Hyd Ffyrdd A (Km), fesul math o ffordd ac awdurdod lleol
None
|
Metadata
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Allweddeiriau
Hyd ffyrdd M4Teitl
Hyd ffyrdd yng NghymruDiweddariad diwethaf
Awst 2024Diweddariad nesaf
Gorffennaf 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Casglu data ar hydoedd ffyrdd, Llywodraeth CymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Traffyrdd a Chefnffyrdd yw prif wythiennau trafnidiaeth Cymru, ac sy’n cario’r nifer fwyaf o draffig am bob Km a deithir. Llywodraeth Cymru yw awdurdod priffyrdd y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd. Yr awdurdod lleol perthnasol sy’n gyfrifol am bob priffordd gyhoeddus arall.Cyfnodau data dan sylw
1995-96 i 2023-2024Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ni fu unrhyw newidiadau gwirioneddol i hydoedd traffyrdd yn 2023-24, ond newidiodd yr 2018-2019 amcangyfrif ychydig o ganlyniad i welliannau mewn methodoleg. Dim ond mân newidiadau a fu i hydoedd traffyrdd yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol (plws neu finws uchafswm o 0.2 km). Arweiniodd y newidiadau hyn at gynnydd cyfunol o 0.3 km.Y ddau eithriad yw’r cynnydd yn Sir Fynwy a Chasnewydd (0.8 km a 0.7 km yn y drefn honno). Mae’r cynnydd o ganlyniad i gynnwys darnau o ffordd a ystyriwyd yn y gorffennol fel ffyrdd ymadael; lle ymuna'r M48 a’r M4 yn Sir Fynwy a lle ymuna'r A48(M) a’r M4 yng Nghasnewydd. Ystyrir y darnau ymuno hyn fel traffordd ac nid ffyrdd ymadael oherwydd nad oes angen i gerbydau adael un ffordd i ymuno ag un arall gan eu bod yn uno â'i gilydd.
Ansawdd ystadegol
Traffordd: Ffyrdd sy’n cael eu hadnabod wrth y llythyren M ar arwyddion ac a neilltuwyd ar gyfer rhai mathau o draffig yn unig. Cynhwysir yr A48(M) yn y grwp hwn. Darperir y data gan Is-adran Rheoli Rhwydwaith Llywodraeth Cymru.Cefnffyrdd: Cefnffyrdd yw’r rhwydwaith cenedlaethol o ffyrdd strategol sy’n caniatáu symudiad dirwystr ar gyfer traffig sy’n teithio’n bell. Llywodraeth Cymru yw’r awdurdod priffyrdd. Mae’r rhwydwaith yn cynnwys rhai o’r ffyrdd amlbwrpas (ffyrdd A) sy’n agored i bob math o draffig, a ffyrdd arbennig fel traffyrdd (y cyfeirir atynt ar wahân ar y tablau). Ar gyfer pob ffordd gyhoeddus arall, yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priffyrdd.
A: ffyrdd sirol neu brif ffyrdd dosbarthiadol: Ffyrdd o bwys strategol rhanbarthol a threfol.
Ffyrdd B ac C: Ffyrdd dosbarthiadol is. Mae’r ffyrdd hyn yn dosbarthu traffig i ardaloedd trefol a gwledig.
Ffyrdd Mân ag wyneb. Neu Ffyrdd di-ddosbarth. Ffyrdd dosbarthu a mynediad lleol.