Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol 16. Cyflogaeth - Canran y bobl 16-64 oed oedd mewn gwaith (ECON)
Siart cyfateb i'r tabl data
None
Oed[Hidlwyd]
[Lleihau]Mesur[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Mesur 1[Hidlo]
-
Mesur 2[Hidlo]
Cod Ardal[Hidlo]
[Lleihau]Ardal[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Ardal 1[Hidlwyd]
-
Ardal 2[Hidlwyd]
Measure2
Chwarter(Esgynnol)[Hidlwyd]
[Lleihau]Rhyw[Hidlo]
-
-
Rhyw 1
Cliciwch yma i ddidoliTach 2013 i Ion 2014Cliciwch yma i ddidoliTach 2014 i Ion 2015Cliciwch yma i ddidoliTach 2015 i Ion 2016Cliciwch yma i ddidoliTach 2016 i Ion 2017Cliciwch yma i ddidoliTach 2017 i Ion 2018Cliciwch yma i ddidoliTach 2018 i Ion 2019Cliciwch yma i ddidoliTach 2019 i Ion 2020Cliciwch yma i ddidoliTach 2020 i Ion 2021Cliciwch yma i ddidoliTach 2021 i Ion 2022Cliciwch yma i ddidoliTach 2022 I Ion 2023Nid oes modd cymharu data ar gyfer y cyfnod o Orffennaf i Fedi 2022 ymlaen â chyfnodau blaenorol oherwydd diffyg parhad yn y gyfres amser yn sgil ail-bwysoli’r data.Cliciwch yma i ddidoliTach 2023 I Ion 2024Nid oes modd cymharu data ar gyfer y cyfnod o Orffennaf i Fedi 2022 ymlaen â chyfnodau blaenorol oherwydd diffyg parhad yn y gyfres amser yn sgil ail-bwysoli’r data.
[Lleihau]Pobl70.869.871.773.372.776.074.472.074.472.170.3
PoblDynion74.373.175.476.676.880.477.074.277.977.872.6
Merched67.466.468.070.068.571.771.769.870.866.568.1

Metadata

Teitl

Arolwg o'r Llafurlu: Crynodeb o weithgarwch economaidd

Diweddariad diwethaf

14 Mawrth 2024 14 Mawrth 2024

Diweddariad nesaf

18 Ebrill 2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg o'r Llafurlu, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Rhanbarthau'r DU

Cwmpas daearyddol

Rhanbarthau'r DU

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Cymerir y data hyn o'r Arolwg o'r Llafurlu a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae'r data wedi'u haddasu'n dymhorol ac yn cael eu diweddaru bob mis er mwyn rhoi cyfres amser o gyfartaleddau tri mis hyd at a chan gynnwys y cyfnod tri mis diweddaraf ar gyfer y DU a phob gwlad yn y DU a rhanbarth yn Lloegr.

Casgliad data a dull cyfrifo

Gellir rhannu'r boblogaeth i boblogaethau economaidd weithgar ac economaidd anweithgar. Mae'r boblogaeth economaidd weithgar yn cynnwys personau sydd mewn cyflogaeth a phersonau sy'n ddi-waith yn ôl diffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r adroddiad hwn yn caniatáu i'r defnyddiwr gyrchu'r data hyn.
Er bod pob mesur ar gael ar gyfer gwahanol seiliau poblogaeth, defnyddir sail poblogaeth safonol swyddogol ar gyfer pob un o'r mesurau, fel a ganlyn.
Poblogaeth 16 oed a throsodd: Lefel gweithgarwch economaidd, Lefel cyflogaeth, Lefel diweithdra'r ILO
Poblogaeth 16-64 oed: Lefel anweithgarwch economaidd
Defnyddir y boblogaeth 16-64 fel y sail ar gyfer anweithgarwch economaidd. Trwy eithrio personau o oedran pensiwn sydd fel arfer wedi ymddeol ac felly'n economaidd anweithgar, mae hyn yn rhoi mesur mwy priodol o anweithgarwch yn y gweithlu.
Mae'r cyfraddau ar gyfer pob un o'r mesurau uchod hefyd yn cael eu cyfrifo mewn modd safonol ac maent ar gael yn y set ddata. Ac eithrio cyfradd diweithdra'r ILO, mae pob cyfradd yn cael ei diffinio yn nhermau'r gyfran o'r boblogaeth sydd ym mhob categori. Diffinnir cyfradd diweithdra'r ILO fel personau di-waith yr ILO fel canran o'r boblogaeth economaidd weithgar.
Er bod pob cyfradd ar gael ar gyfer y gwahanol seiliau poblogaeth, defnyddir sail poblogaeth safonol swyddogol ar gyfer pob un o'r cyfraddau, fel a ganlyn:
Canran y boblogaeth 16-64 oed: Gweithgarwch economaidd, Cyflogaeth, Anweithgarwch economaidd
Canran y boblogaeth economaidd weithgar 16 oed a throsodd: diweithdra'r ILO

