Amcanestyniadau poblogaeth yn ôl blwyddyn ac oedran
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sail 2020 (interim) ar gyfer Cymru, 2020-2045Diweddariad diwethaf
Chwefror 2022Diweddariad nesaf
Ni fydd diweddariad. Bydd yn cael ei ddisodli gan amcanestyniad newydd.Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sail 2020 (interim) ar gyfer Cymru, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig (dyddiad y datganiad: 12 Ionawr 2022). Mae’r set ddata hon yn rhoi’r data ar gyfer Cymru o’r ffynhonnell honno yn ôl rhyw, blwyddyn oedran unigol a phob blwyddyn o’r flwyddyn sail, sef 2020, trwy gyfnod yr amcanestyniad i 2045.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae amcangyfrifon poblogaeth canol 2020 wedi’u defnyddio fel sylfaen ar gyfer yr amcanestyniadau cenedlaethol hyn. Mae'r amcanestyniad poblogaeth yn seiliedig ar 30 Mehefin bob blwyddyn. Mae'r amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar y boblogaeth breswyl arferol. Cynhwysir preswylwyr arferol oddi cartref dros dro, ond ni chynhwysir ymwelwyr. Mae myfyrwyr yn cael eu cyfrif yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Dylid nodi hefyd bod diffiniad y Cenhedloedd Unedig o ymfudwr rhyngwladol yn cael ei ddefnyddio - y rhai sy'n newid gwlad breswyl am gyfnod o 12 mis o leiaf. Nid yw ymfudwyr tymor byr (er enghraifft, gweithwyr mudol o wledydd dwyrain Ewrop) yn cael eu cyfrif yn yr amcangyfrifon poblogaeth ac felly nid ydynt yn cael eu cynnwys yn yr amcanestyniadau poblogaeth.Amlder cyhoeddi
Bob dwy flyneddCyfnodau data dan sylw
Mae data'n cael eu cyhoeddi ar gyfer y cyfnod 2020 i 2045.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gweler y dolenni i'r we.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r data wedi'u talgrynnu'n annibynnol i'r rhif cyfan agosaf ac mae'n bosibl na fyddant yn adio'n union. Mae oedrannau cymedrig a chanolrifol wedi'u talgrynnu i ddau le degol ac nid ydynt yn adiol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi cyhoeddi datganiad ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol interim sy’n seiliedig ar 2020 i hysbysu defnyddwyr o wall yn ymwneud ag allfudo rhyngwladol o Gymru. Mae’r ONS yn nodi bod effaith hyn yn gymharol fach ar amcanestyniadau Cymru, gyda’r amcanestyniadau poblogaeth oddeutu 2,700 yn is erbyn 2030 na’r hyn a gyhoeddir, ac oddeutu 16,400 yn is erbyn 2045. Yn dilyn ymgynghori â Llywodraeth Cymru, mae’r ONS wedi penderfynu peidio â chyhoeddi amcanestyniadau newydd. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan yr ONS (gweler y dolenni i'r we).Ni wnaethpwyd unrhyw ddiwygiadau i'r data a gyhoeddwyd ar gyfer 2020. Disodlodd y data hyn amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol 2018 ar gyfer Cymru fel yr amcanestyniadau swyddogol o dwf y boblogaeth.
Dolenni'r we
Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationprojections;https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationprojections/methodologies/nationalpopulationprojectionsqmi
https://cy.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationprojections/bulletins/nationalpopulationprojections/2020basedinterim