Skip to content

Darparwr data: Awdurdod Cyllid Cymru Ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn ôl gwerth y trafodiad a mesur, Awst 2019
None
[Lleihau]Cyfnod amser[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Cyfnod amser 1[Hidlwyd]
-
Cyfnod amser 2[Hidlwyd]
Measure2
Mesur[Hidlo]
[Lleihau]Gwerth y trafodiad[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Gwerth y trafodiad 1
-
-
Gwerth y trafodiad 2
Cliciwch yma i ddidoliNifer o drafodiadauCliciwch yma i ddidoliTreth yn ddyledus (£ miliwn)Cliciwch yma i ddidoliGwerth yr eiddo a drethwyd (£ miliwn)
[Lleihau]Cyfanswm5,56020.81,115
Cyfanswm[Lleihau]Cyfanswm preswyl5,14017.5968
Cyfanswm preswylHyd at a gan gynnwys £180,0003,0602.6363
Preswyl £180,001 i £250,0001,0202.4217
Preswyl £250,001 i 400,0008005.7246
Preswyl £400,001 i £750,0002405.2121
Preswyl £750,001 i £1.5m201.219
Preswyl dros £1.5m***
[Lleihau]Cyfanswm amhreswyl 4203.3147
Cyfanswm amhreswyl Amhreswyl hyd a gan gynnwys £150,000150~11
Amhreswyl £150,001 i £250,00050~9
Amhreswyl £250,001 i £1m801.041
Amhreswyl mwy nag £1m201.985
[Lleihau]Gwerth rhent amhreswyl (cyfanswm)1300.353
Gwerth rhent amhreswyl (cyfanswm)Gwerth rhent amhreswyl (dim elfen brynu)1200.343
Gwerth rhent amhreswyl (elfen brynu)10*10

Metadata

Teitl
Ystadegau Treth Trafodiadau Tir, yn ôl math o drafodiad, gwerth y trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym

Diweddariad diwethaf
20 Medi 2019 20 Medi 2019

Diweddariad nesaf
31 Hydref 2019

Sefydliad cyhoeddi
Awdurdod Cyllid Cymru

Ffynhonnell 1
Ffurflenni Treth Trafodiadau Tir, Awdurdod Cyllid Cymru

Cyswllt ebost
data@acc.llyw.cymru

Dynodiad
Dim

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Cymru

Cwmpas daearyddol
Cymru

Cwmpas ieithyddol
Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol
Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.

Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau hysbysadwy TTT a dderbyniwyd gan yr Awdurdod erbyn diwedd 16 Medi 2019.

Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad fesul:
- y math o drafodiad: preswyl (gan gynnwys is-gategorïau ar gyfer trafodiadau prif gyfradd a chyfradd uwch), amhreswyl
- gwerth y trafodiad: gwerthoedd wedi’u dosbarthu i'r bandiau gwahanol y codir gwahanol gyfraddau ar eu cyfer
- mesur: nifer y trafodiadau, treth yn ddyledus, gwerth yr eiddo a drethwyd
- dyddiad dod i rym (mis, chwarter a blwyddyn)

Noder oherwydd bod y bandiau gwerth yn wahanol ar gyfer trafodiadau preswyl ac amhreswyl ac felly nad oes dadansoddiad band dichonol ar gyfer y cyfanswm o’r ddau.

Sylwer hefyd, pan ganiateir les amhreswyl newydd, gall fod elfen brynu ac elfen rent ynddi. Mae'r elfennau rhent yn gysyniad gwahanol, a ddangosir ar wahân, ac ni chânt eu cynnwys yn y cyfansymiau amhreswyl neu’r cyfansymiau cyflawn (sy'n adlewyrchu'r elfennau prynu yn unig).


Casgliad data a dull cyfrifo
Gweler y dolenni

Amlder cyhoeddi
Misol

Cyfnodau data dan sylw
Dangosir y data yn ôl y mis, y chwarter ariannol (chwarter 1 yw Ebrill i Fehefin) a'r flwyddyn ariannol (Ebrill i Fawrth) pan ddaeth y trafodiad i rym. Pan fydd rhan o chwarteri a blynyddoedd yn cael ei dangos, caiff y rhain eu nodi gyda'r ôl-ddodiad "hyd yn hyn".

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Mae'r ystadegau hyn wedi'u sefydlu er mwyn bodloni gofyniad uniongyrchol y defnyddiwr am ddata ar weithredu TTT, wedi sefydlu'r Awdurdod. Mae ein defnyddwyr allweddol yn gydweithwyr o Drysorlys Cymru o fewn Llywodraeth Cymru, y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ac awdurdodau treth eraill yn y Deyrnas Unedig.

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf, i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus, ac i’r £1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth yr eiddo sy'n cael ei drethu.

Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd ac mae'r gwerthoedd ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn rhai dros dro. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau. Felly, mae'n debygol y caiff trafodiadau TTT sy'n ymwneud â'r mis diweddaraf eu ffeilio yn ystod y mis canlynol. Gweler y dolenni am ddadansoddiad o’r diwygiadau hyn.

Gall y gwerthoedd ar gyfer cyfnodau cynharach gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd. Gellir diwygio trafodiadau am amryw o resymau ac mae'r ystadegau'n cael eu diwygio bob mis er mwyn adlewyrchu newidiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad."

Ansawdd ystadegol
Gweler y dolenni

Allweddeiriau
Treth Trafodiadau Tir; Treth