Neidio i'r cynnwys

Mynegai Cynhyrchu ac Adeiladu

Mae’r Mynegai Cynhyrchu a’r Mynegai Adeiladu yn dangos y symudiadau byrdymor yn allbwn y diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu ac adeiladu yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig. Mae Mynegai Cynhyrchu Cymru a Mynegai Adeiladu Cymru yn gyfrifol am tuag 20 y cant ac 8 y cant o economi Cymru yn y drefn honno. Dau fynegai ar wahân yw’r Mynegai Cynhyrchu a’r Mynegai Adeiladu. Mae’r Mynegai Cynhyrchu yn ymdrin ag adrannau B i E yn Nosbarthiad Diwydiannol Safonol 2007 (SIC2007), Adran B - Mwyngloddio a Chwarela, Adran C - Gweithgynhyrchu ac Adran DE - Cyflenwi Trydan, Nwy a Dwr; ac mae’r Mynegai Adeiladu yn ymdrin ag Adran F.