Plant, pobl o oedran gweithio a phensiynwyr mewn amddifadedd materol, cyn costau tai, Cymru, cyfartaledd dros dair blwyddyn ariannol (FYE) 2007 i 2023
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Dolenni'r we
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Data agored
Teitl
Plant, pobl o oedran gweithio a phensiynwyr mewn amddifadedd materol, cyn costau tai, Cymru, cyfartaledd dros dair blwyddyn ariannol (FYE) 2007 i FYE 2023Diweddariad diwethaf
Mawrth 2024Diweddariad nesaf
2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog, Arolwg Adnoddau Teuluol, yr Adran Gwaith a PhensiynauCyswllt ebost
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
CymruCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno data ar blant yng Nghymru sy'n byw mewn amddifadedd materol ac aelwydydd incwm isel a'r pensiynwyr yng Nghymru sy'n byw mewn amddifadedd materol.Ar gyfer plant, golyga hyn eu bod yn byw ar aelwyd ni allai fforddio nwyddau a gweithgareddau penodol a gyda chyfanswm incwm yr aelwyd yn is na 70 y cant o incwm aelwyd gyfartalog y DU (cyn talu'r costau tai).
Ar gyfer pensiynwyr, mae hyn yn golygu eu bod yn byw mewn aelwyd ni allai fforddio nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am amddifadedd materol yng Nghymru gan Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Casgliad data a dull cyfrifo
Cynhyrchir y data hwn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (tîm Cartrefi islaw'r incwm cyfartalog). Maent yn deillio'r data o'r ymatebion i gwestiynau ar yr Arolwg Adnoddau Teulu (FRS).Mae teulu gyda phlant mewn amddifadedd materol ac incwm isel os oes ganddynt sgôr amddifadedd materol o 25 neu fwy ac incwm aelwyd is na 70 y cant o'r incwm canolrif cyfoes, cyn costau tai.
Cafodd cwestiynau newydd ar gyfer pedwar eitem ychwanegol i blant eu cyflwyno yn arolwg FRS FYE 2011, ac o FYE 2012 cafwyd gwared ar bedwar cwestiwn o’r gyfres wreiddiol. Nid yw'r ffigurau o’r hen gasgliad a’r casgliad newydd yn gymharol.
Roedd teulu gyda rhywun yn 65 oed neu'n hyn mewn amddifadedd materol os oes ganddynt sgôr amddifadedd materol o 20 neu fwy.
Mae'r adroddiad hwn a'r tablau yn defnyddio ffactorau gros sy’n seiliedig ar ddata'r cyfrifiad 2011, felly dylid bod yn ofalus wrth wneud cymariaethau ag adroddiadau cyn FYE 2013.
Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae’r ffigurau a ddangosir yn gyfartaleddau symudol 3 blynedd. Mae’r ffigurau ar gyfer Cymru o FYE 2007, i 2023.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Ewch i'r dudalen ystadegau tlodi am fwy o fanylion (cyswllt dan “dolenni’r we”)Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Gweler y tab cefndir ar dudalen we Ystadegau Tlodi ac Adroddiad gwybodaeth ansawdd a methodoleg HBAI (Saesneg yn unig) am ragor o fanylion (cyswllt dan “dolenni’r we”)Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ar gyfer cyhoeddiad FYE 2020, bu diwygiad methodolegol mân i’r gyfres data Cartrefi Islaw Ystadegau Incwm Cyfartalog gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i gasglu holl incwm o Gynhaliaeth Plant. O ganlyniad i hyn roedd mwy o incwm o gynhaliaeth plant yn cael ei gynnwys, gan gynyddu rhai incwm aelwydydd ychydig ac felly‘n tueddu lleihau’r cyfraddau incwm isel ar gyfer teuluoedd â phlant. Mae’r gyfres lawn (yn ôl i 1994/95) wedi’i diwygio i sicrhau bod cymariaethau dros amser ar sail gyson ar draws y gyfres amser llawn. Yn nhermau effaith y diwygiadau, yn y mwyafrif o achosion mae’r canran o bobl mewn incwm isel heb newid ar ôl eu talgrynnu i’r pwynt canran agosaf.Dolenni'r we
https://llyw.cymru/amddifadedd-materol-ac-incwm-iselhttps://www.gov.uk/government/collections/households-below-average-income-hbai--2 [Saesneg yn unig]
Allweddeiriau
Cynhwysiant Cymdeithasol; HBAI; Tlodi; amddifadedd materolAnsawdd ystadegol
Nodyn 1: Cafodd cwestiynau newydd ar gyfer pedwar eitem ychwanegol i blant eu cyflwyno yn arolwg am y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2011, ac o FYE 2012 cafwyd gwared ar bedwar cwestiwn o’r gyfres wreiddiol. Nid yw'r ffigurau o’r hen gasgliad a’r casgliad newydd yn gymharol.Nodyn 2: Nid yw amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy'n rhychwantu'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2021 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod FYE 2021 mewn cyfrifiadau. Ar gyfer y ddau gyfnod diweddaraf a ddangosir, mae amcangyfrifon a gyfrifwyd gynt fel cyfartaleddau treigl 3 blynedd yn seiliedig ar gyfartaleddau treigl 2 mlynedd sy'n hepgor data arolwg FYE 2021. Mae amcangyfrifon FYE 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan wnaeth rheolau'r cyfyngiadau symud amharu'n ddifrifol ar y casglu data.
Nodyn 3: Ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2022 a 2023, nid oes modd cymharu amcangyfrifon o amddifadedd materol yn llwyr â'r cyfnod cyn y pandemig. Effeithiwyd ar sawl un o'r cwestiynau a ofynnwyd fel rhan o'r mesur amddifadedd materol gan gyfyngiadau sy'n gysylltiedig â'r pandemig ar fynediad at wasanaethau a chyfleoedd cymdeithasol.
Gweler y tab cefndir ar dudalen we Ystadegau Tlodi ac Adroddiad gwybodaeth ansawdd a methodoleg HBAI (Saesneg yn unig) am ragor o fanylion (cyswllt dan “dolenni’r we”)