Dadansoddiad Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Ganol (AGEHG)
Metadata
MALlC yw dull swyddogol Llywodraeth Cymru o fesur amddifadedd cymharol mewn rhannau bychain o Gymru. Ei nod yw canfod yr ardaloedd bach hynny o’r wlad sydd â’r nifer mwyaf o sawl gwahanol fath o amddifadedd. Felly, mae MALlC yn mesur amddifadedd lluosog ar sail ardal a hefyd o safbwynt amddifadedd cymharol.
Mae MALlC yn graddio ardaloedd bach yng Nghymru o 1 (mwyaf difreintiedig) I 1,909 (lleiaf difreintiedig).
Mae tair elfen sylfaenol yn perthyn i’r Mynegai:
- Y Mynegai ei hun, sef set o safleoedd;
- safleoedd yr wyth math o amddifadedd, neu faes, a ddefnyddir I lunio’r Mynegai cyffredinol;
- Y dangosyddion sylfaenol, sy’n uniongyrchol fesuradwy, ac sy’n cael eu cyfuno I greu safleoedd y meysydd. Nodir rhai, ond nid pob un, o’r dangosyddion fel cyfraddau. Mae’r unedau’n dibynnu ar yr hyn sy’n cael ei fesur.
Cyfrifir yr holl elfennau hyn ar gyfer pob ACEHI yng Nghymru. Mae safleoedd cyffredinol MALlC 2019 a safleoedd yr wyth maes amddifadedd yn cael eu cyhoeddi ar wefan StatsCymru. Os ydynt ar gael, mae data sylfaenol y dangosyddion bellach yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn ar StatsCymru.
Gweler y wybodaeth yn cyswllt gwefan.
Gweler y wybodaeth yn cyswllt gwefan.
Gweler y wybodaeth yn cyswllt gwefan.
Gweler y wybodaeth yn cyswllt gwefan.
Gweler y wybodaeth yn cyswllt gwefan.
MALlC 2019; Amddifadedd Lluosog; Amddifadedd; Cynhwysiant Cymdeithasol; AGEHI; Mynegai; Incwm; Cyflogaeth; Iechyd; Addysg; Mynediad I Wasanaethau; Diogelwch Cymunedol; Yr Amgylchedd Ffisegol; Tai; Degradd; Cwintel
WIMD1904