Unigolion yng Nghymru mewn gwaith yn ôl gwlad enedigol a blwyddyn
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Trigolion Cymru a anwyd y tu allan i'r Deyrnas UnedigDiweddariad diwethaf
9 Hydref 2024Diweddariad nesaf
Ionawr 2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
Ystadegau.MarchnadLafur@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi gwybodaeth am weithwyr ymfudol yng Nghymru o bob rhan o'r byd gyda rhaniad rhwng data sy'n ymwneud â gwledydd yn yr Undeb Ewropeaidd a mannau eraill.Casgliad data a dull cyfrifo
Nomis yw'r porth swyddogol y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer ystadegau'r farchnad lafur. Sylwer y gall rhai amcangyfrifon o Nomis ar gyfer yr APS fod yn ychydig yn wahanol i'r rhai a gyflwynir yma, oherwydd y gwahaniaethau yn y ffordd mae’r daearyddiaethau awdurdodau lleol yn cael eu hadeiladu.Amlder cyhoeddi
ChwarterolCyfnodau data dan sylw
2004 i 2024Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Mae'r ffigurau wedi'u talgrynnu i'r 100 agosaf ac felly mae'n bosibl y bydd rhai mân anghysondebau ymddangosiadol rhwng swm yr eitemau sy'n rhan ohonynt a'r cyfansymiau fel y'u dangosir.Ansawdd ystadegol
Mae ymatebion i’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) yn cael eu pwysoli i ragamcaniadau poblogaeth swyddogol. Roedd y rhagamcaniadau ar gyfer 2020 yn seiliedig ar 2018, ac, felly, roeddent yn seiliedig ar dueddiadau demograffig a oedd yn rhagddyddio’r pandemig COVID-19.Er mwyn caniatáu ar gyfer gwahanol dueddiadau yn ystod y pandemig, mae'r ymatebion ar gyfer yr APS wedi'u hail-bwysoli ar 9 Medi 2021 i boblogaethau newydd sy'n deillio o gyfraddau twf o Wybodaeth Amser Real (RTI) o Refeniw a Thollau EM (HMRC). Mae'r ail-bwysoli wedi'i gymhwyso o'r flwyddyn data sy’n diweddu Mawrth 2020 ymlaen ac mae'n rhoi amcangyfrifon gwell o'r cyfraddau a'r lefelau.
Dylai'r newidiadau mae'r SYG wedi'u gwneud i'r pwysoli leihau gogwydd yr amcangyfrifon ar lefelau uchel o gyfanrediadau. Efallai y bydd rhai dadansoddiadau llai yn cael eu heffeithio'n negyddol a gellir gweld newidiadau mwy eithafol o ystyried maint llai y sampl sylfaenol ers dechrau'r pandemig.
Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol unigol nag yn y data ar gyfer Cymru.