Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Cyfradd gyflogaeth yn ôl ardal leol yng Nghymru, blwyddyn a rhyw
None
[Lleihau]Oed[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Oed 1[Hidlwyd]
-
Oed 2[Hidlo]
[Lleihau]Mesur[Hidlwyd]
-
[Lleihau]Mesur 1[Hidlo]
-
Mesur 2[Hidlo]
Measure2
BlwyddynAr gyfer blynyddoedd 1996 i 2004 o set ddata hon, y cyfnodau gwirioneddol a gwmpesir yw y 12 mis sy\'n rhedeg o fis Mawrth yn y flwyddyn a roddir i fis Chwefror yn y flwyddyn ganlynol (e.e. 2001 = 1 Mawrth 2001 hyd 28 Chwefror 2002).<br /><br />Ers 2004, mae\'r data blynyddol wedi cael eu cynhyrchu ar sail dreigl flynyddol a\'u diweddaru bob tri mis, ar flwyddyn galendr (ee yn cwmpasu\'r cyfnod rhwng 1 Ionawr 2004 hyd 31 Rhagfyr 2004, yn dilyn gan ddata ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2004 at 31 Mawrth 2005 ac yn y blaen).[Hidlwyd]
[Lleihau]Rhyw[Hidlo]
-
Rhyw 1
[Lleihau]Ardal[Hidlo]
-
-
[Lleihau]Ardal 1
-
-
Ardal 2
[Lleihau]Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 2019[Lleihau]Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 2020[Lleihau]Blwyddyn sy'n dod i ben ar 30 Med 2021[Lleihau]Blwyddyn sy'n dod I ben ar 30 Med 2022[Lleihau]Blwyddyn sy'n dod I ben ar 30 Med 2023
[Lleihau]PoblCliciwch yma i ddidoliPobl[Lleihau]PoblCliciwch yma i ddidoliPobl[Lleihau]PoblCliciwch yma i ddidoliPobl[Lleihau]PoblCliciwch yma i ddidoliPobl[Lleihau]PoblCliciwch yma i ddidoliPobl
Cliciwch yma i ddidoliDynionCliciwch yma i ddidoliMerchedCliciwch yma i ddidoliDynionCliciwch yma i ddidoliMerchedCliciwch yma i ddidoliDynionCliciwch yma i ddidoliMerchedCliciwch yma i ddidoliDynionCliciwch yma i ddidoliMerchedCliciwch yma i ddidoliDynionCliciwch yma i ddidoliMerched
[Ehangu]Y Deyrnas Unedig79.871.475.679.071.975.477.971.274.578.971.875.479.272.275.7
[Lleihau]Cymru77.170.073.576.270.373.276.069.572.876.370.673.476.771.674.1
Cymru[Lleihau]Gorllewin Cymru a'r Cymoedd74.968.371.674.169.371.774.268.571.375.970.673.375.069.872.4
Gorllewin Cymru a'r CymoeddYnys Môn79.576.477.972.578.075.273.873.173.575.170.772.978.978.578.7
Gwynedd76.471.874.274.272.373.373.270.371.875.278.376.774.169.171.6
Conwy79.369.574.477.370.273.876.169.772.981.773.477.773.874.173.9
Sir Ddinbych76.268.372.271.569.370.475.269.272.175.965.770.676.366.571.2
Ceredigion68.563.666.171.670.370.976.273.074.673.272.472.868.776.872.7
Sir Benfro77.766.772.177.572.875.279.570.574.977.670.073.879.969.274.7
Sir Gaerfyrddin76.068.372.172.169.170.671.266.869.074.068.871.475.270.072.5
Abertawe74.865.170.172.667.970.374.668.571.774.374.474.476.271.974.1
Castell-nedd Port Talbot77.271.874.572.570.971.774.772.273.475.564.970.077.067.472.1
Pen-y-bont ar Ogwr77.369.873.579.168.573.875.366.670.974.271.572.970.267.568.8
Rhondda Cynon Taf68.269.268.772.665.168.874.662.868.679.370.674.971.768.370.0
Merthyr Tudful74.169.471.870.264.567.465.166.565.875.767.971.771.967.869.8
Caerffili76.263.569.877.267.672.274.372.373.374.469.371.876.072.274.0
Blaenau Gwent71.269.370.272.373.572.967.566.366.977.172.374.674.260.667.2
Tor-faen74.268.371.276.969.973.375.466.170.776.266.771.482.168.575.6
[Lleihau]Dwyrain Cymru80.772.976.879.572.075.779.271.175.176.970.573.779.574.476.9
Dwyrain CymruSir y Fflint80.878.779.781.377.379.277.476.677.080.676.878.780.381.681.0
Wrecsam77.673.875.777.069.373.176.872.374.469.071.570.283.377.680.5
Powys79.972.576.375.476.575.976.374.675.575.675.875.776.071.874.0
Bro Morgannwg82.774.278.476.971.274.080.970.675.584.972.878.276.876.476.6
Caerdydd82.070.676.282.267.774.981.667.474.577.565.671.680.671.276.1
Sir Fynwy81.274.577.981.178.379.781.372.776.883.272.377.779.274.877.0
Casnewydd78.870.774.777.574.075.876.371.173.770.868.669.776.672.074.3
[Ehangu]Gogledd CymruDyma rhanbarth economaidd Gogledd Cymru. Gweler y wybodaeth gryno am ragor o fanylion.78.473.475.976.472.674.575.772.173.976.273.374.878.175.176.6
[Ehangu]Canolbarth CymruMae hyn yn frasamcan i\'r rhanbarth Canolbarth Cymru. Gweler y wybodaeth gryno am ragor o fanylion.75.469.172.373.974.074.076.374.075.274.774.574.673.273.973.5
[Ehangu]De-orllewin CymruDyma rhanbarth economaidd De-orllewin Cymru. Gweler y wybodaeth gryno am ragor o fanylion.76.167.671.973.369.771.574.669.271.975.070.272.676.770.073.4
[Ehangu]De-ddwyrain CymruDyma rhanbarth economaidd De-ddwyrain Cymru. Gweler y wybodaeth gryno am ragor o fanylion.77.269.773.477.769.173.376.868.072.477.269.173.176.570.573.5
[Ehangu]Canolbarth a’r De-orllewin CymruDyma rhanbarth economaidd Canolbarth a’r Dde-orllewin Cymru. Gweler y wybodaeth gryno am ragor o fanylion.75.967.972.073.470.672.075.070.272.674.971.173.075.970.873.4

