Mynegeion Cynhyrchiant ac Adeiladu yng Nghymru (2022=100) yn ôl adran a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae'r data wedi'u cyfeirio at 2022 = 100.Mae Mynegai cyflawn Cynhyrchu Cymru'n cynnwys 15 mynegai ar wahân, wedi'u pwysoli ynghyd gan ddefnyddio'n bennaf bwysoli a geir o'r dosbarthiad gwerth ychwanegol gros ar gyfer Cymru. Hefyd, caiff Mynegai Adeiladu Cymru ei gyhoeddi fel mynegai ar wahân.
Mae'r holl fynegeion hyn wedi cael eu haddasu'n dymhorol i waredu unrhyw amrywiad sy'n gysylltiedig â'r adeg o'r flwyddyn ac eithrio CB, CC; CD; CK ac F. Ychydig o dystiolaeth o batrwm tymhorol cryf mae'r rhain yn ei dangos ac fe'u defnyddir heb eu haddasu.
Mae'r amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol yn amrywio oherwydd gwall samplu ar hap ac fel arfer rhoddir pwyslais ar newidiadau yng nghyfartaledd y 4 chwarter diweddaraf, neu ar y cyfartaleddau blynyddol.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r data'n cael eu cynhyrchu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol.Caiff data cymaradwy sy'n rhoi'r mynegeion cyfatebol ar gyfer y DU yn gyfan eu cynnwys yn y set ddata hon hefyd.