Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Busnesau sy'n arloesi weithredol yn ôl blwyddyn
None
Galwch heibio Caeau Hidlo Yma
Measure1
BlwyddynTest [Hidlo]
[Lleihau]ArdalTest [Hidlo]
-
-
[Lleihau]Ardal 1
-
-
Ardal 2
Cliciwch yma i ddidoli2008-10Cliciwch yma i ddidoli2010-12Cliciwch yma i ddidoli2012-14Cliciwch yma i ddidoli2014-16Cliciwch yma i ddidoli2016-18Cliciwch yma i ddidoli2018-20
[Lleihau]Y Deyrnas Unedig374453493845
Y Deyrnas Unedig[Lleihau]Lloegr374554503846
LloegrGogledd-ddwyrain Lloegr404753423440
Gogledd-orllewin Lloegr324253493645
Swydd Efrog a'r Humber364365493948
Dwyrain Canolbarth Lloegr394956523747
Gorllewin Canolbarth Lloegr384355523949
Dwyrain Lloegr414656523951
Llundain334248473842
De-ddwyrain Lloegr414657514046
De-orllewin Lloegr384743534147
[Ehangu]Cymru414751473444
[Ehangu]Yr Alban334350453239
[Ehangu]Gogledd Iwerddon323945393238

Metadata

Teitl

Busnesau sy'n arloesi weithredol

Diweddariad diwethaf

Mai 2022 Mai 2022

Diweddariad nesaf

2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Arloesedd y DU

Cyswllt ebost

ystadegau.economi@llyw.cymru

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Rhanbarthau'r DU

Cwmpas daearyddol

Rhanbarthau'r DU

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Disgrifiad cyffredinol

Mae’r data hwn yn dangos canran y busnesau sy'n arloesi weithredol. Mae’r diffiniad o arloesedd yn y DU yn dilyn y diffiniad a fabwysiadwyd ledled yr UE gan Eurostat. Ystyrir bod busnesau yn arloesol os ydynt:
• Yn cyflwyno cynnyrch newydd neu wedi ei wella’n sylweddol (nwyddau neu wasanaeth) neu broses;
• Yn rhan o brosiectau arloesi sydd heb eu cwblhau eto neu wedi eu gadael;
• Wedi meithrin trefniadaeth, strwythurau busnes neu arferion newydd sydd wedi’u gwella’n fawr, a chysyniadau neu strategaethau marchnata.


Casgliad data a dull cyfrifo

Cafodd Arolwg Arloesedd y DU ei ariannu gan yr Adran Fusnes, Arloesedd a Sgiliau. Cynhaliwyd yr arolwg ar ran yr Adran gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae’r Arolwg Arloesedd yn rhan o Arolwg Arloesedd Cymunedol ehangach sy’n cynnwys gwledydd yr UE. Mae’r arolwg yn seiliedig ar holiadur craidd a ddatblygwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd (Eurostat) ac Aelod-wladwriaethau. Roedd Arolwg Arloesedd y DU 2015 wedi cymeryd sampl o bron i 30 mil o fentrau y DU. Roedd yr arolwg yn wirfoddol ac wedi’i gynnal ar ffurf holiadur post a chyfweliad ffôn gyda busnesau nad oedd wedi rhoi ymateb yn y post. Roedd yr arolwg yn cynnwys mentrau gyda 10 neu fwy o weithwyr yn adrannau C-K y Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) 2007. Daw y sampl o Gofrestr Busnes Rhyngadrannol ONS.

Amlder cyhoeddi

Bob dwy flynedd

Cyfnodau data dan sylw

2008/10 i 2018/20

Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun

Mae’r data yn bwydo dadansoddiadau economaidd a gwaith arall sy’n gysylltiedig â pholisïau. Mae’n rhoi cipolwg o gyfnod o ymddygiad arloesol gyda’r fantais ychwanegol o setiau data y panel sy’n hwyluso astudiaethau hydredol a gwerthusiadau o bolisi arloesedd.

Allweddeiriau

Arloesedd

Ansawdd ystadegol

Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol unigol nag yn y data ar gyfer Cymru.