Patrymau cymudo yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru a mesur
Mae ymatebion ar gyfer lleoliad gwaith yn ymwneud â phatrwm gwaith arferol yr ymatebydd os nad oedd cyfyngiadau coronafeirws ar waith ar y pryd. Felly, nid yw’r data ar gyfer 2020 a 2021 yn adlewyrchu patrymau cymudo gwirioneddol a welwyd yn ystod y pandemig.
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Patrymau cymudo yn ôl awdurdod lleol yng NghymruDiweddariad diwethaf
11 Ebrill 2024Diweddariad nesaf
Ebrill 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg yn unigTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi gwybodaeth am batrymau cymudo yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru a llifoedd rhwng Cymru a gweddill y DU.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi ailbwysoli'r Aolwg Blynyddol o'r Boblogaeth i gymryd i ystyriaeth ddata poblogaeth o Gyfrifiad 2011. Felly, mae'r holl amcangyfrifon o chwarter 4 2004 i chwarter 3 2014 wedi cael eu diwygio.Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, sy'n cynnwys yr Arolwg Llafurlu, yn arolwg sampl blynyddol o aelwydydd mewn cyfeiriadau preifat yn y DU. Mae'r arolwg blynyddol yn defnyddio canlyniadau o'r rheiny a samplwyd ar gyfer y prif Arolwg chwarterol o'r Llafurlu ac ers 2001 mae personau ychwanegol wedi cael eu samplu bob blwyddyn er mwyn darparu set ddata flynyddol fwy cadarn (cyfnerthedig) ar draws y DU, ac mae'r amcangyfrifon yn destun amrywioldeb samplu llawer llai. Ar gyfer Cymru, erbyn hyn mae'r data wedi'u seilio ar sampl gwell (oddeutu 350 y cant yn fwy) o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol.
Mae'r personau ychwanegol a samplir yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth wedi'u seilio ar bedair ton, dros bedair blynedd yr arolwg. Ar gyfer y don gyntaf, mae'r gyfradd ymateb yng Nghymru oddeutu 60%, ac mae oddeutu 75% o'r rhain ar ôl erbyn y bedwaredd don. Caiff bron 20,000 o aelwydydd i gyd eu samplu bob blwyddyn ar gyfer yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yng Nghymru. Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn ymwneud â blynyddoedd calendr, tra bo'r Arolwg Llafurlu'n defnyddio'r flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Chwefror. Felly mae gwerthoedd ar gyfer 2001 i 2003 yn ymwneud â'r blynyddoedd a ddaeth i ben ym mis Chwefror 2002, Chwefror 2003 a Chwefror 2004. Mae gwerthoedd wedi hynny'n ymwneud â blynyddoedd calendr.
Nid yw Arolwg Llafurlu Lleol Cymru yn cynnwys data ond ar gyfer pobl sy'n byw yng Nghymru. Nid yw'n cynnwys y rhai sy'n cymudo i Gymru o weddill y DU. Mae hyn yn effeithio ar y ffigurau ar gyfer llawer o awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai ar y ffin â Lloegr. Felly, nid yw ffigurau 2001–2003 ar gyfer 'Cyfanswm y bobl sy'n gweithio yn ar ardal' a 'Nifer y bobl sy'n cymudo i'r ardal' wedi cael eu rhyddhau.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
2001 i 2023Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Credwn mai prif ddefnyddwyr ystadegau cymudwyr yng Nghymru yw:Gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru;
Rhannau eraill o Lywodraeth Cymru;
Awdurdodau Lleol yng Nghymru
Adrannau eraill o'r llywodraeth;
Myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion;
Dinasyddion unigol a chwmnïau preifat.
Defnyddir yr ystadegau mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae enghreifftiau o'r defnydd yn cynnwys: Cyngor i Weinidogion; Ymchwil a deunydd cefndir cyffredinol;
Darparu gwybodaeth ar gyfer dadleuon yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a'r tu hwnt.
Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ym mis Mawrth 2019, adolygwyd y data Arolwg Boblogaeth Blynyddol yn ôl i 2012, oherwydd mae'n ystyried yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth.Hydref 2019: Cafodd y mesur a oedd yn cael ei adnabod cyn hyn fel “Nifer y bobl sy’n gweithio yn eu hawdurdod cartref” ei gyfrifo fel bod ffigur Cymru yn gyfanswm y bobl a oedd yn byw ac yn gweithio yn yr un awdurdod lleol. Mae hwn wedi cael ei newid yn awr i “Nifer y bobl sy’n byw ac yn gweithio yn yr un ardal”. Ar lefel Cymru, golyga hyn ei fod yn dangos nifer y bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru (gan gynnwys y rheini sy’n teithio rhwng gwahanol awdurdodau lleol yng Nghymru).
Allweddeiriau
CymudoAnsawdd ystadegol
Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19.Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Dylai'r newidiadau mae'r SYG wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol unigol nag yn y data ar gyfer Cymru.