Mae’r set ddata hon yn rhoi’r cydrannau newid sy’n rhan o gyfrifo’r amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer parciau cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r data’n ymdrin â’r newid rhwng pob blwyddyn amcanestyniad olynol ac yn ymwneud â’r newid o ganol pob blwyddyn i ganol y flwyddyn ganlynol. Mae data’r flwyddyn gyntaf yn cynrychioli’r newid o’r flwyddyn sail sef canol 2018 i ganol 2019, trwy gyfnod yr amcanestyniad i ddangos y newid ar gyfer canol 2042 i ganol 2043.
Nodwch fod yr amcanestyniadau'n mynd yn fwyfwy ansicr po bellaf yr ydym yn ceisio edrych i'r dyfodol.
Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r data wedi'u talgrynnu'n annibynnol i'r rhif cyfan agosaf ac mae'n bosibl na fyddant yn adio'n union.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae'r data hyn yn disodli amcanestyniadau poblogaeth parciau cenedlaethol 2014 ar gyfer Cymru fel yr amcangyfrifon ffurfiol o dwf y boblogaeth.
Teitl
Amcanestyniadau o'r boblogaeth yn ol cydrannau newid, parciau cenedlaethol a blwyddyn, 2018 i 2043