Neidio i'r cynnwys
Darparwr data: Llywodraeth Cymru Ystadegau Gwladol Aelwydydd heb waith yn ôl ardal, newidyn a statws yr aelwyd
None
Cod Ardal[Hidlo]
[Lleihau]Statws aelwyd[Hidlwyd]
-
Statws aelwyd 1[Hidlwyd]
Math[Hidlwyd]
Blwyddyn[Hidlwyd]
Measure2
Newidyn[Hidlo]
[Lleihau]Ardal[Hidlo]
-
-
Ardal 1
Cliciwch yma i ddidoliNiferCliciwch yma i ddidoliCanran
[Ehangu]Y Deyrnas Unedig3,038,60014.5
[Lleihau]Cymru166,20017.2
CymruYnys Môn3,40017.8
Gwynedd6,50017.5
Conwy5,60017.6
Sir Ddinbych4,40016.1
Sir y Fflint6,60014.2
Wrecsam6,10014.6
Powys5,10013.5
Ceredigion4,20018.4
Sir Benfro8,00022.4
Sir Gaerfyrddin10,40017.8
Abertawe16,40022.0
Castell-nedd Port Talbot9,30020.9
Pen-y-bont ar Ogwr9,40022.3
Bro Morgannwg4,40011.2
Caerdydd16,30013.3
Rhondda Cynon Taf16,50020.6
Merthyr Tudful3,90021.1
Caerffili9,80017.1
Blaenau Gwent4,60019.9
Tor-faen5,50019.0
Sir Fynwy2,70010.3
Casnewydd7,00014.7
[Ehangu]Gogledd Cymru32,60016.0
[Ehangu]Canolbarth a De-orllewin Cymru53,40019.5
[Ehangu]De-ddwyrain Cymru80,20016.5

Metadata

Teitl

Aelwydydd heb waith yn ôl awdurdod lleol yng Nghymru

Diweddariad diwethaf

26 Tachwedd 2019 26 Tachwedd 2019

Diweddariad nesaf

Tachwedd 2020

Sefydliad cyhoeddi

Llywodraeth Cymru

Ffynhonnell 1

Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, y Swyddfa Ystadegau Gwladol

Cyswllt ebost

ystadegau.economi@llyw.cymru

Dynodiad

Ystadegau Gwladol

Lefel isaf o ddadelfennu daearyddol

Awdurdodau lleol

Cwmpas daearyddol

Cymru

Cwmpas ieithyddol

Saesneg a Chymraeg

Trwyddedu data

Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraeg

Allweddeiriau

Aelwydydd Heb Waith;

Disgrifiad cyffredinol

Mae'r set ddata hon yn rhoi manylion yr aelwydydd heb waith yng Nghymru.

Casgliad data a dull cyfrifo

Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn arolwg sampl blynyddol o aelwydydd mewn cyfeiriadau preifat yn y DU. Mae'r arolwg blynyddol yn defnyddio canlyniadau o'r rheiny a samplwyd ar gyfer y prif Arolwg chwarterol o'r Llafurlu ac ers 2001 mae personau ychwanegol wedi cael eu samplu bob blwyddyn er mwyn darparu set ddata flynyddol fwy cadarn (cyfnerthedig) ar draws y DU, ac mae'r amcangyfrifon yn destun amrywioldeb samplu llawer llai. Ar gyfer Cymru, erbyn hyn mae'r data wedi'u seilio ar sampl gwell (oddeutu 350 y cant yn fwy) o gymharu â'r blynyddoedd blaenorol.

Mae'r personau ychwanegol a samplir yn yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth wedi'u seilio ar bedair ton, dros bedair blynedd yr arolwg. Ar gyfer y don gyntaf, mae'r gyfradd ymateb yng Nghymru oddeutu 65%, ac mae oddeutu 80% o'r rhain ar ôl erbyn y bedwaredd don. Caiff bron 18,000 o aelwydydd i gyd eu samplu bob blwyddyn ar gyfer yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yng Nghymru.

Trwy gasglu gwybodaeth am bob aelod o'r aelwydydd sy'n cymryd rhan, mae'r Arolwg o'r Llafurlu hefyd yn darparu ystadegau ar lefel teuluoedd ac aelwydydd sy'n disgrifio statws gweithgarwch economaidd cyfun aelodau teuluoedd ac aelwydydd. Yn hydref 2008, lansiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol setiau data blynyddol newydd ar gyfer ardaloedd lleol o'r enw setiau data aelwydydd yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Maent yn caniatáu cynhyrchu ystadegau'r farchnad lafur ar gyfer teuluoedd ac aelwydydd yn ôl ardaloedd lleol ac ar gyfer is-grwpiau bach o'r boblogaeth ar draws y DU. Hwn hefyd yw prif ffynhonnell ystadegau ar aelwydydd 'sy'n gweithio' (lle mae'r holl oedolion yn gweithio); aelwydydd 'cymysg' (ag oedolion sy'n gweithio a rhai nad ydynt yn gweithio); ac aelwydydd 'di-waith' (lle nad yw unrhyw un o'r oedolion yn gweithio).

Amlder cyhoeddi

Blynyddol

Cyfnodau data dan sylw

2004 i 2018

Gwybodaeth am ddiwygiadau

Ym mis Mawrth 2019, adolygwyd y data Arolwg Boblogaeth Blynyddol yn ôl i 2012, oherwydd mae'n ystyried yr amcangyfrifon diweddaraf o'r boblogaeth.

Ansawdd ystadegol

Gan fod y data'n dod o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon wedi'u seilio ar samplau ac felly'n destun graddau gwahanol o amrywioldeb samplu, h.y. mae'r gwir werth ar gyfer unrhyw fesur mewn ystod wahanol o amgylch y gwerth amcangyfrifedig. Mae'r ystod neu amrywioldeb samplu hwn yn cynyddu wrth i'r manylder yn y data gynyddu, er enghraifft mae mwy o amrywioldeb yn nata awdurdodau lleol unigol nag yn y data ar gyfer Cymru.