
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl math o drafodiad, gwerth y trafodiad, mesur a dyddiad dod i rymDiweddariad diwethaf
19 Chwefror 2021Diweddariad nesaf
19 Mawrth 2021Sefydliad cyhoeddi
Awdurdod Cyllid CymruFfynhonnell 1
Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid CymruCyswllt ebost
data@acc.llyw.cymruDynodiad
DimLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.
Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau hysbysadwy TTT a dderbyniwyd gan yr Awdurdod erbyn diwedd 15 Chwefror 2021.
Dylai'r data yn y datganiad hwn gael ei ystyried yng nghyd-destun yr achosion o coronafeirws (COVID-19). Cafodd hyn effaith sylweddol ar nifer y trafodiadau eiddo a'r dreth a oedd yn ddyledus yn ystod hanner cyntaf 2020-21. Felly mae'n effeithio ar y cymariaethau a wnaed rhwng y cyfnod hwn a'r un cyfnod yn 2019-20.
Arweiniodd y cyfnod clo cenedlaethol a osodwyd ar 23 Mawrth 2020 at gau'r farchnad dai gan mwyaf hyd nes iddi gael ei hailagor yn rhannol ar 22 Mehefin. Yr adeg hynny, gellid mynd i weld tai os oedd yr eiddo’n wag, ynghyd â symud ty os oedd y gwerthiant wedi’i gytuno ond heb ei gwblhau eto. Yna agorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf i gyd-fynd â newid yng nghyfradd y Dreth Trafodiadau Tir ar y dyddiad hwn, sy’n weithredol hyd at 31 Mawrth 2021. Er bod rhai cloeon lleol pellach wedi’u gweithredu yn ystod y cyfnod yr adroddir arno yn y datganiad hwn (diwedd Rhagfyr 2020), fe ymddengys mai dim ond effaith fach a gafodd y rhain ar nifer y trafodiadau a'r adferiad y cyfeiriwyd ato yn y datganiad ystadegol.
Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad fesul:
- y math o drafodiad: preswyl (gan gynnwys is-gategorïau ar gyfer trafodiadau prif gyfradd a chyfradd uwch), amhreswyl
- gwerth y trafodiad: gwerthoedd wedi’u dosbarthu i'r bandiau gwahanol y codir gwahanol gyfraddau ar eu cyfer
- mesur: nifer y trafodiadau, treth yn ddyledus, gwerth yr eiddo a drethwyd
- dyddiad dod i rym (mis, chwarter a blwyddyn)
Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw fanylion heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Felly, mae trafodiadau hyn wedi'u hepgor o bob dadansoddiadau a chânt eu crynhoi yma yn lle hynny: https://statscymru.llyw.cymru/Catalogue/Taxes-devolved-to-Wales/Land-Transaction-Tax/landtransactiontaxstatistics-tax-due-including-transactions-restricted-detail
Noder oherwydd bod y bandiau gwerth yn wahanol ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl ac felly nad oes dadansoddiad band dichonol ar gyfer y cyfanswm o’r ddau.
Sylwer hefyd, pan ganiateir les amhreswyl newydd, gall fod elfen brynu ac elfen rent ynddi. Mae'r elfennau rhent yn gysyniad gwahanol, a ddangosir ar wahân, ac ni chânt eu cynnwys yn y cyfansymiau amhreswyl neu’r cyfansymiau cyflawn (sy'n adlewyrchu'r elfennau prynu yn unig).
Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenniAmlder cyhoeddi
MisolCyfnodau data dan sylw
Dangosir y data yn ôl y mis, y chwarter ariannol (chwarter 1 yw Ebrill i Fehefin) a'r flwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth) pan ddaeth y trafodiad i rym. Pan fydd rhan o chwarteri a blynyddoedd yn cael ei dangos, caiff y rhain eu nodi gyda'r ôl-ddodiad "hyd yn hyn".Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r ystadegau hyn wedi'u sefydlu er mwyn bodloni gofyniad uniongyrchol y defnyddiwr am ddata ar weithredu TTT, wedi sefydlu'r Awdurdod. Mae ein defnyddwyr allweddol yn gydweithwyr o Drysorlys Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac awdurdodau treth eraill yn y Deyrnas Unedig.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf, i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus, ac i’r £1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth yr eiddo sy'n cael ei drethu.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd ac mae'r gwerthoedd ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn rhai dros dro. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau. Felly, mae'n debygol y caiff trafodiadau TTT sy'n ymwneud â'r mis diweddaraf eu ffeilio yn ystod y mis canlynol. Gweler y dolenni am ddadansoddiad o’r diwygiadau hyn.Gall y gwerthoedd ar gyfer cyfnodau cynharach gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd. Gellir diwygio trafodiadau am amryw o resymau ac mae'r ystadegau'n cael eu diwygio bob mis er mwyn adlewyrchu newidiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad."
Ansawdd ystadegol
Gweler y dolenniDolenni'r we
https://llyw.cymru/ystadegau-treth-trafodiadau-tirhttps://llyw.cymru/gwybodaeth-allweddol-am-ansawdd-ystadegaur-dreth-trafodiadau-tir
https://llyw.cymru/treth-trafodiadau-tir-canllaw