Amlder cyhoeddi

Misol

Cyfnodau data dan sylw

1992 i 2024

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r fil agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Nid yw'r LFS wedi'i gynllunio i fesur newidiadau yn lefelau'r boblogaeth neu fudo rhyngwladol hirdymor. Oherwydd tueddiadau gwahanol yn ystod y pandemig, mae’r ymatebion ar gyfer yr LFS wedi’u hailbwysoli ar 14 Mehefin 2022, gan ddisodli’r data a gafodd eu hailbwysoli’n flaenorol ar 15 Gorffennaf 2021. Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o fis Ionawr i fis Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o gyfraddau a lefelau. Ceir rhagor o wybodaeth am effaith yr ailbwysoli yn erthygl y Swyddfa Ystadegau Gwladol: https://www.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/employmentandemployeetypes/articles/impactofreweightingonlabourforcesurveykeyindicators/2022

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cyhoeddi amcangyfrifon Arolwg o’r Llafurlu wedi'u hail-bwysoli ar gyfer Cymru ar ôl oedi'r amcangyfrifon sy'n seiliedig ar Arolwg o’r Llafurlu ym mis Medi 2023 yn dilyn gostyngiad yn ansawdd data. Mae'r data wedi'i ail-bwysoli o fis Gorffennaf i fis Medi 2022, gan arwain at newid sylweddol yn y data, sy’n golygu mai dim ond o’r cyfnod hwn ymlaen y gellir cymharu’r data yn uniongyrchol. Nid yw cymariaethau â chyfnodau cyn mis Gorffennaf i Fedi 2022 yn gwbl ddilys oherwydd effaith y diffyg parhad hwn yn y gyfres amser. Manylir ar effaith lawn yr ail-bwysoliad hwn yn yr erthygl 'Effaith ail-bwysoli ar ddangosyddion allweddol Arolwg o’r Llafurlu yng Nghymru', sydd ar gael ym mhennawd ystadegol Trosolwg o'r Farchnad Lafur Chwefror 2024: https://www.llyw.cymru/trosolwg-or-farchnad-lafur-chwefror-2024

Ansawdd ystadegol

Mae’r holl wybodaeth hon yn dod o’r Arolwg o’r Llafurlu, a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae data rhanbarthol yn fwy amrywiol na data’r DU.
Cesglir data’r Arolwg o’r Llafurlu drwy gydol y flwyddyn, ac mae ar gael o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r set ddata hon yn cynnwys ffigurau tri-misol ar gyfer y gwledydd yn y DU a'r rhanbarthau yn Lloegr, a chaiff ei diweddaru bob tri mis, fel y cyfeirir ati yn y pwynt bwled cyntaf isod.
Mae data allweddol ar y farchnad lafur yn cael eu diweddaru bob mis gan ddangos y sefyllfa ar gyfer y tri mis diweddaraf, ar gyfer y DU a phob un o’r gwledydd yn y DU a phob rhanbarth yn Lloegr. Nodwch fod y data hyn wedi’u haddasu’n dymhorol a hefyd nad yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi unrhyw ddata is-ranbarthol (h.y. awdurdod lleol) yn ôl amserlen fisol.
Mae canlyniadau blynyddol sy’n ymdrin â’r cyfnodau a ddisgrifiwyd yn gynharach hefyd ar gael o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, gan ddarparu data manylach o’r Arolwg o’r Llafurlu, gan gynnwys data ar gyfer ardaloedd islaw lefel Cymru. Mae’r setiau data blynyddol hyn yn defnyddio canlyniadau o’r samplau o’r arolygon chwarterol a ddefnyddir ar gyfer y cyfresi allweddol, ynghyd â chanlyniadau o bersonau ychwanegol a samplwyd er mwyn darparu set ddata fwy cadarn (cyfnerthedig), ac mae'r amcangyfrifon yn destun amrywioldeb samplu llawer llai.
Nodwch yn olaf fod mesur diweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) yn wahanol i fesur diweithdra arall a ddefnyddir yn aml, sef nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra. Mae'r ail yn gyfrifiad o'r holl bobl sy'n hawlio budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra, a chan hynny, nid yw'n destun amrywioldeb samplu. Fodd bynnag, mae'n eithrio'r rheiny sy’n ddi-waith nad ydynt yn gymwys i hawlio (er enghraifft y rheiny sydd allan o waith ond sydd â phartner sy'n gweithio), a'r rheiny nad ydynt eisiau hawlio. Mae mesur yr ILO, sy'n gyfrifiad o'r rheiny sydd allan o waith ac sydd eisiau swydd, sydd wedi mynd ati i chwilio am waith yn y 4 wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; a hefyd y rheiny sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac sy'n aros i ddechrau yn y pythefnos nesaf, yn fesur mwy cynhwysol o ddiweithdra, a ddefnyddir ledled y byd.
Mae problem wedi cael ei ddarganfod ym mhwysiad yr Arolwg o’r Llafurlu (LFS) ar gyfer Gogledd Iwerddon ar gyfer y chwarter o Dachwedd 2023 i Ionawr 2024 yn unig. Er mai ond data Gogledd Iwerddon sydd wedi’i effeithio, fel canlyniad dydi’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) heb gyhoeddi unrhyw ffigyrau LFS rhanbarthol fel rhan o’r datganiad Mawrth 2024 yn unrhyw un o’u datganiadau, gyda data Cymru yn cael eu cyhoeddi fel datganiad ad hoc.

Dolenni'r we

www.ons.gov.uk

Allweddeiriau

Marchnad lafur; Cyflogaeth; Diweithdra; Anweithgarwch economaidd