Mae’r set ddata hon yn disgrifio’r nwyddau sy’n cael eu mewnforio a’u hallforio a’u cario ar y ffyrdd yng Nghymru, yn ôl grwp nwyddau. Cyflwynir y data fesul mil o dunelli.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae ystadegau am nwyddau sy’n cael eu cario ar y ffyrdd yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan yr Adrannau Trafnidiaeth, mewn 3 arolwg nwyddau ffyrdd; Arolwg Parhaus o Drafnidiaeth Nwyddau Ffyrdd, Prydain Fawr (CSRGT GB), yr Arolwg Parhaus o Drafnidiaeth Nwyddau Ffyrdd, Gogledd Iwerddon (CSRGT NI), a’r Arolwg Cludiant Ffyrdd Rhyngwladol (IRHS).
Mae’r ystadegau yn cyfeirio at achosion yng Nghymru o 2004 hyd at 2023
Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Defnyddir yr ystadegau hyn y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru er mwyn monitro tueddiadau cludo nwyddau ffyrdd ac fel llinell sylfaen
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Mae’r data ar gyfer cyfnodau blaenorol yn cael eu diweddaru’n rheolaidd. Mae’n bosibl y caiff y data ar gyfer y flwyddyn ariannol neu’r flwyddyn galendr bresennol ei ddiwygio wedi rhyddau cyfres ddata y flwyddyn nesaf.
Amseroldeb a phrydlondeb: Mae'r ystadegau a gyflwynir yn cwmpasu traffig cludo nwyddau i Gymru a’r DU ac o Gymru a’r DU hyd 2004 at 2022. Cymaroldeb a chydlyniaeth: Mae'r Adran Drafnidiaeth yn cynhyrchu ystod o ystadegau sy'n ymwneud â sector cludo nwyddau ar y ffyrdd, sy’n cyflwyno ystadegau cludo nwyddau domestig a rhyngwladol a nwyddau “roll-on – roll-off” rhyngwladol.