Cyflogaeth yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru a statws
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Cyflogaeth yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat yn ôl rhyw ac awdurdod lleol yng NghymruDiweddariad diwethaf
9 Hydref 2024Diweddariad nesaf
Ionawr 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r data yn y set ddata hon yn ymwneud â statws personau a gyflogir yng Nghymru, gan rannu'r cyfanswm i'r rheiny sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus a'r rheiny sy'n gweithio yn y sector preifat. Er y ceir gwerth nifer o flynyddoedd o ddata yn y set ddata, ni ddangosir y darlun o'r data fel cyfres amser, gan mai prif ddiben y set ddata yw darparu cymhariaeth drawstoriadol rhwng marchnadoedd llafur lleol yng Nghymru.Casgliad data a dull cyfrifo
Cymerir y data hyn o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg o'r Llafurlu a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), gan ddarparu data'r farchnad lafur ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae argaeledd data awdurdodau lleol yn dibynnu ar sampl gwell (oddeutu 350 y cant yn fwy) ar gyfer yr Arolwg blynyddol o'r Llafurlu, a ddechreuodd yn 2001.Ar gyfer y blynyddoedd sydd wedi'u labelu 2001 i 2004 yn y set ddata hon, y gwir gyfnodau yr ymdrinnir â hwy yw'r 12 mis sy'n rhedeg o fis Mawrth yn y flwyddyn a nodir i fis Chwefror yn y flwyddyn ganlynol (e.e. 2001 = 1 Mawrth 2001 i 28 Chwefror 2002).
Ers 2004, mae'r data blynyddol wedi cael eu cynhyrchu fel data blynyddol treigl, sy'n cael eu diweddaru bob tri mis, ac erbyn hyn cyfeirir at y set ddata fel yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae'r cyfartaleddau blynyddol treigl yn dilyn y calendr ac mae'r cyfartaledd blynyddol treigl cyntaf a ddangosir yma yn ymdrin â'r cyfnod 1 Ionawr 2005 i 31 Rhagfyr 2005, ac wedyn data sy'n ymdrin â'r cyfnod 1 Ebrill 2005 i 31 Mawrth 2006, gyda diweddariadau chwarterol treigl wedi hynny. Nodwch felly bod y cyfartaleddau blynyddol treigl olynol yn gorgyffwrdd gan naw mis.Yr unig ffynhonnell swyddogol sydd ar gael o wybodaeth cyfresi amser ar gyflogaeth y sector cyhoeddus ar sail Cyfrifon Cenedlaethol gyson ar gyfer Cymru a’r gwledydd eraill yn y DU a’r rhanbarthau yn Lloegr yw cyhoeddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol Regional Analysis of Public Sector Employment (sydd ar gael ar https://cy.ons.gov.uk/employmentandlabourmarket/peopleinwork/publicsectorpersonnel?:uri=employmentandlabourmarket/peopleinwork/publicsectorpersonnel).
Y diffiniad o’r sector cyhoeddus a ddefnyddir yn y set ddata hon yw’r un a ddefnyddir gan yr Arolwg o’r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, sef yn ei hanfod hynny sy’n eiddo i, neu’n cael ei ariannu neu ei redeg gan, lywodraeth ganolog neu leol. At hynny mae’n bosibl na fydd rhai ymatebwyr i’r arolwg yn ymwybodol bob amser a yw eu diwydiant yn y sector cyhoeddus neu’r sector preifat. O’u cymharu ag amcangyfrifon cyflogwyr, mae’r Arolwg o’r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn tueddu i oramcangyfrif lefelau cyflogaeth y sector cyhoeddus.
O dan ddiffiniad y Cyfrifon Cenedlaethol o’r sector cyhoeddus, mae ymarferwyr cyffredinol a sefydliadau addysg uwch yn cael eu heithrio, yn bennaf oherwydd eu natur ymreolaethol. Mae diffiniad yr Arolwg o’r Llafurlu/Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn codio meddygon a deintyddion yn ôl a yw eu gwaith yn bennaf i’r GIG neu’n breifat, ac yn codio prifysgolion a sefydliadau addysgol eraill a ariennir gan grantiau fel rhai sector cyhoeddus.
Felly, ar gyfer y set ddata hon, mae’r sector preifat yn cynnwys:
. cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus;
. cwmnïau cyfyngedig;
. unigolion hunangyflogedig;
. elusennau, ymddiriedolaethau preifat, cymdeithasau tai neu sefydliadau gwirfoddol eraill (gan gynnwys ysgolion preifat);
. cyflogeion undebau llafur; a
. chontractwyr preifat, hyd yn oed os ydynt yn gweithio’n gyfan gwbl i’r sector cyhoeddus e.e. cwmnïau glanhau, ymgynghorwyr.
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae data awdurdodau lleol unigol yn destun mwy o amrywioldeb na'r data ar gyfer Cymru.
. Mae data allweddol ar y farchnad lafur yn cael eu diweddaru bob mis gan ddangos y sefyllfa ar gyfer y tri mis diweddaraf, ar gyfer y DU a phob un o’r gwledydd yn y DU a phob rhanbarth yn Lloegr. Nodwch fod y data hyn wedi’u haddasu’n dymhorol a hefyd nad yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi unrhyw ddata is-ranbarthol (h.y. awdurdod lleol) yn ôl amserlen fisol.
. Mae canlyniadau blynyddol sy’n ymdrin â’r cyfnodau a ddisgrifiwyd yn gynharach hefyd ar gael o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, gan ddarparu data manylach o’r Arolwg o’r Llafurlu, gan gynnwys data ar gyfer ardaloedd islaw lefel Cymru. Mae’r setiau data blynyddol hyn yn defnyddio canlyniadau o’r samplau o’r arolygon chwarterol a ddefnyddir ar gyfer y cyfresi allweddol, ynghyd â chanlyniadau o bersonau ychwanegol a samplwyd er mwyn darparu set ddata fwy cadarn (cyfnerthedig), ac mae'r amcangyfrifon yn destun amrywioldeb samplu llawer llai.
. Mae canlyniadau chwarterol ar gael hefyd, ac mae’r rhain eto’n darparu data manylach o’r Arolwg o’r Llafurlu na’r cyfresi allweddol, gan gynnwys data ar gyfer ardaloedd islaw lefel Cymru. Fodd bynnag, er bod y data hyn ar gael yn gynharach na’r data a gymerir o’r setiau data blynyddol, nid yw’r data ar gyfer ardaloedd islaw lefel Cymru a gymerir o’r setiau data chwarterol yn cael eu cynnwys ar Stats Cymru mwyach gan fod y canlyniadau’n llawer llai cadarn na’r rheiny sy’n dod o’r setiau data blynyddol.
Nodwch oherwydd y cymerir y data o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg o'r Llafurlu NAD ydynt yn cyfateb yn union i'r cyfartaleddau blynyddol a ddeilliwyd o'r 4 set ddata CHWARTEROL yn y cyfnod perthnasol o 12 mis yr ymdrinnir ag ef oherwydd gwahaniaethau yn y strwythur samplu.
Nomis yw'r porth swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.
Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
1996 i 2024Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.Ansawdd ystadegol
Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19.Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Dylai'r newidiadau mae'r SYG wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol unigol nag yn y data ar gyfer Cymru.