Metadata

Disgrifiad cyffredinol

Cymerir y data hyn o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg o'r Llafurlu a gynhelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), gan ddarparu data'r farchnad lafur yn ôl i 1996 ar gyfer yr ardaloedd NUTS2 yng Nghymru, ac yn ôl i 2001 ar gyfer yr awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae argaeledd data awdurdodau lleol yn dibynnu ar sampl gwell (oddeutu 350 y cant yn fwy) ar gyfer yr Arolwg blynyddol o'r Llafurlu, a ddechreuodd yn 2001.

Ar gyfer y blynyddoedd sydd wedi'u labelu 1996 i 2004 yn y set ddata hon, y gwir gyfnodau yr ymdrinnir â hwy yw'r 12 mis sy'n rhedeg o fis Mawrth yn y flwyddyn a nodir i fis Chwefror yn y flwyddyn ganlynol (e.e. 2001 = 1 Mawrth 2001 i 28 Chwefror 2002).

Ers 2004, mae'r data blynyddol wedi cael eu cynhyrchu fel data blynyddol treigl, sy'n cael eu diweddaru bob tri mis, ac erbyn hyn cyfeirir at y set ddata fel yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae'r cyfartaleddau blynyddol treigl yn dilyn y calendr ac mae'r cyfartaledd blynyddol treigl cyntaf a ddangosir yma yn ymdrin â'r cyfnod 1 Ionawr 2004 i 31 Rhagfyr 2004, ac wedyn data sy'n ymdrin â'r cyfnod 1 Ebrill 2004 i 31 Mawrth 2005, gyda diweddariadau chwarterol treigl wedi hynny.

