
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Gwerth Ychwanegol Gros (GYC) gan ranbarth economaidd CymruDiweddariad diwethaf
Gorffennaf 2025Diweddariad nesaf
I'w gyhoeddiSefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyfrifon Rhanbarthol, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Dros dro yw'r data ar gyfer 2023 ac mae data'r blynyddoedd blaenorol wedi cael eu diwygio.Mae'r set ddata'n rhannu'r Gwerth Ychwanegol Gros rhanbarthol seiliedig ar breswyl i gydrannau tâl i gyflogeion, arall a chyfanswm, ac mae hefyd yn cynnwys amcangyfrifon o gyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros seiliedig ar y gweithle (y tybir ei fod, ar gyfer y rhan fwyaf o ranbarthau gan gynnwys Cymru, yn gyfwerth â'r Gwerth Ychwanegol Gros seiliedig ar breswyl). Mae tri mesur gwahanol ar gael ar gyfer pob cydran, sef symiau Gwerth Ychwanegol Gros mewn £ miliwn, Gwerth Ychwanegol Gros y pen a Gwerth Ychwanegol Gros y pen wedi'i fynegeio i'r DU = 100.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cyfrifir GYC (gwerth ychwanegol crynswth) Rhanbarthol ar sail prisiau sylfaenol cyfredol gan ddefnyddio'r dull cytbwys. Yn 2017, defnyddiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol y dull incwm a’r dull cynhyrchu, i gynhyrchu amcangyfrif sengl o GYC a’i helwir yn ddull cytbwys (GYC (B)). Ceir mwy o fanylion am sut y’i datblygwyd a’i cyfrifwyd yn eu hymateb i'r ymgynghoriad. Cyfrannodd Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi at yr ymateb.Mae'r rhanbarthau economaidd, fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru, yn cynnwys yr awdurdodau lleol canlynol:
Canolbarth a De-orllewin Cymru: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Powys a Cheredigion.
De-ddwyrain Cymru: Pen-y-bont ar Ogwr, Bro Morgannwg, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd.
Gogledd Cymru: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Roedd rhanbarth Canolbarth a De-orllewin Cymru wedi'i rannu'n flaenorol yn y ddau rhanbarth economaidd canlynol:
Canolbarth Cymru: Powys a Cheredigion.
De-orllewin Cymru: Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
O fewn y rhaniad blaenorol o ranbarthau economaidd Cymru, roedd rhan o awdurdod lleol Gwynedd (hen ardal Meirionydd) yn gorwedd mewn rhanbarth economaidd Canolbarth Cymru, er nad yw’n cael ei gynrychioli yn y data.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
1998 i 2023Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.Allweddeiriau
GVA; Gwerth Ychwanegol GrosAnsawdd ystadegol
O dan System Cyfrifon Ewropeaidd 1995 (ESA95), mae'r term Gwerth Ychwanegol Gros yn cael ei ddefnyddio i ddynodi amcangyfrifon a arferai gael eu galw'n Gynnyrch Domestig Gros ar sail prisiau sylfaenol. O dan ESA95, mae'r term Cynnyrch Domestig Gros yn dynodi Gwerth Ychwanegol Gros gyda threthi (namyn cymorthdaliadau) ar gynhyrchion h.y. am brisiau'r farchnad. Mae Cyfrifon Rhanbarthol yn cyhoeddi ffigurau am brisiau sylfaen ac felly wedi mabwysiadu'r term Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yn hytrach na Chynnyrch Domestig Gros (GDP).Mesurir Gwerth Ychwanegol Gros mewn prisiau cyfredol, sy'n golygu bod cynnydd dros amser yn adlewyrchu chwyddiant yn ogystal â thwf go iawn. Ni ellir dadansoddi tueddiadau mewn cyfanswm Gwerth Ychwanegol Gros neu Werth Ychwanegol Gros y pen yn hawdd heb ddadchwyddo'r data. Ar gyfer dadansoddi tueddiadau mewn GYG, byddem yn cynghori defnyddio'r mesurau cyfaint cadwyn a gyhoeddwyd gan ONS (Saesneg yn unig): https://www.ons.gov.uk/economy/grossvalueaddedgva/datasets/nominalandrealregionalgrossvalueaddedbalancedbyindustry
Amcangyfrifon o Werth Ychwanegol Gros rhanbarthol ar brisiau sylfaenol a gyflwynwyd yma yn gyson â rhifyn 2024 o UK National Accounts - The Blue Book.