Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth - Gallu darllen, ysgrifennu a deall Cymraeg llafar n ôl oedran, rhyw a blwyddyn
None
Mesur[Hidlwyd]
Blwyddyn[Hidlwyd]
Measure2
Sgil Cymraeg[Hidlo]
[Lleihau]Rhyw[Hidlo]
-
Rhyw 1
[Lleihau]Oedran[Hidlo]
-
-
Oedran 1
[Lleihau]Darllen Cymraeg[Lleihau]Siarad Cymraeg[Lleihau]Deall Cymraeg llafar
[Lleihau]CyfanswmCliciwch yma i ddidoliCyfanswm[Lleihau]CyfanswmCliciwch yma i ddidoliCyfanswm[Lleihau]CyfanswmCliciwch yma i ddidoliCyfanswm
Cliciwch yma i ddidoliMerchedCliciwch yma i ddidoliDynionCliciwch yma i ddidoliMerchedCliciwch yma i ddidoliDynionCliciwch yma i ddidoliMerchedCliciwch yma i ddidoliDynion
[Lleihau]Cyfanswm27.923.625.725.221.523.435.730.833.3
Cyfanswm3-15 oed44.940.542.644.039.041.454.149.551.7
16-24 oed40.733.837.139.132.935.949.337.643.3
25-34 oed23.924.224.123.221.922.530.229.729.9
35-44 oed27.619.723.723.516.420.035.727.631.7
45-54 oed24.816.921.021.215.418.431.024.127.6
55-64 oed19.413.916.715.512.213.927.922.125.1
65+ oed19.816.418.216.113.614.927.524.226.0

Metadata

Teitl

Pobl 3 oed neu hyn sy'n dweud eu bod yn gallu darllen, ysgrifennu a deall Cymraeg llafar, yn ôl oedran a rhyw

Diweddariad diwethaf

18 Ebrill 2024 18 Ebrill 2024

Diweddariad nesaf

Haf 2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r set ddata hon yn rhoi gwybodaeth ar gyfer pobl 3 oed neu hyn sy'n dweud eu bod yn gallu darllen, ysgrifennu a deall Cymraeg llafar, yn ôl oedran a rhyw

Casgliad data a dull cyfrifo

Bu newid i'r modd y cynhelir yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yng nghanol mis Mawrth 2020. Newidiodd yr arolwg o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau ffôn o ganlyniad i'r pandemig COVID-19. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi bod yn monitro'r effaith y mae'r newid hwn wedi'i gael ar yr arolwg ac o ganlyniad maent wedi pwysoli'r amcangyfrifon yn unol â hynny. Ailgyflwynwyd cyfweliadau wyneb yn wyneb yn ystod tymor yr hydref 2023.

Trwy gymharu'r bobl a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y bobl a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn.

Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.

Cymerir y data hyn o'r setiau data Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer 2005 ymlaen, ac o Arolwg Llafurlu Lleol Cymru cyn hynny. Yr ONS sy'n cynnal yr arolygon hyn. Mae data Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn cael eu casglu drwy gydol y flwyddyn a'u cyhoeddi ar gyfer blynyddoedd calendr. Cyhoeddwyd data'r Arolwg Llafurlu ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror, bob blwyddyn h.y. mae data Arolwg Llafurlu 2001 yn ymwneud â'r flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2002. Nid yw'r data'n cyfateb yn union i'r cyfartaleddau blynyddol a ddeilliwyd o'r pedwar set ddata chwarterol ym mhob blwyddyn oherwydd gwahaniaethau yn y strwythur samplu.

Mae'n bosibl na fydd y ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ar gyfer 2001, 2002 a 2003 yn y tablau hyn yr un peth â ffigurau a gyhoeddwyd mewn mannau eraill, gan fod y niferoedd yma'n cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio pwysoli penodol i Gymru. Mae'r pwysoli hwn yn adlewyrchu'n well yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn y blynyddoedd hyn.

Nomis yw porth swyddogol yr ONS ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.

Amlder cyhoeddi

Chwarterol

Cyfnodau data dan sylw

2004 i 2023

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Ansawdd ystadegol

Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol nag yn y data rhanbarthol.

Allweddeiriau

Siaradwyr Cymraeg iaith







Siaradwyr Cymraeg