Nodwch felly bod y cyfartaleddau blynyddol treigl olynol yn gorgyffwrdd gan naw mis, a bod gorgyffyrddiad o ddeufis hefyd rhwng y cyfnod olaf a ddangosir ar hen sail Mawrth i Chwefror, a’r cyfnod cyntaf ar y sail newydd.

Gellir rhannu'r boblogaeth i boblogaethau economaidd weithgar ac economaidd anweithgar. Mae'r boblogaeth economaidd weithgar yn cynnwys personau sydd mewn cyflogaeth a phersonau sy'n ddi-waith yn ôl diffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO). Mae'r adroddiad hwn yn caniatáu i'r defnyddiwr gyrchu'r data hyn.
Er bod pob mesur ar gael ar gyfer gwahanol seiliau poblogaeth, defnyddir sail poblogaeth safonol swyddogol ar gyfer pob un o'r mesurau, fel a ganlyn.
Poblogaeth 16 oed a throsodd: Lefel gweithgarwch economaidd, Lefel cyflogaeth, Lefel diweithdra'r ILO
Poblogaeth 16-64 oed: Lefel anweithgarwch economaidd
Defnyddir y boblogaeth 16-64 fel y sail ar gyfer anweithgarwch economaidd. Trwy eithrio personau o oedran pensiwn sydd fel arfer wedi ymddeol ac felly'n economaidd anweithgar, mae hyn yn rhoi mesur mwy priodol o anweithgarwch yn y gweithlu.
Mae'r cyfraddau ar gyfer pob un o'r mesurau uchod hefyd yn cael eu cyfrifo mewn modd safonol ac maent ar gael yn y set ddata. Ac eithrio cyfradd diweithdra'r ILO, mae pob cyfradd yn cael ei diffinio yn nhermau'r gyfran o'r boblogaeth sydd ym mhob categori. Diffinnir cyfradd diweithdra'r ILO fel personau di-waith yr ILO fel canran o'r boblogaeth economaidd weithgar.
Er bod pob cyfradd ar gael ar gyfer y gwahanol seiliau poblogaeth, defnyddir sail poblogaeth safonol swyddogol ar gyfer pob un o'r cyfraddau, fel a ganlyn:
Canran y boblogaeth 16-64 oed: Gweithgarwch economaidd, Cyflogaeth, Anweithgarwch economaidd
Canran y boblogaeth economaidd weithgar 16 oed a throsodd: diweithdra'r ILO


Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'n bosibl na fydd y ffigurau ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru ar gyfer 2001, 2002 a 2003 yn y tablau hyn yr un peth â ffigurau a gyhoeddwyd mewn mannau eraill, gan fod y niferoedd yma'n cael eu hamcangyfrif gan ddefnyddio pwysoli penodol i Gymru. Mae'r pwysoli hwn yn adlewyrchu'n well yr amcangyfrifon poblogaeth ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru yn y blynyddoedd hyn.

Cesglir data’r Arolwg o’r Llafurlu drwy gydol y flwyddyn, ac mae ar gael o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r set ddata hon yn cynnwys y canlyniadau blynyddol diweddaraf, fel y cyfeirir atynt yn yr ail bwynt bwled isod.

. Mae data allweddol ar y farchnad lafur yn cael eu diweddaru bob mis gan ddangos y sefyllfa ar gyfer y tri mis diweddaraf, ar gyfer y DU a phob un o’r gwledydd yn y DU a phob rhanbarth yn Lloegr. Nodwch fod y data hyn wedi’u haddasu’n dymhorol a hefyd nad yw’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyhoeddi unrhyw ddata is-ranbarthol (h.y. awdurdod lleol) yn ôl amserlen fisol.

