Tlodi
Nid ydym wedi cyhoeddi'r amrywiaeth arferol o ddata tlodi ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21. Y rheswm am hyn yw bod COVID-19 wedi effeithio ar broses casglu data 2020-21, ac ar gyfer llawer o ddadansoddiadau o'r prif amcangyfrifon (gan gynnwys amcangyfrifon gwledydd y DU) nid yw'n bosibl gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau yn y flwyddyn ddiweddaraf o gymharu â'r lefel cyn y coronafeirws.
Yn hytrach, rydym wedi cyhoeddi erthygl o fesurau tlodi (gweler isod) sy'n disgrifio'r materion sy’n ymwneud ag ansawdd data, ac yn cyflwyno ffigurau sy'n ymwneud â thlodi yng Nghymru gan ddefnyddio data ar Gartrefi Islaw'r Incwm Cyfartalog 2020-21 ochr yn ochr â chyfyngau hyder a rhybuddion ychwanegol. Rydym yn gwneud hyn er mwyn sicrhau tryloywder llwyr, ond cynghorwn na ddylid defnyddio set ddata annibynadwy 2020-21 ar gyfer Cymru. Cyfeiriwch at ddata tlodi incwm cymharol yn yr adroddiadau isod ar gyfer Ystadegau Gwladol diweddaraf Cymru.
Mae'r adroddiadau yma yn cynnwys data ar y ganran o: yr holl unigolion, plant, y boblogaeth oedran gweithio a phensiynwyr sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol.
Mae person yn byw mewn tlodi incwm cymharol os ydynt yn byw mewn cartref lle mae incwm yr aelwyd yn is na 60 y cant o ganolrif incwm aelwyd y DU.
Mae'r prif ffigurau yn dod o'r cyhoeddiad aelwydydd islaw incwm cyfartalog (HBAI) gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Mae gweddill y data o ddadansoddiad pellach o ddata'r arolwg a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwnnw (yr Arolwg Adnoddau Teuluol). Mae hyn wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru.
Rhoddir y prif ffigurau ar sail cyn ac ar ôl talu costau tai. Dim ond ar ôl talu costau tai y ceir yr adroddiadau eraill gan mai dyma'r mesur a ddefnyddir yn fwy eang.
Nifer, risg a chyfansoddiad - ar wahân i'r adroddiad cyntaf a restrir, mae'r gweddill i gyd yn rhoi tri mesur: rhif, risg a chyfansoddiad.