Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Amcanestyniadau poblogaeth yn ôl blwyddyn a rhyw
None
Cod Ardal[Hidlo]
Ardal[Hidlwyd]
[Lleihau]Oed[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Oed 1[Hidlo]
-
Oed 2[Hidlo]
Measure1
[Lleihau]Rhyw[Hidlo]
-
Rhyw 1
Blwyddyn[Hidlo]
[Lleihau]PoblCliciwch yma i ddidoliPobl
Cliciwch yma i ddidoliDynionCliciwch yma i ddidoliMerched
20161,534,0381,579,1123,113,150
20171,541,5311,584,6893,126,220
20181,549,0791,590,2293,139,308
20191,556,0941,595,4753,151,569
20201,562,5311,600,3883,162,919
20211,568,3021,604,8563,173,158
20221,572,9871,608,5453,181,532
20231,577,1211,611,8873,189,008
20241,581,1721,615,2593,196,431
20251,585,1401,618,5953,203,735
20261,588,9921,621,8243,210,816
20271,592,6511,624,8563,217,507
20281,596,0701,627,6533,223,723
20291,599,1811,630,1313,229,312
20301,601,9991,632,2903,234,289
20311,604,5071,634,1243,238,631
20321,606,6861,635,6303,242,316
20331,608,5261,636,7963,245,322
20341,610,0771,637,6433,247,720
20351,611,3911,638,2303,249,621
20361,612,5151,638,6173,251,132
20371,613,4871,638,8243,252,311
20381,614,3911,638,9303,253,321
20391,615,2751,638,9623,254,237
20401,616,1381,638,9303,255,068
20411,616,9911,638,8373,255,828

Metadata

Teitl

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sail 2016 ar gyfer Cymru, 2016-2041

Diweddariad diwethaf

Gorffennaf 2018 Gorffennaf 2018

Diweddariad nesaf

Does dim diweddariad yn y dyfodol, bydd hyn yn cael ei disodli gan amcanestyniad newydd.

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru ar sail 2016, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Cymru

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynhyrchu amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru a gwledydd eraill y DU (Dyddiad y datganiad: 26 Hydref 2017). Mae’r set ddata hon yn rhoi’r data ar gyfer Cymru o’r ffynhonnell honno yn ôl rhyw, blwyddyn sengl oedran a phob blwyddyn o’r flwyddyn sail sef 2016, trwy gyfnod yr amcanestyniad i 2041.

Nodwch fod yr amcanestyniadau'n mynd yn fwyfwy ansicr po bellaf yr ydym yn ceisio edrych i'r dyfodol.

Nodwch hefyd fod y ffigurau hyn yn wahanol i’r data ar gyfer Cymru yn amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol oherwydd mai prif nod amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol yw cynhyrchu amcanestyniadau poblogaeth awdurdodau lleol cadarn ar gyfer Cymru, sy’n adlewyrchu tueddiadau lleol yn y blynyddoedd diwethaf, ond mai prif ddiben yr amcanestyniadau cenedlaethol yw cynhyrchu amcanestyniadau poblogaeth cadarn ar gyfer Cymru sy’n adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae’r amcanestyniadau cenedlaethol ac amcanestyniadau awdurdodau lleol yn wahanol am ddau brif reswm:

1. Mae’r fethodoleg a ddefnyddir i gynhyrchu tybiaethau yn amcanestyniadau awdurdodau lleol yn wahanol i’r rheiny a ddefnyddir yn yr amcanestyniadau cenedlaethol. Mae rhai o’r rhain oherwydd ffynonellau data ychydig yn wahanol.

Hefyd, er bod un set o dybiaethau o bosibl yn addas iawn ar gyfer tuedd genedlaethol, efallai na fydd defnyddio tybiaethau tebyg yn cynhyrchu canlyniadau dichonol bob amser ar gyfer yr holl ardaloedd awdurdodau lleol oherwydd y gwahanol natur a thueddiadau rhwng awdurdodau lleol.

2. Mae’r lefel ddaearyddol mae’r tybiaethau’n cael eu seilio a’u cymhwyso arni hefyd yn bwysig. Er enghraifft, nid yw’n briodol symio cyfraddau lleol (e.e. ffrwythlondeb) er mwyn cael cyfradd genedlaethol, ac felly bydd model sy’n gweithredu ar lefelau daearyddol gwahanol (ond yn defnyddio cyfraddau) yn cynhyrchu canlyniadau gwahanol ar gyfer y lefelau daearyddol gwahanol.


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae amcanestyniadau poblogaeth yn rhoi amcangyfrifon o faint y boblogaeth yn y dyfodol, ac yn cael eu seilio ar dybiaethau ynghylch genedigaethau, marwolaethau ac ymfudo. Mae'r tybiaethau'n cael eu seilio ar dueddiadau'r gorffennol. Nid yw amcanestyniadau ond yn awgrymu beth all ddigwydd os yw'r tueddiadau diweddar yn parhau. Nid yw amcanestyniadau a wneir fel hyn yn caniatáu ar gyfer effeithiau polisïau llywodraeth leol neu ganolog ar lefelau'r boblogaeth yn y dyfodol, dosbarthiad a newid.

Mae amcangyfrifon poblogaeth cenedlaethol 2016 wedi cael eu defnyddio fel sail i'r amcanestyniadau cenedlaethol hyn. Mae'r boblogaeth amcanestynedig ar gyfer 30 Mehefin bob blwyddyn. Mae'r amcangyfrifon poblogaeth sail wedi'u seilio ar y boblogaeth breswyl arferol. Caiff preswylwyr arferol sydd oddi cartref dros dro eu cynnwys, ond caiff ymwelwyr eu heithrio. Caiff myfyrwyr eu cyfrif yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Dylid nodi hefyd y defnyddir diffiniad y Cenhedloedd Unedig o ymfudwr rhyngwladol - y rheiny sy'n newid gwlad breswyl am gyfnod o 12 mis o leiaf. Ni chaiff ymfudwyr tymor byr (e.e. gweithwyr ymfudol o wledydd Dwyrain Ewrop) eu cyfrif yn yr amcangyfrifon poblogaeth ac felly ni chânt eu cynnwys yn yr amcanestyniadau poblogaeth.

Amlder cyhoeddi

Bob dwy flynedd

Cyfnodau data dan sylw

Mae data'n cael eu cyhoeddi ar gyfer y cyfnod 2016 i 2041.

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Gweler y dolenni i'r we.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r data wedi'u talgrynnu'n annibynnol i'r rhif cyfan agosaf ac mae'n bosibl na fyddant yn adio'n union. Mae oedrannau cymedrig a chanolrifol wedi'u talgrynnu i 2 le degol ac nid ydynt yn adiol.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Ni wnaethpwyd unrhyw ddiwygiadau i'r data a gyhoeddwyd ar gyfer 2016. Disodlodd y data hyn amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol 2014 ar gyfer Cymru fel yr amcangyfrifon ffurfiol o dwf y boblogaeth.

Allweddeiriau

Amcanestyniadau poblogaeth; twf poblogaeth; mudo; mudiad; newid naturiol; genedigaethau; marwolaethau

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni i'r we.