. Mae canlyniadau blynyddol sy’n ymdrin â’r cyfnodau a ddisgrifiwyd yn gynharach hefyd ar gael o'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, gan ddarparu data manylach o’r Arolwg o’r Llafurlu, gan gynnwys data ar gyfer ardaloedd islaw lefel Cymru. Mae’r setiau data blynyddol hyn yn defnyddio canlyniadau o’r samplau o’r arolygon chwarterol a ddefnyddir ar gyfer y cyfresi allweddol, ynghyd â chanlyniadau o bersonau ychwanegol a samplwyd er mwyn darparu set ddata fwy cadarn (cyfnerthedig), ac mae'r amcangyfrifon yn destun amrywioldeb samplu llawer llai.

. Mae canlyniadau chwarterol ar gael hefyd, ac mae’r rhain eto’n darparu data manylach o’r Arolwg o’r Llafurlu na’r cyfresi allweddol, gan gynnwys data ar gyfer ardaloedd islaw lefel Cymru. Fodd bynnag, er bod y data hyn ar gael yn gynharach na’r data a gymerir o’r setiau data blynyddol, nid yw’r data ar gyfer ardaloedd islaw lefel Cymru a gymerir o’r setiau data chwarterol yn cael eu cynnwys ar Stats Cymru mwyach gan fod y canlyniadau’n llawer llai cadarn na’r rheiny sy’n dod o’r setiau data blynyddol.

Nodwch oherwydd y cymerir y data o'r setiau data BLYNYDDOL o'r Arolwg o'r Llafurlu NAD ydynt yn cyfateb yn union i'r cyfartaleddau blynyddol a ddeilliwyd o'r 4 set ddata CHWARTEROL yn y cyfnod perthnasol o 12 mis yr ymdrinnir ag ef oherwydd gwahaniaethau yn y strwythur samplu.

Nodwch hefyd fod y data a ddangosir yma ar gyfer Cymru a’r DU yn gyson â’r data islaw lefel Cymru, ac felly nad ydynt wedi cael eu haddasu’n dymhorol. At hynny nid ydynt yn cymryd i ystyriaeth yr amcangyfrifon poblogaeth a gyhoeddwyd ers mis Chwefror 2003 wrth bwysoli’r canlyniadau (mae’r pwysoli ers hynny wedi’i seilio ar amcanestyniadau). Felly nid ydynt yn cyd-fynd â’r data allweddol ar y farchnad lafur ar gyfer Cymru a’r DU.

Nomis yw'r porth swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.

Nodwch yn olaf fod mesur diweithdra’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol (ILO) yn wahanol i fesur diweithdra arall a ddefnyddir yn aml, sef nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra. Mae'r ail yn gyfrifiad o'r holl bobl sy'n hawlio budd-daliadau cysylltiedig â diweithdra, a chan hynny, nid yw'n destun amrywioldeb samplu. Fodd bynnag, mae'n eithrio'r rheiny sy’n ddi-waith nad ydynt yn gymwys i hawlio (er enghraifft y rheiny sydd allan o waith ond sydd â phartner sy'n gweithio), a'r rheiny nad ydynt eisiau hawlio. Mae mesur yr ILO, sy'n gyfrifiad o'r rheiny sydd allan o waith ac sydd eisiau swydd, sydd wedi mynd ati i chwilio am waith yn y 4 wythnos diwethaf ac sydd ar gael i ddechrau gweithio yn y pythefnos nesaf; a hefyd y rheiny sydd allan o waith, sydd wedi dod o hyd i swydd ac sy'n aros i ddechrau yn y pythefnos nesaf, yn fesur mwy cynhwysol o ddiweithdra, a ddefnyddir ledled y byd.

Amlder cyhoeddi

Chwarterol

Cyfnodau data dan sylw

1996 i 2023

Talgrynnu wedi'u ddefnyddio

Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.

Teitl

Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth / Arolwg o'r Llafurlu Lleol: Crynodeb o weithgarwch economaidd

Diweddariad diwethaf

30 Ionawr 2024 30 Ionawr 2024

Diweddariad nesaf

Ebrill 2024

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Marchnad Lafur

Ansawdd ystadegol

Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19.
Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Dylai'r newidiadau mae'r SYG wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol unigol nag yn y data ar gyfer Cymru.