Canran o'r rhwydwaith Traffyrdd a Chefnffyrdd A sydd angen monitro clos ar eu cyflwr strwythurol
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Y rhwydwaith Traffyrdd a Chefnffyrdd A sydd angen monitro clos ar eu cyflwr strwythurol, CymruDiweddariad diwethaf
Awst 2024Diweddariad nesaf
Awst 2025 (dros dro)Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Cyflwr ffyrdd traffyrdd a chefnffyrdd A, Llywodraeth CymruDynodiad
Ystadegau GwladolCwmpas daearyddol
Awdurdodau lleolTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Wedi’i gyfrif gan ddefnyddio Defflectograff. Bydd angen monitro’n glos cyflwr strwythurol rhan o ffordd pan fydd ganddi oes weddilliol negyddol. Mae’r ffigurau’n ymwneud â’r rhwydwaith hyblyg cyfan.Efallai na fydd canrannau’n cyfrif i 100 y cant oherwydd talgrynnu.
Heb gynnwys pafinau concrit a cherbytffyrdd ar bileri.
Cyfrifwyd ffigurau 2015-16 gan ddefnyddio meddalwedd Pandef
Casgliad data a dull cyfrifo
Arolygon Defflectograff: Fel arfer, cesglir gwybodaeth am gyflwr strwythurol priffyrdd trwy gyfrwng Arolygon Defflectograff. Techneg awtomataidd yw Defflectograff ar gyfer mesur faint mae arwyneb ffordd yn anffurfio o dan lwyth safonol. Mae meddalwedd fel DEFLEC a PANDEF wedi’u datblygu i allu mesur cyflwr strwythurol y ffordd yn ôl maint unrhyw anffurfio, gan roi data penodol am adeiladwaith y ffordd ac am effaith llwyth traffig.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
1995-96 i 2023-24Allweddeiriau
Ffordd Cyflwr Traffyrdd Cefnffyrdd A PANDEF M4Ansawdd ystadegol
Yn y blynyddoedd diwethaf, defnyddiwyd dau brif ddull o brosesu data’r Defflectograff. Roedd LlC yn defnyddio’r dull Deflec i brosesu’r holl arolygon hyd at 2014/15. Mae dull Pandef wedi’i ddefnyddio ers hynny yn ei le.Trwy ddefnyddio’r feddalwedd hon, mae Llywodraeth Cymru bellach yn gyson â gweddill y DU, gan gynnwys Highways England a Transport Scotland.