Canran yr holl unigolion, plant, oedolion oedran gweithio a phensiynwyr sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer gwledydd a rhanbarthau’r DU rhwng y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 1995 a FYE 2023 (cyfartaleddau o 3 blynedd ariannol)
None
|
Metadata
- Gwybodaeth lefel uchel
- Gwybodaeth cryno
- Allweddeiriau
- Gwybodaeth ansawdd ystadegol
- Dolenni'r we
- Data agored
Teitl
Aelwydydd islaw'r incwm cyfartalogDiweddariad diwethaf
Mawrth 2024Diweddariad nesaf
2025Sefydliad cyhoeddi
Llywodraeth CymruFfynhonnell 1
Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog, Arolwg Adnoddau Teuluol, yr Adran Gwaith a PhensiynauCyswllt ebost
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymruDynodiad
Ystadegau GwladolLefel isaf o ddadelfennu daearyddol
CymruCwmpas daearyddol
Rhanbarthau'r DUCwmpas ieithyddol
Saesneg a ChymraegTrwyddedu data
Gallwch ddefnyddio ac ailddefnyddio'r data hwn am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng, dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored - gweler http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence-cymraegDisgrifiad cyffredinol
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno data ar yr holl bobl, plant, oedolion o oedran gweithio a phensiynwyr sy'n byw mewn cartrefi sydd ag incwm aelwyd islaw 60 y cant o ganolrif incwm aelwydydd y DU cyn ac ar ôl i gostau tai gael eu talu.Casgliad data a dull cyfrifo
Darparwyd y data gan tim Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog yr Adran Gwaith a Phensiynau.Amlder cyhoeddi
BlynyddolCyfnodau data dan sylw
Mae'r ffigyrau a ddangosir ar gyfer cyfartaledd newidiol 3 blynedd. Mae'r ffigyrau yn ymdrin a Phrydain Fawr hyd at FYE 2001 i FYE 2004 a'r Deyrnas Unedig o FYE 2003 i FYE 2005.Defnyddwyr, defnydd a chyd-destun
Gweler y ddolen i wefan Gov.UK o dan y pennawd Dolenni.Talgrynnu wedi'u ddefnyddio
Gweler y ddolen i wefan Gov.UK o dan y pennawd Dolenni.Gwybodaeth am ddiwygiadau
Ar gyfer cyhoeddiad FYE 2020, bu diwygiad methodolegol mân i’r gyfres data Cartrefi Islaw Ystadegau Incwm Cyfartalog gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i gasglu holl incwm o Gynhaliaeth Plant. O ganlyniad i hyn roedd mwy o incwm o gynhaliaeth plant yn cael ei gynnwys, gan gynyddu rhai incwm aelwydydd ychydig ac felly‘n tueddu lleihau’r cyfraddau incwm isel ar gyfer teuluoedd â phlant. Mae’r gyfres lawn (yn ôl i FYE 1995) wedi’i diwygio i sicrhau bod cymariaethau dros amser ar sail gyson ar draws y gyfres amser llawn. Yn nhermau effaith y diwygiadau, yn y mwyafrif o achosion mae’r canran o bobl mewn incwm isel heb newid ar ôl eu talgrynnu i’r pwynt canran agosaf.Allweddeiriau
Cynhwysiant Cymdeithasol; HBAI; Incwm; TlodiAnsawdd ystadegol
Nodyn 1: Mae amcangyfrifon FYE 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan wnaeth rheolau'r cyfyngiadau symud amharu'n ddifrifol ar y casglu data.Nodyn 2: Roedd y casgliad o ddata yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2022 drwy gyfweliadau ffôn yn hytrach na'r dull wyneb yn wyneb sefydledig a ddefnyddiwyd cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Er ein bod wedi asesu ansawdd data FYE 2022 i fod yn ddigon cadarn i'w gyhoeddi, mae rhywfaint o ragfarn weddilliol o hyd yn sampl yr arolwg sy'n deillio o'r newid yn y modd arolygu. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data ar gael yn adroddiad technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n cyd-fynd â rhyddhau ystadegau FYE 2022.
Nodyn 3: Mae'r arolwg yn gofyn i'r ymatebwyr beth maent yn barnu yw eu tarddiad ethnig. Dosbarthwyd unigolion yn ôl grwp ethnig person cyswllt y cartref, sy'n golygu bod gwybodaeth am aelwydydd aml-ethnig yn cael ei golli. Nifer fach sy'n cael eu samplu o'r grwpiau lleiafrifoedd ethnig llai, ac am y rheswm hwn mae angen cyfuno rhai grwpiau lleiafrifoedd ethnig i un categori "Grwp Du, Asiaidd neu Ethnig Leiafrifol" a chyflwyno dadansoddiad fel cyfartaledd dros bum mlynedd. Mae'r categori Gwyn yn cynnwys Gwyn – Cymraeg/Saesneg/Albanaidd/Gogledd Iwerddon/Prydeinig ac unrhyw gefndir Gwyn arall gan gynnwys Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig.
Nodyn 4: Pobl anabl yw'r rhai sydd ag unrhyw gyflwr neu afiechyd corfforol neu feddyliol sydd wedi para, neu sy'n debyg o bara, am 12 mis neu fwy, ac sy'n cyfyngu ychydig neu gryn dipyn ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau o ddydd i ddydd. Mae hyn yn unol â diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae'r ffordd o adnabod pobl ag anabledd wedi newid dros amser, ac nid oes modd cymharu data cyn 2012/13 â'r data presennol.
Nodyn 5: Mae rhai pensiynwyr yn byw fel cwpwl gyda phartner o oedran gweithio ac felly bydd oedran y pen cartref o dan 65 oed.
Nodyn 6: Mae'r categori Cwpwl sy'n Bensiynwyr yn cynnwys rhai oedolion oedran gweithio sy'n byw fel cwpwl gyda phartner o oedran pensiwn.
Gweler y ddolen i wefan Gov.UK o dan y pennawd Dolenni.