Mynegai Dosbarthiad (2019=100) yn ôl chwarter, ardal ac adran
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae Mynegai Gwasanaethau'r Farchnad yn cynnwys mynegeion wedi'u cyfeirio at 2019=100. Ceir y rhain o'r Cyfrifon Rhanbarthol ar lefel Adran. Mae'r cyfresi wedi'u haddasu'n dymhorol oni ddywedir yn wahanol.Mae Mynegai Gwasanaethau'r Farchnad yng Nghymru'n cynnwys naw adran sy'n ymdrin â'r Dosbarthiadau Diwydiannol Safonol (SIC) 2007 (gweler Atodiad 1 i gael mwy o wybodaeth am adrannau ac is-adrannau) canlynol:
Adran G - Dosbarthu;
Adran H - Trafnidiaeth;
Adran I - Gweithgareddau Llety a Gwasanaeth Bwyd;
Adran J - Gweithgareddau Gwybodaeth a Chyfathrebu;
Adran K - Gweithgareddau Ariannol ac Yswiriant;
Adran L - Gweithgareddau Eiddo Tirol;
Adran M - Gweithgareddau Proffesiynol, Gwyddonol a Thechnegol;
Adran N - Gweithgareddau Gweinyddu a Gwasanaethau Cymorth;
ac Adran RST - Gweithgareddau Gwasanaeth Eraill.
Oherwydd yr anwadalrwydd mae rhai o'r is-adrannau a geir ym Mynegai Gwasanaethau'r Farchnad yng Nghymru wedi cael eu heithrio o'r cyhoeddiad. Hefyd mae posibilrwydd i rai o'r is-adrannau hyn ddatgelu gwybodaeth ac felly mae'r rhain hefyd wedi cael eu heithrio o'r cyhoeddiad. At hynny nid oes unrhyw is-adrannau cyfatebol ar gyfer y DU ar gyfer y Mynegai Trafnidiaeth a Mynegai Gweithgareddau'r Ystad Manwerthu.
Argymhellwn, wrth edrych ar gyfraddau twf cyfresi anwadal, y dylai defnyddwyr ganolbwyntio ar y newid canrannol rhwng y pedwar chwarter diweddaraf a'r un cyfnod flwyddyn yn ôl (tuedd hirdymor).
Casgliad data a dull cyfrifo
Oherwydd y fethodoleg addasu'n dymhorol, mae'n bosibl y caiff amcangyfrifon ar gyfer chwarteri blaenorol eu diwygio pan gaiff chwarter arall ei ychwanegu. Mae'r amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol yn amrywio oherwydd gwall samplu ar hap ac fel arfer rhoddir pwyslais ar newidiadau yng nghyfartaledd y 4 chwarter diweddaraf, neu ar y cyfartaleddau blynyddol.Caiff y data eu cydgynhyrchu gan Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Mae Mynegai Gwasanaethau'r Farchnad yng Nghymru wedi cael ei ddosbarthu'n Ystadegyn Cenedlaethol. Nodwch fod data cymaradwy sy'n rhoi'r mynegeion cyfatebol ar gyfer y DU yn gyfan wedi'u cynnwys yn y set ddata hon hefyd.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
1999 i 2024Ansawdd ystadegol
Oherwydd yr anwadalrwydd mae rhai o'r is-adrannau a geir ym Mynegai Gwasanaethau'r Farchnad yng Nghymru wedi cael eu heithrio o'r cyhoeddiad. Hefyd mae posibilrwydd i rai o'r is-adrannau hyn ddatgelu gwybodaeth ac felly mae'r rhain hefyd wedi cael eu heithrio o'r cyhoeddiad. At hynny nid oes unrhyw is-adrannau cyfatebol ar gyfer y DU ar gyfer y Mynegai Trafnidiaeth a Mynegai Gweithgareddau'r Ystad Manwerthu.Argymhellwn, wrth edrych ar gyfraddau twf cyfresi anwadal, y dylai defnyddwyr ganolbwyntio ar y newid canrannol rhwng y pedwar chwarter diweddaraf a'r un cyfnod flwyddyn yn ôl (tuedd hirdymor).
Oherwydd y fethodoleg addasu'n dymhorol, mae'n bosibl y caiff amcangyfrifon ar gyfer chwarteri blaenorol eu diwygio pan gaiff chwarter arall ei ychwanegu. Mae'r amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol yn amrywio oherwydd gwall samplu ar hap ac fel arfer rhoddir pwyslais ar newidiadau yng nghyfartaledd y 4 chwarter diweddaraf, neu ar y cyfartaleddau blynyddol. Dangosir dolen i'r adroddiad ar ansawdd yr ystadegau isod: http://gov.wales/statistics-and-research/index-market-services/quality-report/?skip=1&lang=cy