Amddifadedd materol
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi diweddaru ei dull ar gyfer amcangyfrif amddifadedd materol, felly nid yw'r data diweddaraf ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben (FYE) 2024 yn uniongyrchol gymharol â blynyddoedd blaenorol. Gan mai dyma'r flwyddyn gyntaf sy'n defnyddio'r dull newydd, dim ond un flwyddyn o ddata sydd ar gael. Oherwydd materion maint sampl, nid yw amcangyfrifon un flwyddyn ar gyfer gwahanol wledydd a rhanbarthau'r DU yn cael eu cyhoeddi. Yn hanesyddol, defnyddiwyd cyfartaledd tair blynedd, ond mae newidiadau diweddar yn eithrio data o FYE 2021.
Oherwydd y newidiadau hyn, ni all DWP ddiweddaru'r amcangyfrifon tair blynedd arferol ar gyfer Cymru ar hyn o bryd. Rydym yn bwriadu rhyddhau erthygl yn gynnar yn yr haf yn esbonio'r newidiadau ac yn darparu rhai amcangyfrifon (un flwyddyn) ar gyfer Cymru, ynghyd â chyfyngau hyder. Bydd y dyddiad rhyddhau yn cael ei gyhoeddi o leiaf bedair wythnos ymlaen llaw. Am ragor o fanylion, gallwch gyfeirio at Adroddiad Technegol DWP.
Nid ydym wedi cyhoeddi amcangyfrifon o amddifadedd materol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21. Y rheswm am hyn yw bod COVID-19 wedi effeithio ar broses casglu data 2020-21, ac ar gyfer llawer o ddadansoddiadau o'r prif amcangyfrifon (gan gynnwys amcangyfrifon gwledydd y DU) nid yw'n bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â'r lefel cyn y coronafeirws.
Yn hytrach, rydym wedi cyhoeddi erthygl o fesurau tlodi (gweler isod) sy'n disgrifio'r materion sy’n ymwneud ag ansawdd data, ac yn cyflwyno ffigurau sy'n ymwneud â thlodi yng Nghymru gan ddefnyddio data ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog 2020-21 ochr yn ochr â chyfyngau hyder a rhybuddion ychwanegol. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau tryloywder llwyr, ond cynghorwn na ddylid defnyddio set ddata annibynadwy 2020-21 ar gyfer Cymru. Cyfeiriwch at ddata amddifadedd materol yn yr adroddiadau isod ar gyfer Ystadegau Gwladol diweddaraf Cymru.
Mae'r adroddiad yma yn cynnwys data ar y ganran o blant yng Nghymru sy'n byw mewn amddifadedd materol ac incwm isel a chanran y pensiynwyr yng Nghymru sy'n byw mewn amddifadedd materol (gweler metadata am fwy o fanylion).
Adroddiadau
![]() |
Plant, pobl o oedran gweithio a phensiynwyr mewn amddifadedd materol, cyn costau tai, Cymru, cyfartaledd dros dair blwyddyn ariannol (FYE) 2007 i 2023 |
![]() |