Yr Awdurdodau Lleol, fel yr awdurdod priffyrdd lleol, sy’n gyfrifol am ffyrdd Sirol A, ffyrdd B ac C ac am is-ffyrdd â wyneb caled sydd wedi’u mabwysiadu. Maent yn gyfrifol am bron 33,000 kilometr o’r rhwydwaith ffyrdd
Casgliad data a dull cyfrifo
Yn seiliedig ar archwiliad o arwyneb y ffyrdd gan ddefnyddio arolygon SCANNER â pheiriant. Mae’r ffigurau ar gyfer y dangosydd hwn yn dangos canran hyd y rhwydwaith ffyrdd sy’n gyfwerth â’r trothwy COCH neu uwchlaw iddo; hynny yw mewn cyflwr cyffredinol wael.