Mynegai Gwasanaethau Marchnata
Mae’r Mynegai o Wasanaethau Marchnad yn fynegai chwarterol sy’n dangos symudiadau byrdymor yn allbwn camnïau yn sector gwasanaethau marchnad Cymru a’r Deyrnas Unedig. Mae’r Mynegai o Wasanaethau Marchnad yn gyfrifol am ryw 45 y cant o economi Cymru ac mae’n cynnwys naw adran sy’n ymdrin â Dosbarthiad Diwydiannol Safonol (SIC) 2007 sef: Adran G - Dosbarthu; Adran H - Trafnidiaeth; Adran I - Gwasanaethau Llety a Bwyd; Adran J - Gweithgareddau Gwybodaeth a Chyfathrebu; Adran K - Gweithgareddau Cyllid ac yswiriant; Adran L - Gweithgareddau Eiddo Tiriog; Adran M - Gweithgareddau Proffesiynol, Gwyddonol a Thechnegol; Adran N - Gweithgareddau Gwasanaethau Gweinyddol a Gwasanaethau Cymorth; Adran RST - Gweithgareddau Gwasanaethau Eraill.