
None
|
Metadata
- Gwybodaeth cryno
- Gwybodaeth lefel uchel
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Disgrifiad cyffredinol
Mae’r adroddiad “Cymunedau yn Gyntaf: Llinell Sylfaen 2012” yn darparu llinell sylfaen ar gyfer pob clwstwr Cymunedau yn Gyntaf, yn dilyn adlinio’r rhaglen ym mis Ebrill 2012. Cymunedau yn Gyntaf yw rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru i wella amodau byw a rhagolygon pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ar draws Cymru. Mae'n dwyn ynghyd cyfoeth o ddata ar bob clwstwr Cymunedau'n Gyntaf - yn cynnwys data o Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2011 a Chyfrifiad 2011. Mae Cymunedau yn Gyntaf yn anelu at gyfrannu, ochr yn ochr â rhaglenni eraill, i gulhau'r bylchau mewn addysg / sgiliau, economi ac iechyd rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a’r rhai mwy cefnog. Mae gan y Rhaglen dri amcan strategol sy’n helpu i gyflawni’r canlyniadau hyn: Cymunedau Ffyniannus, Cymunedau Dysgu, a Chymunedau Iach.Ffynhonnell: Cymunedau yn Gyntaf: Llinell Sylfaen 2012
Cyswllt: ystadegau.cynhwysiant@cymru.gsi.gov.uk