Amcanestyniadau poblogaeth yn ôl blwyddyn ac oedran
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig (dyddiad y datganiad: 30 Ionawr 2024). Mae’r set ddata hon yn rhoi’r data ar gyfer Cymru o’r ffynhonnell honno yn ôl rhyw, blwyddyn oedran unigol a phob blwyddyn o’r flwyddyn sail, sef 2021, trwy gyfnod yr amcanestyniad i 2046.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 wedi’u defnyddio fel sylfaen ar gyfer yr amcanestyniadau cenedlaethol hyn. Mae'r amcanestyniad poblogaeth yn seiliedig ar 30 Mehefin bob blwyddyn. Mae'r amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar y boblogaeth breswyl arferol. Cynhwysir preswylwyr arferol oddi cartref dros dro, ond ni chynhwysir ymwelwyr. Mae myfyrwyr yn cael eu cyfrif yn eu cyfeiriad yn ystod y tymor. Dylid nodi hefyd bod diffiniad y Cenhedloedd Unedig o ymfudwr rhyngwladol yn cael ei ddefnyddio, sef pobl sy'n newid gwlad breswyl am gyfnod o 12 mis o leiaf. Nid yw ymfudwyr tymor byr (er enghraifft, gweithwyr mudol) yn cael eu cyfrif yn yr amcangyfrifon poblogaeth ac felly nid ydynt yn cael eu cynnwys yn yr amcanestyniadau poblogaeth.Nid yw data ar gyfer 2021 a 2022 wedi'u cynnwys yn y ciwb. Dylai defnyddwyr ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol ar gyfer 2021 a 2022. Mae'r amcanestyniadau hyn yn defnyddio'r amcangyfrifon dros dro diweddaraf o fudo rhyngwladol, a gaiff eu hadolygu wrth i ragor o ddata ddod ar gael, a datblygwyd rhagdybiaethau yn dilyn y cyngor arbenigol diweddaraf.
Amlder cyhoeddi
Bob dwy flyneddCyfnodau data dan sylw
Mae data'n cael eu cyhoeddi ar gyfer y cyfnod 2021 i 2046.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gweler y dolenni i'r we.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r data wedi'u talgrynnu'n annibynnol i'r rhif cyfan agosaf ac mae'n bosibl na fyddant yn adio'n union. Mae oedrannau cymedrig a chanolrifol wedi'u talgrynnu i ddau le degol ac nid ydynt yn adiol.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Disodlodd y data hyn amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy'n seiliedig ar 2020 ar gyfer Cymru fel yr amcanestyniadau swyddogol o newid yn y boblogaeth.Teitl
Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sail 2021 interim ar gyfer Cymru, 2021-2046Diweddariad diwethaf
30 Ionawr 2024Diweddariad nesaf
Hydref / Tachwedd 2024Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sail 2021 (interim) ar gyfer Cymru, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.poblogaeth@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegAnsawdd ystadegol
Gweler y dolenni i'r we.Dolenni'r we
National population projections: https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationprojections;https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationprojections/methodologies/nationalpopulationprojectionsqmi
https://www.ons.gov.uk/peoplepopulationandcommunity/populationandmigration/populationprojections/bulletins/nationalpopulationprojections/2021basedinterim