Dangosyddion datblygu cynaliadwy
Diben y dangosyddion yw dangos a thynnu sylw at y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r materion allweddol a'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer datblygu cynaliadwy, ac maent hefyd, ynghyd â thystiolaeth arall, yn helpu i nodi lle mae angen gweithredu.
Hysbysiad terfynu
Nid yw'r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy bellach yn cael eu diweddaru. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn monitro cynnydd tuag at nodau llesiant drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r dyfodol, ac mae adroddiad diweddaru blynyddol yn cael ei gyhoeddi ar Lesiant Cymru. Mae'r dangosyddion cenedlaethol hefyd yn dangos cynnydd yng Nghymru yn erbyn rhai o nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.