlaethol. Gellir gweld gwybodaeth fanwl am y fethodoleg trwy ddilyn y dolenni gwe. Ar gyfer amcanestyniadau'r Parciau Cenedlaethol, cafwyd data ffrwythlondeb, marwolaethau ac ymfudo o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer y tri Pharc Cenedlaethol ac fe'u defnyddiwyd i lunio tybiaethau. Nid oedd y fethodoleg yn wahanol ond pan nad oedd y data gofynnol ar gael ar lefel Parc Cenedlaethol. Yr unig grwp poblogaeth arbennig a gynhwyswyd yn yr amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer y Parciau Cenedlaethol oedd y lluoedd arfog cartref.
Amlder cyhoeddi
Bob tair blyneddCyfnodau data dan sylw
Mae data'n cael eu cyhoeddi ar gyfer y cyfnod 2014 i 2039.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gweler y datganiad ystadegol o amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau parciau cenedlaethol trwy ddilyn y dolenni gwe.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r data wedi'u talgrynnu'n annibynnol i'r rhif cyfan agosaf ac mae'n bosibl na fyddant yn adio'n union.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ni wnaethpwyd unrhyw ddiwygiadau i'r data a gyhoeddwyd ar gyfer 2014. Disodlodd y data hyn amcanestyniadau poblogaeth parciau cenedlaethol 2013 ar gyfer Cymru fel yr amcangyfrifon ffurfiol o dwf y boblogaeth.Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer ardaloedd Parciau Cenedlaethol yng Nghymru ar sail 2014, Llywodraeth CymruCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Parciau CenedlaetholCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegTeitl
Amcanestyniadau poblogaeth Parciau Cenedlaethol Cymru sail 2014, 2014 i 2039Diweddariad diwethaf
26 Gorfennaf 2017Diweddariad nesaf
Dim yn diweddaru, bydd hyn yn cael eu disodli gan amcanestyniad dyfodol.Dolenni'r we
National Park authority population projections statistical release: http://gov.wales/statistics-and-research/population-projections-national-parks/?lang=en;Local authority population projections statistical release: http://gov.wales/statistics-and-research/local-authority-population-projections/?lang=en;
National projections: http://www.ons.gov.uk/ons/rel/npp/national-population-projections/