Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol (DAF) yn cynnig dau fath o grant. Mae’r Taliad Cymorth i Unigolion (IAP) yn helpu pobl i fyw'n annibynnol yn eu cartref eu hunain neu mewn cartref y maent yn symud i mewn iddo. Mae’r Taliad Cymorth mewn Argyfwng (EAP) yn helpu i dalu am gostau hanfodol, fel bwyd, nwy, trydan, dillad, neu deithio mewn achos o argyfwng.
O 1 Ebrill 2023 ymlaen bydd pob ymgeisydd yn gymwys i gael 3 taliad mewn cyfnod treigl o 12 mis. (Mae hyn yn cynnwys yr holl taliadau EAP a dderbyniwyd yn flaenorol o fewn y 12 mis diwethaf). Ers 2020, mae pobl a ddioddefodd effeithiau’r pandemig neu yn sgil colli’r codiad o £20 i’r Credyd Cynhwysol wedi gallu derbyn 5 taliad. Bydd y 3 taliad hwn yn uwch o ran gwerth gyda chynnydd chwyddiant o 11% ar bob dyfarniad o’r Taliad Cymorth mewn Argyfwng. Bydd y bwlch o 28 diwrnod rhwng dyddiadau ymgeisio yn gostwng i 7 diwrnod i bob ymgeisydd. Bwriad y newidiadau hyn yw caniatáu defnydd olynol o’r gronfa dros gyfnod byr pan fo argyfwng.DAF data is supplied to the Welsh Government by our service provider NEC Software Solutions UK.
Casgliad data a dull cyfrifo
Mae data DAF yn cael eu darparu i Lywodraeth Cymru gan ein darparwr gwasanaeth NEC Software Solutions UK.
Mae data DAF yn cael eu darparu i Lywodraeth Cymru gan ein darparwr gwasanaeth NEC Software Solutions UK. Nid yw'r data'n mynd drwy unrhyw brosesau dilysu ffurfiol ac felly nid ydynt yn cael eu cyhoeddi fel Ystadegyn Gwladol.