Plant sy'n byw mewn aelwydydd heb waith yn ôl ardal, newidyn a statws yr aelwyd
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Data agored
Teitl
Aelwydydd heb waith yn ôl awdurdod lleol yng NghymruDiweddariad diwethaf
26 Tachwedd 2019Diweddariad nesaf
Tachwedd 2020Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau GwladolCyswllt ebost
ystadegau.economi@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
Awdurdodau lleolCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r set ddata hon yn rhoi manylion yr aelwydydd heb waith yng Nghymru.Casgliad data a dull cyfrifo
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn arolwg sampl blynyddol o aelwydydd mewn cyfeiriadau preifat yn y DU. Mae'r arolwg blynyddol yn defnyddio canlyniadau o'r rheiny a samplwyd ar gyfer y prif Arolwg chwarterol o'r Llafurlu ac ers 2001 mae personau ychwanegol wedi cael eu samplu bob blwyddyn er mwyn darparu set ddata flynyddol fwy cadarn (cyfnerthedig) ar draws y DU, ac mae'r amcangyfrifon yn destun amrywioldeb samplu llawer llai. Ar gyfer Cymru, erbyn hyn mae'r data wedi'u seilio ar sampl gwell (oddeutu 350 y cant yn fwy) o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol.Mae'r personau ychwanegol a samplir yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth wedi'u seilio ar bedair ton, dros bedair blynedd yr arolwg. Ar gyfer y don gyntaf, mae'r gyfradd ymateb yng Nghymru oddeutu 65%, ac mae oddeutu 80% o'r rhain ar ôl erbyn y bedwaredd don. Caiff bron 18,000 o aelwydydd i gyd eu samplu bob blwyddyn ar gyfer yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yng Nghymru.
Trwy gasglu gwybodaeth am bob aelod o'r aelwydydd sy'n cymryd rhan, mae'r Arolwg o'r Llafurlu hefyd yn darparu ystadegau ar lefel teuluoedd ac aelwydydd sy'n disgrifio statws gweithgarwch economaidd cyfun aelodau teuluoedd ac aelwydydd. Yn hydref 2008, lansiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol setiau data blynyddol newydd ar gyfer ardaloedd lleol o'r enw setiau data aelwydydd yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Maent yn caniatáu cynhyrchu ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer teuluoedd ac aelwydydd yn ôl ardaloedd lleol ac ar gyfer is-grwpiau bach o'r boblogaeth ar draws y DU. Hwn hefyd yw prif ffynhonnell ystadegau ar aelwydydd 'sy'n gweithio' (lle mae'r holl oedolion yn gweithio); aelwydydd 'cymysg' (ag oedolion sy'n gweithio a rhai nad ydynt yn gweithio); ac aelwydydd 'di-waith' (lle nad yw unrhyw un o'r oedolion yn gweithio).