Ymgysylltiad partneriaeth â sefydliadau yn ôl ardal, lefel ymgysylltiad a phresenoldeb mewn cyfarfodydd
Wedi ei archifo (Saesneg yn unig) – Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach.
None
|
Metadata
Title
Comf0010: Ymgysylltiad y bartneriaeth â sefydliadau lleol yn ôl y lefel o ymgysylltiad a phresenoldeb yng nghyfarfodyddAuthor
Llywodraeth Cynulliad CymruNotes
Diweddariad: Chwefror 2012Ychwanegwyd i StatsCymru: Chwefror 2012
Diweddariad Nesaf: Nid yw’n cael ei ddiweddaru mwyach.
Ychwanegwyd i StatsCymru: Chwefror 2013 (dros dro)
Ffynhonnell: Adroddiadau Monitro Blynyddol Ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf wedi cyflwyno i Lywodraeth Cynulliad Cymru
Cyswllt: stats.pss@wales.gsi.gov.uk
Mae’r tabl hwn yn dangos y lefel o ymgysylltiad rhwng y Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf a sefydliadau partner, wedi'i ddadansoddi yn ôl pa mor aml y mae'r sefydliad yn mynychu cyfarfodydd y Bartneriaeth. Sylwch fod yr adran hon yn rherstru ‘Adrannau’r Awdurdod Lleol’ fel pennawd a gall partneriaethau gofnodi ymgysylltiad gyda mwy nag un adran yr awdurdod lleol.
Prosiect blaenllaw o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Cymunedau yn Gyntaf, ar gyfer gwella amodau byw a rhagolygon pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru.
I gael gwybodaeth bellach am y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, ewch i wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru:
<a href=http://wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/regeneration/communitiesfirst target=_blank>yma.</a>
Fel rhan o'r gwaith monitro parhaus o raglen Cymunedau yn Gyntaf, mae'n rhaid i Bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf gyflwyno Adroddiadau Monitro Blynyddol i Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae'r tablau yn yr adran hon yn dangos y data a ddychwelwyd gan Bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf yn yr Adroddiadau Monitro Blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2009/10 a 2010/11. Dylid nodi mai dim ond ar gyfer Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf y mae'r data a ddangosir ac nid yw'n cynnwys data ar gyfer timau canolog neu weithgareddau cymorth ar draws ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, sy'n cael eu trafod ar wahân.
Mae gwybodaeth am y data ('metadata') ynghlwm wrth bob tabl sy'n darparu gwybodaeth bellach, er enghraifft ffynhonnell y data a chrynodeb byr o'r data a ddarperir.